Manon Hawys Williams

Enw

Manon Hawys Williams

Sefydliad

Agri Advisor Legal LLP

Mae Manon yn gyfreithiwr a chynghorydd amaethyddol arbenigol wedi iddi gymhwyso fel cyfreithiwr ym mis Mai 2017 gyda phrofiad mewn gwaith cleientiaid preifat, datrys anghydfodau, gwaith tenantiaeth amaethyddol (AHA 1986 ac ATA 1995) a mentrau ar y cyd. Mae hi wedi paratoi sawl cais am olyniaeth i denantiaid  yn llwyddiannus o dan AHA 1986, yn ymdrin â'r ALT (Cymru) yn ogystal ag amddiffyn ceisiadau o'r fath ar ran landlordiaid. Mae Manon hefyd yn brofiadol iawn mewn cynghori mentrau ar y cyd o fewn y diwydiant amaethyddol ac mae hi wedi cynorthwyo nifer o fusnesau ffermio drwy gynllun Mentro Cyswllt Ffermio. Yn arbenigwraig mewn cynllunio olyniaeth i gynnwys ystyriaeth o'r sefyllfa trethiant a rhyddhadau sydd ar gael, ynghyd ag opsiynau i liniaru trethi o'r fath a sicrhau parhad busnesau amaethyddol. Mae Manon yn delio'n rheolaidd â busnesau cymhleth ac yn rhoi cyngor iddynt am y llwybrau olyniaeth mwyaf effeithlon o ran treth, ond hefyd yn deall agweddau ymarferol olyniaeth a'r heriau a ddaw yn sgil busnesau teuluol yn aml a gall ddarparu cyngor ymarferol mewn sefyllfaoedd o'r fath. Ymgymerodd Manon â hyfforddiant hwyluso olyniaeth gyda Siân Bushell yn 2021 ac mae'n gydymaith i Siân Bushell Associates.

Ardaloedd

Canolbarth, De Ddwyrain a De Orllewin Cymru

Ieithoedd

Cymraeg a Saesneg