Targedu triniaethau lladd llyngyr mewn defaid

Defnyddio dulliau monitro datblygedig, mapio lefelau halogi a modelu er mwyn dibynnu llai ar gynhyrchion lladd llyngyr drwy driniaethau wedi’u targedu’n fwy penodol.

Mae ffermwyr bellach yn targedu triniaethau lladd llyngyr ar gyfer ŵyn yn well er mwyn cael cyfraddau tyfu da heb beryglu effeithiolrwydd triniaeth lladd llyngyr. Fodd bynnag, mae triniaethau ar gyfer mamogiaid yn cael eu rhoi fel mater o drefn o amgylch amser wyna oherwydd y risg bod mamogiaid yn halogi’r borfa â’r baich llyngyr y gallent fod yn ei gario. Archwiliodd y prosiect hwn i batrymau heintiau yn y famog o amgylch adeg wyna, a elwir yn gynnydd cyn esgor, i sicrhau bod triniaethau’n cael eu targedu ar yr adeg orau bosibl gan ddefnyddio’r cynnyrch mwyaf priodol.  

Bu chwe ffermwr defaid yng nghanolbarth a de-orllewin Cymru yn gweithio â’i gilydd ar y prosiect i ddatblygu cynlluniau trin llyngyr main ar gyfer eu mamogiaid yn y cyfnod cyn wyna, ac ychydig ar ôl wyna. Eu hamcanion ar gyfer y prosiect hwn oedd lleihau'r risg o heintiau parasitig mamogiaid ac ŵyn, gwella cyfraddau twf ŵyn, a lleihau eu dibyniaeth ar driniaethau lladd llyngyr.
 
Gweithgareddau'r prosiect

  • Cynhaliwyd y prosiect rhwng mis Rhagfyr 2019 a mis Mehefin 2022.
  • Dewisodd pob ffermwr grŵp o tua 100 o famogiaid bob blwyddyn (yn pori ar yr un cae) a oedd yn cael eu monitro drwy gydol y cyfnod cyn esgor.
  • Cymerwyd sampl gan y grŵp defaid i gyfri’r wyau yn eu carthion a’i ddadansoddi bob wythnos gan ddechrau 6 wythnos cyn wyna hyd at 6-8 wythnos ar ôl wyna.
  • Cynhaliwyd profion manylach ar grŵp llai o famogiaid er mwyn gwybod pa lyngyr oedd yn bresennol ar bob fferm.
  • Roedd hyn yn caniatáu i graff gael ei lunio i ddangos y cynnydd cyn esgor yn y baich llyngyr parasitig cyn wyna, ac yn fuan ar ôl wyna.
  • Cafodd pwysau a sgôr cyflwr corff y famog eu monitro gan ddechrau 6 wythnos cyn wyna hyd at 6-8 wythnos ar ôl wyna.
  • Mesurwyd pwysau ŵyn yn 56 a 90 diwrnod oed a chofnodwyd lefelau’r baich llyngyr i asesu'r effaith ar iechyd a chynhyrchiant.

 
Canlyniadau'r prosiect:

  • Mae'r cynnydd cyn esgor yn amrywio rhwng ffermydd o ran maint, amseriad a hyd. Felly, mae angen i ffermwyr defaid fonitro eu diadell i ddarganfod beth yw'r patrwm ar eu fferm er mwyn dewis yr amser mwyaf effeithiol i roi unrhyw driniaethau i famogiaid.
  • Yn gyffredinol, roedd canlyniadau cyfrif wyau ysgarthol mob a sentinel yn gytunol, sy'n cefnogi defnyddio cyfrif wyau ysgarthol mob fel offeryn monitro (ar yr amod bod y samplau'n cael eu cymryd yn unol ag arfer gorau).
  • Yn y prosiect hwn, y newid (gostyngiad) mewn sgôr cyflwr corff oedd y dangosydd o gyfrif wyau ysgarthol uwch.
  • Mae dewis y mamogiaid sydd fwyaf tebygol o fod yn gyfrifol am gyfran uchel o halogiad y borfa (y rhai sydd ag allbwn wyau uchel) yn dibynnu ar allu dod o hyd i'r rhai sy'n colli sgôr cyflwr corff ar yr adeg pan fo'r ddiadell dan bwysau maethol. 
  • Yn syml, gan ddefnyddio maint torllwyth ac amser penodol (e.e. adeg wyna) fel canllaw o ran pa famogiaid i'w trin a phryd nad yw'n ddigon manwl gywir, dylid cynghori ffermwyr i fonitro lefelau FEC mewn mamogiaid yn y cyfnod cyn, ac ar ôl wyna yn ogystal â dilyn newidiadau i sgôr cyflwr corff er mwyn iddynt benderfynu pryd yw'r amser iawn i drin.