Diweddariad Prosiect (Chwefror 2020) - Cefnllan: Rheoli'r newid; buchod sugno i gig eidion o'r fuches odro

Mae Farmax yn feddalwedd sy'n cynorthwyo wrth wneud penderfyniadau, a ddefnyddiwyd yn y prosiect er mwyn cynorthwyo wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol a gwneud penderfyniadau rheoli pwysig.  Isod, gweler cyfres o graffiau a thablau, sy'n cymharu'r fenter buchod sugno a'r fenter newydd o fagu a phesgi lloi croesfrid Angus a brynwyd yn ystod y gwanwyn.

Mae Tabl 1. yn dangos cyflenwad amcangyfrifedig y porfa dan y gyfundrefn rheoli porfa wreiddiol yng Nghefnllan o'i gymharu â galw y fuches sugno.

 

Mae Tabl 2. yn dangos cyflenwad amcangyfrifedig y porfa dan y trefniant newydd o reoli pori mewn cylchdro o'i gymharu â'r galw gan y lloi croesfrid Angus.

 

Mae Tabl 3. yn dangos ansawdd amcangyfrifedig y porfa dan y gyfundrefn rheoli porfa wreiddiol yng Nghefnllan gyda'r fuches sugno.

 

Mae Tabl 4. yn dangos ansawdd posibl y porfa dan y trefniant newydd o reoli pori mewn cylchdro gyda'r lloi croesfrid Angus.

 

Mae Tabl 5. yn dangos y tyfiant tir pori amcangyfrifedig dan y gyfundrefn rheoli porfa wreiddiol yng Nghefnllan gyda'r fuches sugno.

 

Mae Tabl 6. yn dangos y tyfiant tir pori posibl dan y trefniant newydd o reoli pori mewn cylchdro gyda'r lloi croesfrid Angus.

 

O'r tablau hyn, o'i chymharu gyda'r fenter buchod sugno (ar system stoc gosod), mae'n amlwg bod y fenter magu a phesgi lloi (ar system pori mewn cylchdro) yn defnyddio'r porfa mewn ffordd fwy effeithlon, yn ogystal â chadw ansawdd yn y porfa.