Cadi Jones

Blaenporth, Ceredigion

Cafodd Cadi Jones ei magu wedi ymgolli mewn amaethyddiaeth ac erbyn hyn mae ganddi ei phrosiect ffermio ei hun – prynu lloi i’w magu a’u gwerthu fel bîff.

Mae Cadi, a fu’n helpu ar fferm ei nain a’i thaid pan oedd hi’n tyfu i fyny ac sydd bellach yn byw ar fferm yng Ngheredigion, yn ehangu ei gwybodaeth a’i sgiliau ffermio drwy gymryd rhan yng nghyrsiau a digwyddiadau Cyswllt Ffermio.

Mae hi ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer Diploma Uwch Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth yng Ngholeg Gelli Aur.

Yn ogystal â’i busnes magu lloi, mae gan Cadi hefyd ddau asyn fel anifail anwes y mae’n gobeithio magu ohonynt.

Mae hi wedi bod yn ffermio gyda’i rhieni ym Mhantglas, cyn fferm laeth, ers pedair blynedd, ac mae’r teulu bellach yn rhedeg buches magu ond maent yn ystyried opsiynau eraill ar gyfer dyfodol y busnes.

Dyma reswm pam y gwnaeth Cadi gais am le ar Academi Iau Cyswllt Ffermio.

“Rwyf eisiau defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth rwy’n eu hennill i wella effeithlonrwydd y fferm ac i helpu i lunio ei dyfodol."

“Rwy'n edrych ymlaen at gasglu syniadau newydd drwy weld sut mae ffermwyr eraill yn gwneud pethau, er mwyn helpu i wneud y fferm mor broffidiol â phosibl.''