Lewis Jones

Moreton Farm, Wrexham & Flint

 

EDPET (Canfod yn Gynnar a Thriniaeth Effeithiol yn Brydlon): Asesu effaith canfod cloffni yn well ar achosion o gloffni a nifer yr achosion o friwiau.

Gall ychydig llai na thraean o wartheg llaeth fod yn profi rhywfaint o gloffni yn y DU. Mae achos o gloffni ar gyfartaledd yn costio tua £330 i’r fferm laeth oherwydd bod llai o laeth yn cael ei gynhyrchu, llai o ffrwythlondeb, a risg uwch o ddifa. Mae hyn yn golygu ar gyfer y fuches laeth gyda 250 o wartheg gyda lefelau cyfartalog o gloffni, bydd yn arwain at golledion o tua £65,000 y flwyddyn.

Mae gan Moreton Farm fuches o 440 o fuchod sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn gyda’r mwyafrif yn lloia yn nhymor yr Hydref. Ar hyn o bryd mae’r buchod yn cynhyrchu 7,800 litr y fuwch y flwyddyn ar gyfartaledd, gyda 4.30% o fraster menyn a 3.35% o brotein. Mae Lewis yn bwriadu pwyso am fwy o gynnyrch a dod â'r fuches gyfan i mewn i un bloc lloia yn nhymor yr hydref wrth symud ymlaen. Ers i Lewis ymuno â’r busnes teuluol mae nifer y buchod wedi cynyddu’n sylweddol ochr yn ochr â buddsoddiadau mewn isadeiledd, parlwr godro, sied giwbiclau o’r radd flaenaf a mwy.

Bydd y prosiect hwn yn gweithio'n agos gyda Sara Pedersen o Farm Dynamics i asesu iechyd traed a nodi meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt er mwyn gwella symudedd yn y fuches. Yn benodol, y nod yw nodi buchod ar gam cynnar o gloffni er mwyn sicrhau bod cyfraddau adfer da yn cael eu cyflawni a bod yr effaith ar golledion o ran cynnyrch llaeth a ffrwythlondeb yn cael ei lleihau. Ochr yn ochr â chanfod yn gynharach, bydd ffocws hefyd ar atal cloffni rhag digwydd yn y lle cyntaf. Drwy gydol y prosiect, byddwn yn:

  • Asesu data ar drimio traed a thriniaeth i nodi’r prif friwiau sy'n achosi cloffni
  • Cynnal asesiad risg llawn o’r fferm i nodi meysydd allweddol a datblygu cynllun gweithredu i leihau'r risg o gloffni
  • Ymchwilio i opsiynau ar gyfer gwella’r broses o ganfod cloffni’n gynnar naill ai drwy dechnoleg neu drwy sgorio symudedd yn rheolaidd
  • Asesu protocolau trimio traed a hyfforddi/datblygu sgiliau tîm y fferm i sicrhau triniaeth brydlon ac effeithiol ar ôl i fuchod gael eu nodi fel buchod sy’n gloff

Byddwn yn monitro nifer yr achosion o gloffni ac achosion o friwiau ar y traed dros gyfnod y prosiect hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025 ac yn ei gymharu â’r llinell sylfaen ar y dechrau er mwyn pennu effaith y newidiadau a roddwyd ar waith.

Trwy ysgogi gwelliant pellach mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at y canlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
  • Cefnogi gwelliant o ran sicrhau cymaint â phosibl o storio carbon a dal a storio carbon wrth leihau ôl troed carbon y fferm gyfan
  • Cyfrannu at safonau iechyd a lles uchel y fuchesth and welfare

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Cilthrew
Marc, Wynn & Bethan Griffiths Cilthrew, Llansantffraid, Gogledd
Moor Farm
David, Heulwen and Rhys Davies Moor Farm, Treffynnon, Fflint {
Rhydeden
Eurof Edwards Rhydeden, Conwy Mae Fferm Rhydeden yn fferm 100