Diweddariad Prosiect: Mawrth 2020 - Hendre Ifan Goch: Canlyniadau’r samplau pridd

Sampl pridd - Coch 3

Sampl pridd - Oren 3

Sampl pridd - Porffor 3

 

Drwy edrych ar ganlyniadau'r samplau pridd, mae'n ymddangos bod ambell ffactor cyffredin.  Mae lefelau cyffredinol y carbon yn y priddoedd yn dda, ond mae lefelau’r carbon gweithredol yn isel.  Mae hyn yn dangos diffyg gweithgarwch biolegol yn y pridd.  Mae hyn yn digwydd yn gyffredinol o ganlyniad i gynefin sy’n llai na delfrydol i weithgarwch biolegol oroesi ynddo.

Ar sail y samplau, mae'n ymddangos mai un o'r prif ffactorau cyfrannol yn yr achos hwn yw bod dŵr yn symud yn rhydd yn y pridd. Mae hyn bron yn sicr wedi cael ei chwyddo gan y tywydd gwlyb iawn dros y chwe mis diwethaf.  Yn hytrach na bod y dŵr yn symud i lawr drwy'r pridd, tybir ei fod wedi bod yn eistedd yn yr ychydig fodfeddi uchaf (ac nad yw’n gallu treiddio'n ddyfnach).  Gan ein bod ni wedi gweld ychydig wythnosau o dywydd sych erbyn hyn, mae'r ychydig fodfeddi uchaf yn sychu'n eithaf cyflym, mae'r tir yn ymddangos yn sych iawn ac mae twf y glaswellt fel petai'n arafu.  Yn ôl pob tebyg mae digon o leithder ymhellach i lawr yn y pridd na all y gwreiddiau ei gyrraedd.

Un dasg fawr gychwynnol yw ceisio cael y dŵr hwn i symud drwy'r pridd, a chreu amodau mwy ffafriol ar gyfer bywyd y pridd.

 

Awgrymiadau cychwynnol yr ymgynghorydd tir glas, Gareth Davies, Grassland Advisory Services Ltd:

  • Y peth cyntaf i'w wneud yw awyru'r priddoedd ac ychwanegu unrhyw galch angenrheidiol.  Un awgrym fyddai agor mwy o dyllau yn ddiweddarach yn y tymor i weld a oes angen in i edrych ychydig yn ddyfnach.  Bydd cael y dŵr i symud cyn gynted â phosibl yn helpu i gael gwared ar y lefelau uchel iawn o haearn yn y pridd.
  • Awgrym arall fyddai ychwanegu rhywfaint o P+K i bob un o'r meysydd eleni.  Ceir banc mawr o'r elfennau hyn ym mhob un o'r samplau ond oherwydd diffyg gweithgarwch biolegol y pridd nid yw ar gael ar hyn o bryd.
  • Ffactor cyffredin arall yw'r lefelau isel o Boron, felly awgrymir y dylai Boron gronynnol  gael ei ychwanegu at bob un o'r caeau.
  • Pan fydd y gwaith calchu ac awyru wedi'i wneud, byddai ychwanegu rhywfaint o gynnyrch wedi’i seilio ar Ffosfforws i hybu Nitrogen yn opsiwn, i helpu i sicrhau bod bioleg y pridd yn symud yn gynt, a dechrau rhyddhau'r banc o faetholion yn y pridd.

Y camau nesaf i’w cymryd:

Cae 1 (Coch 3) – 2.2T/Ha o Galch calsiwm. Defnyddio gwrtaith P+K neu dail buarth. Awyru. Ychwanegu Boron. Ychwanegu Phos N.

Cae 2 (Oren 3) – 200Kg/Ha o Calcifert. Defnyddio P+K neu dail buarth. Awyru. Ychwanegu Boron. Ychwanegu Phos N. Ychwanegu Symbylwr Planhigion drwy’r Dail (Maerite)

Cae 3 (Porffor 3) – Dim Calch, ond gellid ystyried Keyserite. P+K neu dail buarth. Awyru. Ychwanegu Boron. Ychwanegu Phos N. Ychwanegu Sylffwr.