Ffeithiau Fferm Hendre Ifan Goch

Mae Hendre Ifan Goch yn fferm fynydd 91 hectar (ha) mewn Ardal dan Anfantais Fawr yng Nghymoedd De Cymru, sy’n cael ei rhedeg gan Russell a Rhys Edwards.

Mae’r fferm, sy’n codi o 600 i 1300 troedfedd, yn cynnal 400 o famogiaid miwl Aberfield, 200 o famogiaid miwl Cymreig a 130 o ŵyn benyw.

Mae perfformiad y ddiadell yn cael ei gofnodi ac mae penderfyniadau difa’n cael eu gwneud yn seiliedig ar y data hwn.

Mae system bori cylchdro ar ffurf padogau wedi cael ei greu er mwyn pori’r ddiadell.

Mae 16 hectar o silwair yn cael ei gynaeafu ym mis Mehefin.

Mae’r ddiadell yn cael ei chadw dan do ar gyfer ŵyna rhwng 5 Mawrth ac yn derbyn Dogn Cymysg Cyflawn (TMR).

Mae’r ŵyn yn cael eu diddyfnu yn 12 wythnos oed ac yn cael eu gwerthu ar y bach i Dunbia neu Kepak.

 

Arallgyfeirio

Mae generadur hydro 5.5kW yn cynhyrchu 27,000 kilowat awr (kWh) y flwyddyn ar gyfartaledd.

Yn 2000, creodd y teulu barc fferm a safle pysgota brithyll; mae’r safle’n cael ei rentu fel lleoliad llwyddiannus ar gyfer priodasau a digwyddiadau.

Sefydlwyd parc carafanau a champio yn 2013.

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol

  • Gwella ein hôl troed carbon
  • Gwella iechyd y ddiadell