Rebecca John
Mae Rebecca John ar ei ail blwyddyn yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth lle mae’n astudio Amaethyddiaeth a Rheoli Busnes. Merch fferm o Gas-blaidd ger Hwlffordd yw Rebecca, mae’n mwynhau gweithio gyda gwartheg godro, gwartheg bîff a defaid ar ei fferm deuluol ond pan fydd amser yn caniatáu mae hefyd yn mwynhau cyfnodau o brofiad gwaith ar fusnesau fferm eraill yn lleol.
Ond ei phrif ddiddordeb yw dangos da byw! Datblygodd y diddordeb hwn ers chwe mlynedd ac mae llawer o deuluoedd yn awr yn gofyn iddi eu helpu i arddangos eu stoc, gwartheg duon Cymreig a defaid Charolais yn neilltuol. Yn ystod hyn i gyd mae’r fyfyrwraig brysur yma yn datblygu ei diadell ei hun o ddefaid Bryniau Ceri, y mae’n gobeithio eu dangos yr haf hwn.
Enillodd Rebecca ‘fyfyriwr y flwyddyn’ am ddwy flynedd yn olynol pan oedd yn fyfyrwraig yng Ngholeg Sir Gâr yng Nghelli Aur, mae’n rwyfwraig frwdfrydig ac ar hyn o bryd yn swyddog Cymraeg i glwb rhwyfo Prifysgol Aberystwyth.
Uchelgais Rebecca yn y tymor hir yw naill ai cymryd ei fferm deuluol drosodd neu ddod o hyd i waith ym maes geneteg anifeiliaid. Yn y cyfamser, hoffai ymweld â Seland Newydd, Canada ac Awstralia i ehangu ei gwybodaeth am y diwydiant ffermio mewn gwledydd eraill.
“Ymgeisio am yr Academi Amaeth oedd un o’r penderfyniadau gorau i mi ei wneud! Rwy’n mynd i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i mi ac edrych am gyfleoedd fy hunan. Mae’r Academi Amaeth wedi gwneud i mi feddwl am fy nyfodol yn y diwydiant.”