Cyflwyniad Prosiect Hendre Ifan Goch Project: Cymharu amrywiaeth o opsiynau deunydd gorwedd ar gyfer mamogiaid beichiog cyn ŵyna.

Safle: Hendre Ifan Goch

Cyfeiriad: Glynogwr, Blackmill, Pen-y-bont ar Ogwr

Swyddog Technegol: Elan Davies

Teitl y Prosiect: Cymharu amrywiaeth o opsiynau deunydd gorwedd ar gyfer mamogiaid beichiog cyn ŵyna

 

Cyflwyniad i’r prosiect: 

Gallai rheoli a dethol y deunydd gorwedd priodol ar gyfer mamogiaid leihau costau a sicrhau buddion o ran iechyd cyn ŵyna. Mae ffermwyr defaid yn manteisio ar y cyfle i ddefnyddio opsiynau deunydd gorwedd eraill yn y cyfnod cyn ac yn ystod ŵyna, ond beth bynnag fo’r deunydd y byddant yn ei ddewis, mae rheoli’r deunydd hwnnw yn allweddol er mwyn cynnal iechyd, lles a glendid mamogiaid cyn ŵyna. Gwellt yw’r deunydd gorwedd mwyaf cyffredin o hyd yn achos mamogiaid sy’n cael eu cadw dan do. Fodd bynnag, mae ei gost yn parhau i gynyddu’n sylweddol a’i argaeledd yn lleihau, felly mae ffermwyr yn troi at opsiynau eraill. Gall adeiladau â lloriau delltog gynnig ateb i’r problemau hyn, ond mae’n rhaid ystyried manteision hynny mewn cymhariaeth â’r gwariant cychwynnol.

Mae Rhys a Russell Edwards, Hendre Ifan Goch, wedi bod yn ymchwilio i’r syniad o osod lloriau delltog yn eu sied ddefaid ers tro byd, ond gyda phris gwellt yn uwch nag erioed ar hyn o bryd, fe wnaethant benderfynu mentro yn 2020, a gosodwyd llawr delltog yn un o’r siediau oedd ganddynt yn barod. Er gwaethaf y gost gychwynnol sylweddol, mae’r teulu Edwards yn gobeithio sicrhau enillion sylweddol ar y buddsoddiad yn sgil peidio gorfod prynu cymaint o wellt. Prif nod tymor hir buddsoddi mewn lloriau delltog fydd lleihau costau deunydd gorwedd.  Nod arall, ac un o nodweddion cadarnhaol lloriau delltog, yw’r llafur a’r amser a gaiff eu harbed mewn perthynas â chwalu deunydd gorwedd ar gyfer defaid. Roedd hyn yn ysgogiad pwysig hefyd i osod y lloriau delltog yn Hendre Ifan Goch. Gellir gweld lluniau o’r lloriau delltog yn cael eu gosod yn y siediau yn Ffigyrau 1 a 2. 

Ffigyrau 1 a 2. Lloriau delltog yn cael eu gosod yn Hendre Ifanc Goch yn 2020.

 

Nodau’r Prosiect:

Prif nod y prosiect yw nodi dewisiadau posibl eraill o ran deunydd gorwedd a all gynnig rhinweddau gwell o ran cost effeithiolrwydd ac iechyd a lles anifeiliaid mewn cymhariaeth â deunyddiau gorwedd traddodiadol megis gwellt. Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar effaith gwahanol ddeunyddiau gorwedd ar ffactorau megis llafur, cloffni, glendid mamogiaid a lles anifeiliaid yn gyffredinol. Bydd y prosiect hefyd yn ystyried cost effeithiolrwydd pob math o ddeunydd gorwedd â’r nod o leihau costau cynhyrchu. Caiff y deunyddiau gorwedd canlynol eu cymharu:

  1. Lloriau delltog
  2. Blawd llif – ar gael yn eang, ond gall rhai mathau mân iawn halogi cnuoedd, ac felly, bydd yn llai addas fel deunydd gorwedd i ddefaid.
  3. Gwellt gwenith
  4. Gwellt haidd
  5. EnviroBed Original

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Bennwyd:

Oherwydd natur tymor byr y prosiect hwn, mae dangosyddion perfformiad allweddol penodol yn anodd eu sefydlu. Fodd bynnag, i geisio nodi’r math o ddeunydd gorwedd sy’n llesol o ran iechyd a lles anifeiliaid, ac yn lleihau llafur a chostau, hyderir y caiff y dangosyddion perfformiad allweddol canlynol eu cyflawni yn y tymor hir.

  1. Lleihau amser llafur
  2. Lleihau’r achosion o gloffni
  3. Gwella glendid mamogiaid
  4. Lleihau costau deunydd gorwedd

 

Llinell Amser a Cherrig Milltir: 

Caiff y wybodaeth ganlynol ei chofnodi’n wythnosol yn ystod y 6 wythnos cyn ŵyna:

  • Cost pob math o ddeunydd gorwedd (byddwn yn defnyddio ffigurau lleol presennol ar gyfer y gwerthoedd hyn, ac yn cyfrifo’r enillion ar y buddsoddiad yn y lloriau delltog sydd wedi’u gosod).
  • Deunydd gorwedd a ddefnyddir (tunelli metrig)
  • Llafur (oriau gwaith a dreulir yn gwasgaru’r deunydd gorwedd bob wythnos)
  • Achosion o gloffni (nifer o famogiaid cloff a gaiff eu trin)
  • Glendid mamogiaid (ar sail sgôr glendid o 1 i 5)
  • Unrhyw arsylwadau eraill (ymddygiad mamogiaid)

Mae ffeithlun yn dangos yr holl wybodaeth a gofnodir i'w weld yn Ffigwr 3.
 

Ffigwr 3. Gwybodaeth a gofnodir i gymharu’r dewisiadau o ran deunydd gorwedd.