Daisy Williams

Llandinam, Powys

Mae Daisy Williams yn helpu i reoli diadell o famogiaid Cheviot, Wyneblas Caerlŷr a mamogiaid Texel pur ar Fferm Gwernerin Isaf, fferm 138 hectar ei theulu yn Llandinam.

Mae ffermio yn ei gwaed. “O oedran ifanc iawn mae amaethyddiaeth wedi bod yn angerdd enfawr i mi erioed, rwyf wedi bod yn rhan fawr o'r eiliad y gallwn i gerdded,'' meddai.

Yn ogystal â magu Miwl i’w gwerthu fel ŵyn benyw, mae Daisy’n helpu i besgi tua 20 o wartheg stôr bob blwyddyn, gyda’r cig eidion yn cael ei werthu drwy siop gigydd y teulu yn Llanidloes.

Mae paru anifeiliaid â gofynion y farchnad yn sgil y mae wedi’i datblygu drwy gystadlu yng nghystadlaethau barnu stoc y CFfI, gan ennill mewn sawl categori da byw.

Ymysg ei llwyddiannau mwyaf oedd cael yr ail wobr mewn cystadleuaeth barnu stoc dan 21 ar gyfer Cheviots yn Sioe Frenhinol Cymru.

Ar hyn o bryd, mae Daisy yn fyfyrwraig yng Ngholeg Reaseheath, yn ei blwyddyn olaf o ddiploma estynedig technegol uwch Lefel 3 tair blynedd mewn amaethyddiaeth.

Mae hi'n gweld yr Academi Amaeth fel rhywbeth sy'n ychwanegu haen bwysig arall at ei haddysg.

“Fel ffermwr ifanc, bydd y cyfleoedd y bydd yr Academi Amaeth yn eu darparu yn amhrisiadwy, a bydd cwrdd â phobl o’r un anian yn ehangu fy ngorwelion.

“Gan fod y diwydiant ffermio yn newid yn gyflym, rwy'n teimlo mai nawr yw'r amser iawn i mi gael cymaint o wybodaeth â phosibl a gwneud yr hyn a allaf i helpu amaethyddiaeth i ddod yn fwy cynaliadwy.''