Cyflwyniad Prosiect Castellior: Mesur ôl-troed carbon system pesgi gwartheg bîff tir isel: canfod cyfleoedd i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar y fferm
Safle: Castellior, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, Ynys Môn
Swyddog Technegol: Non Williams
Teitl y Prosiect: Mesur ôl-troed carbon system pesgi gwartheg bîff tir isel: canfod cyfleoedd i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar y fferm
Cyflwyniad i’r prosiect:
Yn 2019, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig fabwysiadu targed o 95% o ostyngiad mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir erbyn 2050 mewn perthynas â’r targedau a gynhyrchwyd yn 1990, yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, 2019). Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r targed hwn, ac wedi datgan yn ei chynllun cyflawni carbon isel, ‘Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel’ y bydd yn lleihau cynhyrchiant nwyon tŷ gwydr ymhellach er mwyn cyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050 (Llywodraeth Cymru, 2019b). Oherwydd hyn, mae’n gyfrifoldeb ar bob sector i leihau ei allyriadau nwyon tŷ gwydr cysylltiedig. Y sector amaeth oedd yn gyfrifol am 12% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru yn 2016 (Llywodraeth Cymru, 2019a). Ar gyfer systemau da byw, mae cyfran sylweddol o’r allyriadau hyn yn digwydd ar ffurf methan, drwy eplesu enterig, ac allyriadau ocsid nitraidd o briddoedd drwy ddefnyddio gwrtaith nitrogen a thail.
Er hynny, mae systemau da byw yn ffynhonnell ac yn ddalfa i nwyon tŷ gwydr, a cheir cryn botensial i ddileu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer drwy ddal a storio carbon mewn priddoedd, coed a gwrychoedd ar ffermydd, gan gyfrannu at gydbwyso’r nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir.
Mae ffermwyr cig coch yn gyffredinol yn dod yn fwyfwy ymwybodol o effaith eu ffermydd ar yr amgylchedd a phwysigrwydd gweithredu arferion carbon isel.
Fferm tir isel yw Castellior; mae wedi gwerthu’r ddiadell o ddefaid magu yn ddiweddar ac fe’i rheolir felly fel system pesgi gwartheg bîff yn unig. Mae’r fferm yn hunan-gynhaliol o ran porthiant, heblaw am atchwanegiadau halen sy’n cael ei brynu. Mae Dylan Jones, sy’n ffermio Castellior, yn cydnabod y pwysau sy’n wynebu’r diwydiant, yn rhannol oherwydd targedau’r llywodraeth fel y rhai a grybwyllir uchod ond hefyd oherwydd galw cynyddol gan ddefnyddwyr am gynhyrchion bwyd cynaliadwy, ac mae’n cydnabod pwysigrwydd mesur effaith y fferm ar yr amgylchedd.
Amcanion y prosiect:
Nod cyffredinol y prosiect hwn yw mesur ôl-troed carbon net system pesgi gwartheg bîff tir isel. Bydd yn golygu canfod faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir o weithgareddau’r fferm, yn ogystal â faint o garbon a gaiff ei ddal a’i storio er mwyn tynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer ar y fferm.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar yr elfen gynhyrchu (y nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir ar y fferm) gan geisio canfod cyfleoedd i liniaru nwyon tŷ gwydr i’r dyfodol. Gallai hon fod yn strategaeth hirdymor i Castellior, oherwydd y bydd yr amserlen ar gyfer gweithredu a mesur y strategaethau lliniaru yn para y tu hwnt i oes y prosiect hwn. Fodd bynnag, nod y prosiect fydd rhagweld effaith defnyddio strategaethau lliniaru penodol ar ôl-troed carbon y fferm i’r dyfodol. Bydd cael amcan o’r lefelau dal a storio carbon hefyd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer y fferm i’r dyfodol.
Y Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Bennwyd:
Nid yw’n ymarferol pennu’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol o ran strategaethau lliniaru penodol ar y dechrau, gan nad yw’r prif ffynonellau allyriadau y gellir eu targedu yn hysbys ar hyn o bryd. Fodd bynnag, dyma rai enghreifftiau o strategaethau lliniaru a Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) posibl:
- Cynyddu cyfraddau pesgi dyddiol y gwartheg sy’n perfformio salaf o 10%. Gallai hyn leihau’r dyddiau cyn maent yn barod i’w lladd (penderfynir ar nifer y dyddiau gyda’r ffermwr ar ôl adnabod y gwartheg sy’n perfformio salaf).
- Lleihau achosion o glefydau resbiradol yn y fuches (e.e. niwmonia) drwy frechu pan fo’r gwartheg yn cyrraedd y fferm (ceir arweiniad/mewnbwn gan filfeddyg ynglŷn â hyn). Byddai hyn yn gwella perfformiad y gwartheg, ac felly yn lleihau ôl-troed carbon y fferm.
- Ychwanegu meillion coch i’r porfeydd sydd wedi’u hail-hadu – gan arwain at ddefnyddio llai o wrtaith, ac felly lleihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â’i ddefnyddio.
Gallai’r strategaeth liniaru a weithredir dargedu cyfuniad o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol a fydd yn gyraeddadwy i’w gweithredu ar y fferm ac arwain at ostyngiadau mewn allyriadau, yn hytrach nag ond targedu’r ffynhonnell allyriadau fwyaf. Caiff hyn ei benderfynu ar ôl canfod ôl-troed carbon presennol y fferm.
Llinell Amser a Cherrig Milltir: