Cyflwyniad prosiect Llwyn Goronwy

Rhoddir sylw i’r meysydd canlynol gan awgrymu pa fath o ddata sydd ei angen i helpu’r ffermwr i wneud penderfyniadau rheoli;

 

Paru;

a. Cofnodi heffrod a buchod ar wahân gan fod heffrod fel arfer yn lloia’n gynt.

b. Cyflwyno data pan mae buchod yn lloia mewn blociau. Er enghraifft, mae angen canfod hen fuchod ar ddechrau cyfnod bridio ac mae angen mewnbynnu cyfanswm nifer y buchod bridio cyn iddynt ddechrau paru.

c. Cynllunio diwrnod dechrau paru er mwyn gallu monitro cynnydd y fuches a llwyddiant o ran cyflawni’r DPA

  • Canran ffrwythloni 3 wythnos % (h.y. nifer y buchod sy’n cael eu troi at darw yn y tair wythnos gyntaf o’r cyfnod ffrwythloni)
  • Canran sy’n gyflo ar ôl 6 wythnos % (h.y. nifer y buchod sy’n bositif)

Lloia;

 Gellir gosod y DPA ar gyfer y cyfnod lloia fel a ganlyn;

  • Canran sy’n lloia mewn 3 wythnos, 6 wythnos a 9 wythnos o’r diwrnod cychwyn lloia a gynlluniwyd (yn gysylltiedig â’r dyddiad a osodwyd ar gyfer dechrau paru)

Defnyddir y dyddiad lloia pwynt-canol (dyddiad pan mae 50% o’r holl anifeiliaid wedi lloia) ar y cyd â chromlin twf y borfa i osod cyfraddau porthi oherwydd y fuwch pwynt-canol hon a ddefnyddir i osod y gofynion porthi ar gyfer buches mewn buches sy’n lloia mewn bloc.

 

Perfformiad a geneteg y fuwch:

Ymchwilir i fesurau perfformiad mwy addas i alluogi i’r ffermwr wneud gwell defnydd o ddata a gofnodwyd mewn penderfyniadau bridio;

  1. Asesir KgMS/Dydd ym mhob cofnod
  2. Ymchwilir i Fynegai Lloia’r Gwanwyn(£SCI) i weld os yw hynny’n rhoi gwell mesur o’i gymharu â’r Mynegai Proffidioldeb Oes (£PLI)
  3. Cwblhawyd 305d Llaetha KgMS/KgLW. Gallai’r ffermwr fewnbynnu Pwysau byw ar ôl pwyso @100 diwrnod ar ôl lloia i asesu perfformiad yr anifeiliaid o’i gymharu â’u maint. Bydd hyn yn mesur o effeithlonrwydd.

 

Beth a wneir:

  1. I ddechrau pwyso’r holl fuchod 100 – 120 diwrnod mewn llaeth. Gwneir hyn ar ddechrau’r prosiect (Awst 2019)
  2. Bob dau fis - cofnodi llaeth eich hun gan ddefnyddio gwasanaeth pori 4 cofnod NMR (3 chofnod yng ngweddill blwyddyn llaeth 2019, 4ydd cofnod ar ddechrau’r flwyddyn laeth newydd yn Ebrill 2020
  3. Ymchwilio i statws Johne’s ar y cyd â milfeddyg y fferm

 

 

Mae systemau cofnodi presennol yn fwy addas ar gyfer buchesi ar-hyd-y-flwyddyn (AYR) yn hytrach na systemau lloia mewn bloc. Os yw mwy o fuchesi sy’n lloia yn y gwanwyn am fanteisio ar yr opsiwn o gofnodi llaeth yna dylid cyflwyno gwybodaeth am ffrwythlondeb a chynhyrchiant ar ffurf berthnasol sy’n hanfodol os yw buchesi am fod yn fwy effeithlon.

Ar hyn o bryd mae Fferm Llwyn Goronwy yn profi eu llaeth 4 gwaith y flwyddyn yn unig gan y Labordai Llaeth Cenedlaethol ar ran eu prynwr llaeth.  Mae hwn yn arfer safonol ar gyfer sefydlu pris llaeth. Fodd bynnag, maent yn awyddus i wneud gwell defnydd o ddata cofnodi er mwyn gwella perfformiad a phroffidioldeb y fuches. Nodwyd yr amcanion canlynol:

  • Gwella’r cynhyrchiant y pen
  • Cynyddu braster y llaeth a’r protein a gynhyrchir
  • Lladd buchod â chyfrif celloedd uchel
  • Dewis buchod ar gyfer bridio yn seiliedig ar berfformiad
  • Dewis heffrod drwy ddefnyddio cofnodion cynhyrchu eu mamau
  • Cofnodi pwysau byw i fonitro perfformiad o’i gymharu â phwysau byw (h.y. ydi buchod trymach ynteu ysgafnach yn fwy effeithlon). Mesurir hyn fel km solidau llaeth (MS) i bob km o bwysau byw – kgMS/kgLW