Cyflwyniad Prosiect Hendre Ifan Goch - Gwella rheolaeth pridd a da byw er mwyn cynyddu faint o garbon sy’n cael ei ddal, a lleihau ôl troed carbon y fferm
Safle: Hendre Ifan Goch, Glynogwr, Pen-y-bont, CF35 6EN
Swyddog Technegol: Elan Davies
Teitl y prosiect: Gwella rheolaeth pridd a da byw er mwyn cynyddu faint o garbon sy’n cael ei ddal, a lleihau ôl troed carbon y fferm
Cyflwyniad i’r prosiect: Mae llywodraeth y DU wedi gwneud addewid i sicrhau lleihad o 80% yn allyriadau nwyon tŷ gwydr cenedlaethol o lefelau 1990 erbyn 2050. Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig lleihad o 95% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr dros yr un cyfnod.
Prif nod y prosiect yw adnabod lefelau presennol y deunydd organig, carbon organig a charbon gweithredol sy’n bresennol yn y priddoedd (ar sail T/ha) ar fferm Hendre Ifan Goch. Gan ddibynnu ar y canlyniadau cychwynnol, y nod wedyn yw gweld a yw’n bosibl cynyddu lefelau carbon yn y pridd drwy fesur a rheoli.
Yn ystod y prosiect, bydd archwiliad carbon fferm yn cael ei gynnal ar y safle arddangos gan ddefnyddio cyfrifiannell ôl troed carbon. Yn y pen draw, bydd hyn yn rhoi ffigwr cydbwysedd carbon absoliwt ar gyfer y fferm. Bydd yr ymarfer hefyd yn adnabod meysydd allweddol lle byddai modd gwella arferion ffermio er mwyn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr - ac felly i leihau ôl troed carbon y fferm, gyda’r nod o fod yn niwtral o ran carbon.
Amcanion y prosiect:
- Canfod lefelau presennol ar gyfer deunydd organig, carbon organig a charbon gweithredol yn y pridd ar fferm Hendre Ifan Goch
- Anelu at gynyddu lefelau carbon drwy wahanol ddulliau o fesur a rheoli
- Cwblhau archwiliad carbon ar gyfer y fferm gyfan er mwyn canfod ffigwr cydbwysedd carbon absoliwt
- Canfod meysydd allweddol ar y fferm lle byddai modd lleihau allyriadau
Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Osodwyd:
- Sicrhau cynnydd o 1% bob blwyddyn mewn deunydd organig a lefelau carbon yn y pridd yn seiliedig ar y mesuriadau gwaelodlin.
- Gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd da byw, cynyddu cyfraddau twf ŵyn 50g/dydd yn ystod y cyfnod 12 wythnos.
- Sicrhau lleihad o 15% yn yr ôl troed carbon fesul kg o ŵyn a gynhyrchir yn seiliedig ar y mesuriadau gwaelodlin.
Amserlen a Cherrig Milltir:
Gweithgareddau Allweddol |
J |
F |
M |
A |
M |
J |
J |
A |
S |
O |
N |
D |
Nodi caeau arbrofol a chasglu samplau pridd |
|
|
||||||||||
Dadansoddi canlyniadau’r samplau pridd a chreu cynllun strategol ar gyfer pob ardal |
|
|||||||||||
Asesiad gweledol o bridd a phlanhigion ar bob cae |
|
|
|
|||||||||
Cynnal asesiad carbon ar y fferm i ganfod allyriadau carbon |
|
|
||||||||||
Dadansoddi perfformiad y caeau ym mhob ardal a'r stoc ym mhob ardal i weld a oes cydgysylltiad rhwng perfformiad a’r hyn y mae’r samplau a’r asesiadau gweledol yn dweud wrthym ni |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Mesuriadau glaswellt wythnosol pan fo’r tymor tyfu yn ei anterth |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|