Alun Bowen

DWYRAIN SIR GÂR


Alun Bowen yw swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Gogledd Sir Gaerfyrddin.

Graddiodd Alun ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae’n byw gartref ar fferm ddefaid y teulu yn Llanfihangel-ar-Arth, ger Llandysul.

“Byddaf yn treulio’r rhan fwyaf o fy amser sbâr yn cynorthwyo â’n diadell o 550 o famogiaid mynydd Cymreig wedi’u gwella a chroesiadau Texel, ac rydym yn canolbwyntio ar gynhyrchu ŵyn o ansawdd uchel gan ddefnyddio glaswellt,” meddai Alun.

Mae’n awyddus i annog ffermwyr yn ei ardal i fuddsoddi mewn samplu pridd a chynllunio i reoli maetholion.

“Bydd gwybod sut mae pob cae yn perfformio yn eich helpu i ganolbwyntio’r mewnbynnau priodol yn y mannau lle ceir yr angen mwyaf, fel y cewch yr elw gorau o’ch buddsoddiad, ac fel y gallwch sicrhau perfformiad gwell gan eich da byw â llai o fewnbynnau.”

“Un o agweddau mwyaf gwerth chweil fy swydd yw gwrando ar yr heriau sy’n wynebu ffermwyr a darparu atebion iddynt, trwy eu cyfeirio at gymysgedd briodol o wasanaethau, prosiectau a digwyddiadau Cyswllt Ffermio.  

“Mae'n adeg bwysig i ffermwyr sicrhau fod eu busnesau yn perfformio’n dda. Gall Cyswllt Ffermio ddarparu gwasanaethau busnes, technoleg a chymorth personol a allai eu cynorthwyo i redeg eu busnesau yn fwy effeithlon ac yn fwy cynaliadwy.”

Mae Alun yn rhedeg grwpiau trafod ar gyfer sectorau penodol, a bydd ffermwyr yn cwrdd yn rheolaidd yn y cyfarfodydd hynny i gymharu perfformiad, rhannu gwybodaeth, a chael cyngor arbenigol i wella gallu eu busnes i gystadlu a’i ddichonoldeb.