Canfod statws heintiad llyngyr yr iau cynefinoedd malwod ar ffermydd fel offeryn i reoli llyngyr yr iau

Nod y prosiect oedd rhoi gwybodaeth i berchnogion tir oedd yn cymryd rhan am statws heintiad cynefinoedd malwod llyngyr ar y fferm trwy gynnal arolygon i chwilio am Galba truncatula ‘malwod llyngyr’ gan ddatblygu prawf DNA (eDNA) i ganfod eu presenoldeb mewn dŵr o’r cynefinoedd. Ymwelwyd â’r holl ffermydd rhwng 2-4 gwaith ac arolygwyd rhwng 4 a 9 o gynefinoedd gwlyb dro ar ôl tro ar bob fferm yn ystod pob ymweliad. Hidlwyd dŵr o’r cynefinoedd trwy hidlenni eDNA a chasglwyd y malwod i ddadansoddi eu DNA. Yn ychwanegol, casglwyd ysgarthion y da byw oedd yn pori’r caeau o gwmpas y cynefinoedd.

Yn ystod y prosiect fe wnaethom ganfod grwpiau o dda byw gyda llyngyr yr iau a llyngyr y rwmen trwy gyfrif wyau ysgarthol ac erbyn diwedd y prosiect roeddem yn gallu pennu a oedd yn debygol bod malwod llyngyr yn bresennol mewn cynefinoedd ac a oedd DNA llyngyr yr iau a llyngyr y rwmen yn bresennol. Mae presenoldeb malwod llyngyr yn ffactor risg amlwg o ran heintiadau llyngyr mewn da byw gan fod y malwod yn ganolog yng nghylched bywyd y llyngyr.

Fe wnaethom lwyddo i ddosbarthu’r cynefinoedd yn:

  • gynefinoedd lle na allem ganfod malwod llyngyr
  • gynefinoedd lle gwelsom falwod llyngyr neu lle gallem ganfod DNA malwod llyngyr yn y dŵr ond na wnaethom ganfod DNA llyngyr
  • gynefinoedd lle gwelsom falwod llyngyr neu lle gallem ganfod DNA malwod llyngyr yn y dŵr a chanfod DNA llyngyr naill ai yn y malwod neu’r dŵr

Fe wnaethom ddehongli bod cynefinoedd oedd yn cynnwys malwod a llyngyr yn debygol o fod wedi creu risg o heintiad llyngyr i dda byw yn ystod y tymor pori diwethaf ac y gall hyn barhau i’r tymor pori nesaf.

Fe wnaethom ddehongli gyda thystiolaeth o bresenoldeb malwod ond dim tystiolaeth o heintiad llyngyr ei fod yn llai tebygol o greu risg fawr i dda byw yn ystod y tymor pori a fu, ond y gallant greu risg yn y tymor pori nesaf os cânt eu heintio gan wyau llyngyr wedi eu gwasgaru gan dda byw yn hwyr yn y tymor pori.

Fe wnaethom ddehongli bod cynefinoedd lle na wnaethom ganfod unrhyw olion malwod na llyngyr yn llai tebygol o fod wedi creu risg i dda byw yn ystod y tymor pori diwethaf ac mae’r risg is yma yn debygol o barhau o leiaf yn gynnar yn y tymor pori nesaf. Ond, ond os yw’r cynefinoedd yma yn gynefinoedd ffafriol i falwod fe allant gael eu gwladychu gan falwod yn y dyfodol.

Credwn fod y prosiect wedi dynodi cynefinoedd oedd yn cynnwys malwod llyngyr a rhai ohonynt oedd yn debygol o fod wedi eu heintio gan lyngyr. Gall ymyraethau i leihau’r cyswllt rhwng da byw â metacercariae llyngyr fod yn gostus (ffensio, draenio) a dylai gallu rhoi blaenoriaeth i’r cynefinoedd sy’n creu’r risg fwyaf fod yn wybodaeth werthfawr i reoli’r risg llyngyr yr iau yn y dyfodol.