Cyflwyniad Prosiect Ffosygravel: Cymharu systemau mesur cynhyrchiant glaswelltir

Safle: Ffosygravel

Swyddog Technegol: Gwenan Evans

Teitl y Prosiect: Cymharu systemau mesur cynhyrchiant glaswelltir

 

Cyflwyniad i’r prosiect 

Glaswellt yw’r porthiant rhataf a mwyaf effeithlon ar y fferm. Os byddwch chi’n ei reoli’n dda:

  • Gellir cynyddu cynhyrchiant a defnydd o laswellt yn sylweddol
  • Gellir lleihau mewnbynnau porthiant atodol
  • Gellir lleihau costau cynhyrchu
  • Bydd lefelau elw’n cynyddu.

Y ddyfais fwyaf cyffredin ar gyfer mesur cynhyrchiant glaswellt mewn system bori yw mesurydd plât sy’n mesur faint o laswellt sydd ar gael ym mhob padog yn y system bori cylchdro ar unrhyw adeg. Mae’r dull hwn yn arwain at ddata rheoli defnyddiol, ond mae’n ddwys o ran amser a llafur, gan fod casglu mesuriadau trwy gerdded y llwyfan bori gyda mesurydd plât yn cymryd hanner diwrnod o leiaf bob wythnos.

Mae cynnydd mewn technoleg arsylwi’r ddaear, megis data delweddau lloeren, yn cynnig potensial i allu cyflwyno data twf glaswellt, ac mae bellach ar gael yn ehangach. Bydd y prosiect yn asesu data gwirioneddol o’r maes o ddelweddau lloeren er mwyn rhagweld faint o laswellt fydd ar gael ym mhob padog sydd ar gam gwahanol yn ei dyfiant. 

Mae fferm Ffosygravel ger Borth yng Ngogledd Ceredigion yn wynebu topograffeg heriol gyda llawer iawn o’r llwyfan bori ar dir gyda goleddf sy’n draenio’n rhydd. Er bod y borfa bob amser wedi chwarae rhan yn arferion rheoli Ffosygravel, defnyddir mesurydd plât i fesur y glaswellt sydd ar gael cyn troi anifeiliaid allan, gyda’r nod o ddechrau pori tua 24 Mawrth. Hoffai Mr Griffiths herio’r llwyfan bori a’r defnydd a wneir ohoni ymhellach trwy wella ei ansawdd posibl. Bydd y prosiect hwn hefyd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gweithredu’r egwyddorion profedig ar gyfer creu a rheoli llwyfan bori, gan gynnig potensial i wella dulliau asesu a dehongli, ac felly i gynyddu’r defnydd a wneir o’r glaswellt sydd ar gael.

Bydd y llwyfan bori’n cael ei greu trwy rannu caeau yn badogau o faint addas, a bydd cynhyrchiant glaswellt yn cael ei fesur a’i gofnodi’n wythnosol trwy gydol y tymor pori gan ddefnyddio mesurydd plât a delweddau lloeren. Bydd data yn cael ei gasglu a’i gymharu rhwng y ddau ddull mewn tunnelli o ddeunydd sych glaswellt fesul hectar ar gyfer pob padog (tDM/ha).

Ffigwr 1. Fferm Ffosygravel

 

Nod y prosiect

Nod y prosiect yw cymharu cywirdeb dwy system ar gyfer mesur glaswellt; mesurydd plât a delweddau lloeren. Bydd dull torri a phwyso hefyd yn cael ei ddefnyddio’n fisol i sicrhau cywirdeb. Byddwn yn isrannu’r caeau ac yn mapio’r isadeiledd ar gyfer argaeledd dŵr a mynediad i’r padogau er mwyn gallu rheoli’r borfa’n rhwydd ar fferm Ffosygravel.

Bydd dyrannu’r padogau’n gywir yn galluogi Mr Griffiths i gynnig glaswellt ar y cyfnod tair deilen gyda lefelau digonol o egni metaboladwy (ME) a threuliadwyedd (gwerth D), gan hefyd gadw porfa’n weddill i sicrhau ail-dyfiant o ansawdd da yn y cylchdro canlynol. Mae sicrhau cydbwysedd cywir o ran porthiant yn anoddach gyda glaswellt na dogn TMR (dogn cymysg cyflawn), felly, mae cywirdeb mesuriadau’r glaswellt yn allweddol er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl ohono. 

Bydd glaswellt yn cael ei fesur gan ddefnyddio delweddau lloeren, mesurydd plât a thorri a phwyso er mwyn cymharu cywirdeb. Bydd hyn yn ein galluogi i asesu gallu delweddau lloeren i gynyddu cynhyrchiant ac ansawdd glaswellt (tDM) ar fferm Ffosygravel. 

Caiff troi allan yn fuan a rheolaeth pori’r gwanwyn ei ddiystyru’n aml, ac felly mae rheolaeth cau yn yr hydref a gorchudd ar ddiwedd y tymor yn hanfodol ar gyfer sicrhau porfa ar gyfer y gwanwyn. Er mwyn gallu cyflawni 10 cylchdro mewn blwyddyn, mae angen gorffen y cylchdro cyntaf erbyn dechrau Ebrill a dau gylchdro a hanner erbyn dechrau Mai. 

Trwy wella’r penderfyniadau ynglŷn â phori, ein nod yw cyflawni o leiaf un cylchdro arall gan ddefnyddio mwy o laswellt, gan hefyd sicrhau bod y rownd ddiwethaf o bori’n ein galluogi i gadw porfa erbyn pan fyddwn ni’n troi’r anifeiliaid allan y tro nesaf yn 2022, a hyd yn oed yn gynt o bosibl.

Ffigwr 2. Delweddau lloeren o Ffosygravel. Mae’r ffin felen yn nodi’r padogau pori.

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA):

  • Cynyddu cylchdroadau pori o 8 i 10
  • Cynnydd tDM/ha a dyfir o 12.8tDM/ha i 13.5tDM/ha
  • Cydberthynas gywirdeb o 10% rhwng data mesuriadau