Cyflwyniad Prosiect Hendre Ifan Goch - Dull integredig o ddeall a rheoli cloffni mewn defaid

Safle: Hendre Ifan Goch, Glynogwr, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 6EN

Swyddog Technegol: Elan Davies

Teitl y Prosiect: Dull integredig o ddeall a rheoli cloffni mewn defaid

 

Cyflwyniad i'r prosiect: Mae cloffni mewn defaid yn un o’r prif ffactorau sy’n arwain at golledion ariannol, ac fe amcangyfrifir ei fod yn costio £28 miliwn y flwyddyn i’r diwydiant amaeth yn y DU. Mae'n arwain at oblygiadau lles difrifol ac yn effeithio’n negyddol ar ganfyddiad y cyhoedd o ffermio defaid, gydag oddeutu 3 miliwn o ddefaid y DU yn cael eu hystyried yn gloff ar unrhyw adeg. Yn ogystal, credir bod dwy ran o dair o'r gwrthfiotigau a ddefnyddir mewn systemau defaid yn cael eu defnyddio i drin cloffni. Mae sector amaethyddol y DU wedi nodi lleihau cloffni fel maes allweddol yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae targed ar gyfer diadelloedd gyda llai na 2% o gloffni erbyn 2021 wedi cael ei osod gan y Cyngor Lles Anifeiliaid Fferm. Mae'r diwydiant wedi cynhyrchu'r Cynllun Pum Pwynt ar gyfer cloffni defaid i roi cyngor sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ffermwyr a milfeddygon ei ddilyn er mwyn cyrraedd y targed hwn.

Mae statws iechyd y 600 o famogiaid ar fferm Hendre Ifan Goch yn uchel iawn, gyda’r ffermwyr, Rhys a Russell yn gweithio’n agos gyda’u milfeddygon i sicrhau’r safonau iechyd a lles gorau posibl ar gyfer eu diadell. Er gwaethaf hyn, mae sgald yn broblem sy’n codi dro ar ôl tro, wedi i’r cyflwr gael ei ganfod heb unrhyw reswm amlwg yn ystod y tymor tyfu. Bydd ymchwilio er mwyn ceisio deall pryd a pham mae achosion o sgald yn digwydd o fudd mawr er mwyn helpu’r fferm i reoli cloffni ymysg yr ŵyn. Gall cloffni hefyd fod yn broblem ymysg mamogiaid sy’n cael eu cadw dan do cyn ŵyna lle mae mwy o leithder yn y gwellt, ac felly gobeithio y bydd edrych ar wahanol ddeunydd gorwedd yn hytrach na gwellt wrth gadw mamogiaid dan do cyn ŵyna hefyd yn eu cynorthwyo i frwydro yn erbyn cloffni. Cynigir y dylid gweithredu dull integredig o ddeall a rheoli cloffni mewn defaid.

 

Amcanion y Prosiect: 

  • Ymchwilio i'r ffactorau amgylcheddol sy'n dylanwadu ar yr achosion o gloffni mewn defaid; yn enwedig achosion o sgald mewn ŵyn yn ystod y tymor pori.
  • Archwilio'r gydberthynas rhwng glawiad, tymheredd, uchder y borfa a'r achosion o gloffni a pha mor aml mae achosion yn dod i’r amlwg.
  • Ymchwilio i dueddiadau genetig ar gyfer cloffni a fydd yn helpu i adnabod mamogiaid a hyrddod y mae eu hŵyn yn fwy tebygol yn ystadegol i ddatblygu cloffni.
  • Lleihau cloffni i wella cynnydd pwysau byw’r ŵyn

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Osodwyd:

  1. Sicrhau lleihad o 10% mewn cloffni ymysg mamogiaid.
  2. Sicrhau lleihad o 15% yn yr achosion o sgald mewn ŵyn, a deall sut i atal achosion o’r fath rhag digwydd.
  3. Sicrhau lleihad o 80% yn y gwellt a ddefnyddir a lleihad o 20% yn y lefelau cloffni dan do.
  4. Sicrhau lleihad o 10% yn y nifer o wrthfiotigau a ddefnyddir.

 

Llinell Amser a Cherrig Milltir: 

Monitro a chofnodi achosion o gloffni

Er mwyn deall yn iawn pryd a pham mae cloffni’n digwydd ymysg mamogiaid ac ŵyn, bydd monitro’r achosion o gloffni (mewn ŵyn, mamogiaid a hyrddod) yn rhan hanfodol o’r prosiect hwn. Bydd unrhyw ŵyn, mamogiaid a hyrddod sy'n gloff yn cael eu cofnodi.

 

Monitro statws iechyd ŵyn a mamogiaid

Deall a yw materion iechyd sylfaenol, e.e. baich parasitiaid/diffyg elfennau hybrin yn dylanwadu ar lefelau cloffni. Gellir cymryd samplau drwy gydol yr arbrawf.

 

Cofnodi’r tywydd

Gan fod y fferm yn rhan o brosiect mesur glaswellt 'GrassCheckGB', mae ganddynt orsaf dywydd ar y fferm sy'n cofnodi glawiad, tymheredd, lleithder, a chyflymder a chyfeiriad y gwynt. Ar ôl monitro cloffni, bydd hyn yn ein galluogi i edrych yn ôl ar y patrymau tywydd yn erbyn yr achosion o gloffni a gweld a oes unrhyw batrymau amlwg. 

 

Darlleniadau mesurydd plât

Mae darlleniadau mesuryddion plât wythnosol yn cael eu cymryd fel rhan o'r prosiect 'GrassCheckGB', felly byddwn yn cymharu uchder y borfa gyda nifer yr achosion o gloffni.

 

Perthynas genetig

Gan fod y fferm yn rhan o'r prosiect 'Ram Compare', cofnodir gwybodaeth enetig/coeden deulu ar gyfer yr holl stoc ar y fferm. Bydd y data hwn yn ein galluogi i adnabod mamogiaid a hyrddod y mae eu hŵyn yn fwy agored yn ystadegol i ddatblygu sgald a chloffni.

Ar ôl monitro a dadansoddi’r data yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect, bydd cynllun yn cael ei roi ar waith i gynorthwyo i reoli cloffni yn y ddiadell dros y blynyddoedd nesaf.