A fydd twf cyfadferol yn arwain at leihau costau porthi heb effeithio ar berfformiad cyffredinol?
Cedwir buches o 41 o fuchod magu Belgian Blue ar fferm Tanygraig (sy’n lloia yn y gwanwyn/haf), gyda’r gwartheg yn cael eu pesgi ar y fferm rhwng 17 a 24 mis oed a’u gwerthu i ladd-dy lleol. Mae’r gwartheg yn pori ar gylchdro yn ystod y gwanwyn a’r haf a’u rhoi dan do mewn ciwbyclau erbyn canol mis Hydref, gan ddibynnu ar y tywydd. Tra byddant dan do am y gaeaf cyntaf, rhoddir silwair glaswellt ad lib a chymysgedd CP 14% ar tua 1 kg y pen y dydd. Cynyddir y dwysfwyd yn ystod yr ail aeaf i 3kg y pen y dydd o fis Hydref i fis Rhagfyr a 5kg y pen y dydd o fis Ionawr tan y byddant wedi eu pesgi. Bydd y gwartheg yn cael eu pwyso pan fydd gweithwyr ar gael i fonitro pwysau.
Amcangyfrifir bod costau porthiant yn cyfri am tua 75% o gyfanswm y costau cynhyrchu mewn buchesi bîff, felly gall gwelliannau bach mewn effeithlonrwydd porthiant gael effaith mawr ar broffidioldeb y fferm. Dangosodd gwaith ymchwil bod cynnydd mewn pwysau byw o 0.5–0.6 kg y dydd trwy’r gaeaf cyntaf i stoc ifanc wedi eu diddyfnu yn ddigonol i’r rhai fydd yn dychwelyd i borfa yn y gwanwyn. Oherwydd twf cyfadferol dros yr haf, gwartheg oedd wedi ennill lleiaf yn ystod y gaeaf cyntaf oedd yn ennill mwyaf o bwysau byw ar laswellt, gan arwain at golli’r fantais pwysau o’r gaeaf cyntaf erbyn diwedd y tymor pori. Mae’r prosiect yn anelu at dreialu diddymu porthi dwysfwyd yn ystod y gaeaf cyntaf i fesur mantais gostwng y costau porthiant heb effeithio ar berfformiad cyffredinol trwy leihau porthi drud yn ystod y gaeaf a gwneud gwell defnydd o laswellt, sef y ffynhonnell porthiant rhataf yn y pen draw.
Trwy yrru mwy o welliant mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddeilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
- cyfrannu at iechyd a lles da i’r fuches
- cefnogi gwelliant mewn storio ac atafaelu carbon gan leihau ôl troed carbon y fferm gyfan
- lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
- gwella effeithlonrwydd o ran adnoddau trwy wneud y mwyaf o borthiant wedi ei dyfu gartref ar y fferm