Fflur Richards

Cydweli, Sir Gaerfyrddin

Mae’r fyfyrwraig chweched dosbarth, Fflur Richards, sydd â dyheadau i weithio fel milfeddyg anifeiliaid mawr un diwrnod eisoes yn dangos diddordeb brwd mewn rhoi technolegau bridio arloesol ar waith yn y busnes ffermio teuluol.

Mae Fflur yn ymwneud yn fawr â'r gwaith trosglwyddo embryo yn y ddiadell Wyneblas Caerlŷr yn Penyback, Llandyfaelog, lle mae ei theulu hefyd yn godro gwartheg ac mae ganddi fenter bîff.

Mae hi ar hyn o bryd, yn astudio ar gyfer lefel A mewn Mathemateg, Bioleg a Chemeg a Bagloriaeth Cymru yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ac yn gobeithio cychwyn ar radd mewn milfeddygaeth yn y brifysgol.

“Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, mae gennyf ddiddordeb yn y rôl sydd gan iechyd a lles anifeiliaid o ran gwella effeithlonrwydd a lleihau methan a hoffwn ganolbwyntio fy niddordebau ar wella’r agweddau hyn,’’ meddai.

Er gwaethaf yr heriau sy'n wynebu amaethyddiaeth ar hyn o bryd, mae Fflur yn parhau i fod yn ymroddedig ac yn frwdfrydig dros ddyfodol y diwydiant.

Mae'n edrych ymlaen at ehangu ei gorwelion gyda'r syniadau arloesol y bydd yn eu hennill trwy gymryd rhan yn Rhaglen Iau yr Academi Amaeth.

Mae Fflur yn aelod gweithgar o CFfI Llanismel, gan gynrychioli’r clwb mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus, coginio a drama.

“Bydd hyn yn fy ngrymuso i ddod â syniadau ar gyfer gwell effeithlonrwydd a chynhyrchiant adref i'r fferm deuluol ac i'w defnyddio yn fy ngyrfa yn y dyfodol fel milfeddyg hefyd.''