Lisa Powell

SIR FYNWY, TORFAEN A BLAENAU GWENT


Lisa Powell yw swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Sir Fynwy, Torfaen a Blaenau Gwent.

Fe wnaeth Lisa ennill gradd BSc mewn amaethyddiaeth a gwyddor anifeiliaid ym Mhrifysgol Harper Adams. Hefyd, enillodd wobr fawreddog Cwmni Anrhydeddus y Gwlanwyr am y prosiect ymchwil gorau ym maes defaid.  

Ar ôl graddio, aeth ar daith gwarbacio i Ddwyrain Affrica, lle cafodd gyfle i fynd yn agos at orilaod yn eu cynefin naturiol, a dringo i ben Mynydd Kilimanjaro! Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae hi wedi gweithio ar nifer o raglenni amaethyddol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr ac yng Nghymru, gan helpu ffermwyr, coedwigwyr a microfusnesau i gael cymorth a chyllid.

Bellach, mae Lisa yn amaethu ar fferm deuluol uwchdirol ei gŵr yn Sir Faesyfed. Ar hyn o bryd, mae ganddynt fuches o wartheg sugno sy’n groesiadau Limousin a Salers, ac maent yn defnyddio tarw Charolais fel tarw terfynol a tharw Salers i fagu eu buchod cyfnewid eu hunain, ond maent yn bwriadu symud tuag at fuches o wartheg Salers oherwydd eu caledwch a’r ffaith eu bod yn lloia’n rhwydd. Caiff diadell o famogiaid miwl Cymreig ei chroesi â hyrddod Texel i gynhyrchu ŵyn tewion, a gaiff eu pesgi a’u gwerthu mewn marchnadoedd da byw lleol. Mae’r teulu yn anelu at besgi’r holl ŵyn ar borfa a chnydau porthiant, a defnyddio EID i fwyafu cynhyrchiant.

Mae Lisa yn adnabyddus ym myd ffermio Sir Faesyfed, ac mae’n hi’n gyn-gadeirydd ei CFfI lleol ac yn un o arweinwyr presennol y clwb, ac mae hi hefyd yn aelod o bwyllgor barnu stoc y ffederasiwn sirol.  

“Gweithiais fel rhan o raglen cig coch Cyswllt Ffermio ar y cyd â Hybu Cig Cymru nifer o flynyddoedd yn ôl, ond mae’n gyffrous iawn gweld fod y gwasanaeth cyfan wedi datblygu ac ehangu cymaint.

“Gall Cyswllt Ffermio gynnig cymaint i gynorthwyo busnesau i baratoi at yr heriau a’r cyfleoedd a fydd yn eu hwynebu.

“Fy rôl i yw cyfeirio busnesau at y dewis gorau o wasanaethau cymorth sydd ar gael i’w cynorthwyo i ddatblygu ar y lefelau personol, busnes a technegol.

"Trwy gael cymorth gan Cyswllt Ffermio, gall busnesau sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau posib trwy leihau costau, cynyddu cynhyrchiant, mwyafu effeithlonrwydd, ac ystyried yr opsiynau gorau o ran arallgyfeirio.” 

Mae’n bosibl y gwnewch chi weld Lisa ym Marchnad Rhaglan, a bydd hi hefyd yn hwyluso nifer o grwpiau trafod llawn ar gyfer ffermwyr defaid a bîff.