Katherine & David Langton
Fferm Langton , South Ceredigion
Ymestyn y tymor cynhyrchu tomatos i'w dosbarthu'n gyfanwerthol
Mae Katherine a David Langton yn gweithredu busnes gardd farchnad sefydledig sy’n tyfu llysiau a gynhyrchwyd yn amaeth-ecolegol ar gyfer cynllun bocsys llysiau, a hefyd i’w cyfanwerthu i fanwerthwyr a siopau lleol. Yn 2023, buont yn rhan o gynllun peilot ‘Bwyd mewn Ysgolion’ yn treialu cynhyrchu lleol ar gyfer caffael cyhoeddus, a oedd yn cynnwys gweithio gyda chwmni dosbarthu ag enw da o Gymru i gynyddu’r cynnyrch ffres lleol sy’n mynd i ysgolion.
Mae teulu Langton wedi ehangu’r busnes i gynnwys safle ychwanegol yn Aberteifi, a fydd yn cynnwys mentrau newydd fel perllan ffrwythau a chynhyrchu llysiau ar raddfa cae. Fel rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, bydd Fferm Langton yn treialu cynyddu eu cynhyrchiant tomatos ac yn ceisio ymestyn tymor y cnwd i gefnogi gofynion eu marchnad gyfanwerthol.
Mae teulu Langton wedi casglu dwy flynedd o ddata ar safle tyfu eu gardd farchnad a byddant yn defnyddio hwn fel pwynt sylfaen i lywio’r gwaith o uwchraddio ac ehangu eu cnwd tomatos ar eu fferm newydd yn Aberteifi. Mae mathau penodol wedi'u dewis i fodloni gofynion yr arlwywyr ysgol a'r dosbarthwyr cyfanwerthu sy'n cyflenwi i'r system caffael gyhoeddus.
Nod y prosiect yw:
Nodi mathau o domatos sy'n addas at y diben ar gyfer y farchnad arfaethedig
Archwilio gwahanol ddyddiadau hau a phlannu i greu cyflenwad dibynadwy o gynnyrch mor bell â phosibl i mewn i'r tymor
Treialu plannu cydymaith gyda chnwd ciwcymbr
Treialu gwahanol ddulliau tyfu i ymestyn cyfnod cnydio'r planhigion tomatos
Cynyddu’r cynnyrch o’u cymharu â blynyddoedd blaenorol
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau’r cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
ecosystemau cydnerth