Sam Hollick

Llysiau Menai, Anglesey

 

Lleihau difrod gan chwilod naid wrth gynhyrchu cnydau bresych gwerth uchel

Gardd farchnad un erw ger Llanfairpwllgwyngyll ar Ynys Môn yw Llysiau Menai, sy'n canolbwyntio ar gynhyrchu llysiau tymhorol a lleol. Er nad yw wedi'i ardystio'n organig, mae'r tyfwr Sam Hollick yn ymarfer dulliau amaeth-ecolegol, gan adeiladu iechyd pridd a chefnogi bioamrywiaeth i ddarparu cynnyrch ffres i'r gymuned leol trwy gynllun bocsys llysiau. Ar ôl tymor cychwynnol llwyddiannus, mae’r fferm yn dangos potensial ar gyfer twf ac mae ganddi ddiddordeb mewn cynyddu cynhyrchiant ac archwilio llwybrau newydd i’r farchnad.

Fel rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, bydd y treial yn edrych ar ffyrdd o atal difrod chwilod naid mewn cnydau bresych gwerth uchel, yn enwedig pak choi a dail salad Asiaidd. Mae gan y fferm brofiad o dyfu’r cnydau hyn yn ei thymor cyntaf a hoffai wella a chynyddu cynhyrchiant ar gyfer 2024.

Un o'r prif blâu sy'n effeithio ar gnydau bresych yw chwilod naid. Mae chwilod naid yn ymosod ar gnydau trwy greu tyllau yn y dail, gan neidio o blanhigyn i blanhigyn a niweidio eginblanhigion ifanc y tu hwnt i adferiad yn aml. Mae’r pla yn gyffredin yn y gwanwyn pan fydd tymheredd y pridd yn codi, ac felly mae angen rhoi cynllun rheoli ar waith yn gynnar yn y tymor.

Bydd y prosiect hwn yn archwilio dulliau amaeth-ecolegol o reoli plâu gan gynnwys:

  • Rhwyll amddiffynnol i gadw plâu allan
  • Cnydau cydymaith i ‘wthio’ plâu i ffwrdd
  • Cnwd trap mwstard i ‘dynnu’ plâu
  • Blodau gwyllt i ddenu rhywogaethau ysglyfaethus

Bydd y prosiect hefyd yn cymharu drilio yn uniongyrchol â thrawsblaniadau, F1 a hadau wedi'u peillio'n agored, ac wrth gynaeafu, bydd pwysau’r cnwd a gradd y cnydau yn cael eu cofnodi i'w dadansoddi'n ddiweddarach. Bydd dyddiadau hau a dyddiadau cnydio hefyd yn cael eu cofnodi mewn ymdrech i ymestyn y tymor.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau’r cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Ecosystemau Cydnerth
  • Defnyddio Adnoddau’n Effeithiol
     

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Clyngwyn
Jeff, Sarah, Enfys a Medi Wheeler Clyngwyn, Clunderwen, Sir
Tyddyn Cae
Ifan Ifans Tyddyn Cae, Pwllheli, Gwynedd {"preview_thumbnail":"
Hafod Y Foel
Edward Evans Hafod Y Foel, South Montgomeryshire Gydag o leiaf