Cynyddu Gwytnwch i sychder yr haf - treialu Maglys

Bydd y prosiect yn anelu at fonitro sefydlu a rheoli cnwd maglys sy'n gallu gwrthsefyll sychder, a allai wneud ffermydd Cymru'n wydn i hafau sychach mynych.  Bydd ŵyn yn pori’r cnwd a bydd eu perfformiad yn cael ei gymharu â gwndwn rhygwellt a meillion traddodiadol. Cesglir data ar gynnyrch cnydau, perfformiad ac iechyd ŵyn, a dadansoddiad economaidd o’r ddau gnwd. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol 
  • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon 
  • Diogelu a gwella ecosystem y fferm