Gwenno Puw Rowlands

WRECSAM A FFLINT 


Gwenno Puw Rowlands yw swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer ardal Wrecsam a Sir y Fflint.

Cafodd Gwenno ei magu ar fferm fynydd ei theulu ger y Bala. Mae’r fferm honno yn eiddo i’w theulu ers tair cenhedlaeth, a saif o fewn terfynau Parc Cenedlaethol Eryri.  

Mae hi’n rhannu ei hamser rhwng ei rôl gyda Chyswllt Ffermio a helpu ei rhieni a’i brodyr â’u buches o wartheg Limousin a’u defaid mynydd Cymreig pedrigi a defaid sy’n groesiadau Texel. “Efallai y gwnânt ddweud yn wahanol, ond ni fuasent yn gallu ymdopi heb fy nghymorth ar adegau ŵyna a chneifio!”, meddai Gwenno.

"Rwyf wedi mwynhau gweithio a chymdeithasu gyda ffermwyr, trwy gyfranogi yng ngweithgareddau CFfI Maesywaen, lle’r oeddwn i’n ysgrifenyddes ac yn gadeirydd, a thrwy fy rôl fel ysgrifenyddes Cymdeithas Parc, menter dan arweiniad y gymuned sy’n dod â phobl ynghyd yn ein hardal wledig.”

Ar ôl ennill gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle astudiodd rôl merched mewn amaethyddiaeth dros y cenedlaethau ar gyfer ei thraethawd hir, penodwyd Gwenno yn un o swyddogion gweinyddol Cyswllt Ffermio, cyn cael ei phenodi yn swyddog datblygu.

“Rwyf wedi gweld cynifer o ffermwyr a choedwigwyr yn datblygu neu’n tyfu eu busnesau, ac mae llawer o’r gwaith hwn wedi’i gyflawni â’r cymorth a ddarperir gan Cyswllt Ffermio.

“Mae fy rôl fel swyddog datblygu wedi caniatáu i mi adeiladu ar hyn, ac rwy’n awyddus i gyfeirio busnesau at brosiectau neu wasanaethau penodol a all eu helpu i gyflawni amcanion eu busnes ac amcanion personol.

“Mae cymaint o bethau ar gael a all eu cynorthwyo i ddod yn fwy effeithlon a phroffidiol, felly ffoniwch fi, neu anfonwch neges testun, a byddaf yn falch o gael cynorthwyo.”

Mae Gwenno hefyd yn rheoli nifer o grwpiau trafod Cyswllt Ffermio sy’n cefnogi’r sectorau bîff a defaid. 

“Mae’r grwpiau hyn yn cynnig cyfleoedd gwych i ffermwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd a meincnodi eu cynnydd,” meddai Gwenno.