Ffosygravel Uchaf, Borth, Ceredigion

Prosiect Safle Ffocws: Cymharu systemau mesur cynhyrchiant glaswelltir

Nod y prosiect:

Nod y prosiect yw cymharu cywirdeb dwy system ar gyfer mesur glaswellt; mesurydd plât a delweddau lloeren. Bydd dull torri a phwyso hefyd yn cael ei ddefnyddio’n fisol i sicrhau cywirdeb. Byddwn yn isrannu’r caeau ac yn mapio’r isadeiledd ar gyfer argaeledd dŵr a mynediad i’r padogau er mwyn gallu rheoli’r borfa’n rhwydd ar fferm Ffosygravel.

Bydd dyrannu’r padogau’n gywir yn galluogi Mr Griffiths i gynnig glaswellt ar y cyfnod tair deilen gyda lefelau digonol o egni metaboladwy (ME) a threuliadwyedd (gwerth D), gan hefyd gadw porfa’n weddill i sicrhau ail-dyfiant o ansawdd da yn y cylchdro canlynol. Mae sicrhau cydbwysedd cywir o ran porthiant yn anoddach gyda glaswellt na dogn TMR (dogn cymysg cyflawn), felly, mae cywirdeb mesuriadau’r glaswellt yn allweddol er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl ohono. 

Bydd glaswellt yn cael ei fesur gan ddefnyddio delweddau lloeren, mesurydd plât a thorri a phwyso er mwyn cymharu cywirdeb. Bydd hyn yn ein galluogi i asesu gallu delweddau lloeren i gynyddu cynhyrchiant ac ansawdd glaswellt (tDM) ar fferm Ffosygravel. 

Caiff troi allan yn fuan a rheolaeth pori’r gwanwyn ei ddiystyru’n aml, ac felly mae rheolaeth cau yn yr hydref a gorchudd ar ddiwedd y tymor yn hanfodol ar gyfer sicrhau porfa ar gyfer y gwanwyn. Er mwyn gallu cyflawni 10 cylchdro mewn blwyddyn, mae angen gorffen y cylchdro cyntaf erbyn dechrau Ebrill a dau gylchdro a hanner erbyn dechrau Mai. 

Trwy wella’r penderfyniadau ynglŷn â phori, ein nod yw cyflawni o leiaf un cylchdro arall gan ddefnyddio mwy o laswellt, gan hefyd sicrhau bod y rownd ddiwethaf o bori’n ein galluogi i gadw porfa erbyn pan fyddwn ni’n troi’r anifeiliaid allan y tro nesaf yn 2022, a hyd yn oed yn gynt o bosibl.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Pencraig
Trelech, Caerfyrddin Prosiect Safle Ffocws: Deall gweithrediad
Penwern
Penwern, Cilcennin, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion Prosiect
Fferm Tedion
Fferm Tedion, Arberth, Sir Benfro Digwyddiad Safle Ffocws