Guto Owen
CONWY
Guto Owen yw swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Conwy. Cafodd Guto ei fagu ar fferm bîff a defaid ucheldir y teulu yn Llangernyw, Dyffryn Conwy, lle mae’n cyfrannu’n weithgar at y gwaith o reoli’r fferm.
Ar ôl ennill gradd BSc mewn amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, aeth i weithio fel rheolwr amaethyddol dan hyfforddiant ar gyfer cwmni cyflenwadau amaethyddol mawr cyn ymuno â Chyswllt Ffermio. Mae’n credu ei bod hi’n hanfodol i bawb sy’n gweithio yn y diwydiant fod yn barod i dderbyn syniadau newydd a dulliau mwy effeithlon o weithio, ac mae’n awyddus hefyd i helpu ffermwyr i leihau’r risg o effeithiau negyddol ar yr amgylchedd.
“Fy rôl yw cyfeirio busnesau ffermydd a choedwigaeth at wasanaethau Cyswllt Ffermio a all eu cynorthwyo i wneud eu busnes yn fwy effeithlon a phroffidiol.
“Byddai cynllun rheoli maeth a strategaeth bori dda yn fan cychwyn da, ac mae hynny’n rhywbeth yr wyf i wedi llwyddo i’w roi ar waith ar fferm y teulu.
“Mae’n gyfnod heriol i’n diwydiant, ond mae cymaint o gymorth ar gael, yn enwedig i ffermwyr sy’n dymuno datblygu eu sgiliau neu wella eu gwybodaeth, felly mae’n gwneud synnwyr ceisio canfod atebion i unrhyw heriau personol, busnes neu dechnegol y gallent fod yn eu profi.”
Bydd Guto yn hwyluso grwpiau trafod sy’n cwmpasu’r sectorau llaeth, dofednod a bîff, a dywed y bydd yn cael boddhad mawr pan fydd yn cychwyn gweld ffermwyr yn gwneud enillion sylweddol, gan ychwanegu y bydd hynny’n aml yn deillio o newidiadau cymharol fychan.
“Mae cyfranogi yn y grwpiau hyn yn cynnig cymorth gwerthfawr gan gymheiriaid i ffermwyr, a bydd aelodau yn elwa’n fawr trwy drafod materion gyda’i gilydd a thrwy’r nifer fawr o gynghorwyr (megis milfeddygon) sy’n cael gwahoddiad i ddod i gynghori ar bynciau arbenigol, megis y defnydd cyfrifol o feddyginiaethau, yn unol â’r nod o leihau’r defnydd o wrthfiotigau.”
07896 996 832