Defnyddio Technoleg IVF i sicrhau cynnydd cyflym ym mhotensial genetig buchesi sy’n lloia mewn bloc yng Nghymru

Mae Moor Farm yn fferm laeth 85 hectar sy’n cynnwys 100 o fuchod Holstein Friesian sy’n lloia mewn bloc yn y gwanwyn, ynghyd ag 80 o heffrod cyfnewid. Mae gan y fferm hefyd bwyslais ar fridio buchod â rhinweddau genetig uchel a defnyddio cymaint o laswellt â phosibl yn y diet. Ar hyn o bryd mae'r fuches yn cynhyrchu 7,500 litr y fuwch ar gyfartaledd gyda 4.6% o Fraster Menyn a 3.67% o Brotein sy’n cyfateb i 620kg o solidau llaeth y fuwch. Y cyfrif celloedd somatig cyfredol (SCC) yw 100,000 o gelloedd/ml.

Gan fod llawer o fuchesi llaeth yng Nghymru wedi trosglwyddo naill ai i batrwm lloia mewn bloc yn y gwanwyn neu floc yn yr hydref i wneud y gorau o gontractau llaeth, ynghyd â’r defnydd gorau posibl o borfa a phorthiant, mae ffrwythlondeb y fuches wedi dod yn fwyfwy pwysig er mwyn cynnal bloc tyn o 6–12 wythnos. Mae hyn yn dibynnu ar y math o fuwch a'r system y maen nhw’n ei gweithredu. 

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Rhys, ynghyd â’i rieni Dei a Heulwen Davies, wedi bod yn cynnal profion genomig ar eu stoc ifanc i amcangyfrif eu potensial genetig ac i’w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch bridio ar gyfer eu buches.

Bydd y prosiect hwn yn cynnwys dewis pum rhoddwr sy’n heffrod R2 elitaidd 13-14 mis oed o ran % protein, % ffrwythlondeb, % SCC a nodweddion cynnal ar ganlyniadau genomig. Caiff hanes teulu'r heffrod/mamau eu gwerthuso hefyd. Bydd buwch sy’n lloia am y tro cyntaf hefyd yn cael ei dewis ym Moor Farm, gan ei bod yn y 200 uchaf yn y UK AHDB PLI, ym mis Ebrill 2024.
  
Bydd y chwe anifail hyn yn destun casglu wygelloedd drwy Adfer Wygelloedd Trawsffiniol (Ffigwr 1) ganol mis Mai 2024. Bydd yr wygelloedd yn cael eu ffrwythloni â semen ac yn aros mewn dysgl petri am 7 niwrnod, ac yna'n cael eu rhewi fel embryonau tan y dyddiad mewnblannu.
 

Ffigwr 1: Adfer Wygelloedd Trawsffiniol 

Bydd dewis derbynwyr yr un mor bwysig â dewis rhoddwyr; bydd y rhain yn heffrod R2 â theilyngdod genetig/genomig is ym Moor Farm, sy'n iach, wedi tyfu'n dda, ac â sgôr cyflwr corff da. Bydd 20 o dderbynwyr posibl yn cael eu sganio a'u gwirio ymlaen llaw gan y milfeddyg dan sylw ac yna'n cael eu rhaglennu ar gyfer cydamseru ar brotocol PRID ac Estrumate 10 diwrnod, gan ddechrau ar 15 Mehefin 2024.

Ar 22 Mehefin 2024, bydd embryonau IVF rhewedig yn cael eu mewnblannu i’r heffrod a bydd heffrod sy’n rhoddwyr yn cael eu harsylwi a’u ffrwythloni pan fyddan nhw’n gofyn tarw ochr yn ochr â grŵp sy’n destun rheolaeth AI safonol. Bydd y ddau grŵp o heffrod yn cael eu sganio am feichiogrwydd ar 9 Medi 2024.

Trwy ysgogi gwelliant pellach mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel 
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr