Diweddariad Prosiect: Ebrill 2020 - Hendre Ifan Goch

Gan ddilyn cyngor Gareth Davies; mae Russell a Rhys o Hendre Ifan Goch wedi bod yn brysur yn awyru'r caeau, yn ogystal â chwalu tail buarth ac yn taenu calch yn unol â’r argymhellion er mwyn helpu i gyflymu gweithrediad bioleg y pridd  i ddechrau rhyddhau'r banc o faetholion sydd yn y pridd.

Fideo 1. Calchu ar fferm Hendre Ifan Goch

 

Delwedd 1. Asesu faint mae’r pridd wedi’i gywasgu.  Mae cywasgiad pridd yn digwydd pan fo gronynnau’r pridd yn cael eu gwasgu at ei gilydd dros amser, gan leihau’r lle i fandyllau rhyngddyn nhw.

 

Delwedd 2. Tail buarth wedi’i chwalu ar gaeau’r treial

 

Delweddau 3 a 4. Mae awyru’n golygu agor tyllau mân yn y pridd i ganiatáu i aer, dŵr a maetholion dreiddio i lawr i wreiddiau’r glaswellt; mae hyn yn helpu'r gwreiddiau i dyfu'n ddyfnach a chynhyrchu cnwd cryfach a mwy egnïol.  Y prif reswm dros awyru yw lleddfu’r cywasgiad yn y pridd.  Mae Rhys a Russell wedi bod yn defnyddio'r peiriant isod, awyrydd Watson.

 

Ble nesaf?

  • Gareth i ymweld â'r fferm yn nes ymlaen yn y tymor i gerdded y caeau a phalu rhagor o dyllau i weld a oes angen ymchwilio’n ddyfnach.
  • Ffactor cyffredin arall a welwyd yng nghanlyniadau'r samplau pridd yw'r lefelau isel o Boron, ac felly bydd ychwanegu Boron gronynnol i bob un o'r caeau yn cael ei ystyried nesaf.
  • Byddai ychwanegu cynnyrch wedi’i seilio ar Ffosfforws i hybu Nitrogen yn opsiwn, i helpu i sicrhau bod bioleg y pridd yn symud yn gynt, a dechrau rhyddhau'r banc o faetholion sydd yn y pridd
  • Cwblhau archwiliad carbon o’r fferm gyfan gan ddefnyddio cyfrifiannell ôl troed carbon.