Rhodri Jones

Pen Y Parc, Llanerfyl

 

Astudiaeth ddichonoldeb – addasu technoleg ar gyfer fferm laeth mewnbwn isel sy’n lloia yn y gwanwyn

Yn 2018, ymunodd fferm Pen Y Parc â fferm laeth gyfagos mewn partneriaeth, gan roi’r ysbrydoliaeth i Rhodri geisio rhedeg Pen Y Parc fel menter unigol. Maent wedi buddsoddi mewn isadeiledd gan adeiladu lagŵn slyri, sied giwbiclau a pharlwr godro newydd, a chafodd y fferm ei throsi’n gyfan gwbl i fferm laeth gost isel yn lloia yn y gwanwyn, gyda’r tymor cyntaf yn 2023.

Mae Rhodri a Sion yn cadw 175 o wartheg Kiwi croes yn bennaf ar lwyfan bori 66 hectar, gyda TB yn cyfyngu ar yr uchelgais o ran nifer y gwartheg ar hyn o bryd. Mae stoc ifanc yn cael eu magu ar flociau allanol y fferm ac mae silwair yn cael ei brynu i mewn ar gyfer y fuches.

Mae Rhodri a Sion yn rhedeg system syml, ond maent yn awyddus i archwilio a allai technoleg gynnig cymorth a gwella effeithlonrwydd, a’r gyfradd elw ar fuddsoddiad o ran eu DPA presennol ar gyfer ffrwythlondeb, cynhyrchiant, iechyd, elfennau metabolig ac arbedion llafur posibl.

Bydd y prosiect ar fferm Pen Y Parc yn ymchwilio i elw posibl ar fuddsoddiad y technolegau sydd ar gael i ffermwyr sy’n rhedeg system debyg, ac yn benodol, pa dechnolegau fyddai’n fwyaf addas ar gyfer y system ar fferm Pen Y Parc.

Bydd yn cynnwys y pynciau canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

Iechyd a lles anifeiliaid:

  • Coleri gwartheg
  • Bolysau
  • Tagiau sy’n monitro arwyddion o ofyn tarw, iechyd a chnoi cil

Iechyd a diogelwch:

  • System giatiau dethol awtomatig

Awtomeiddio:

  • Peiriant magu/bwydo lloi
  • Peiriannau crafu robotaidd
  • Awtomeiddio yn y parlwr godro
  • Baddon traed

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Ecosystemau cydnerth
  • Aer glân
  • Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Nantyrhebog
Michael James Nantyrhebog, Carmarthen Ymchwilio i’r elw posibl ar
Cilthrew
Marc, Wynn & Bethan Griffiths Cilthrew, Llansantffraid, Gogledd
Moor Farm
David, Heulwen and Rhys Davies Moor Farm, Treffynnon, Fflint {