Lea Williams

Llansannan, Sir Ddinbych

Mae Lea Williams, a dreuliodd ei phlentyndod wedi ymgolli mewn ffermio ar fferm bîff a defaid ei theulu, yn uchelgeisiol am yrfa mewn amaethyddiaeth.

Fel merch i rieni sydd wedi gweithio'n galed i brynu eu fferm eu hunain, hoffai Lea ddilyn yn ôl eu traed a chyflawni'r un peth ei hun rhyw ddiwrnod.

Mae Lea ar hyn o bryd yn ei blwyddyn olaf yn astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Glynllifon ac yn ei hamser hamdden mae hi’n helpu ar y fferm, yn gwneud popeth o fwydo’r da byw a thrin gwartheg i reoli busnes llety gwyliau ac wyau a mêl y teulu.

“Rwyf wrth fy modd yn gofalu am bawb a phopeth ac wrth gwrs gwaith ffermwyr yn y pen draw yw gofalu am eu hanifeiliaid tra hefyd yn gofalu am y boblogaeth sydd angen eu bwydo,” meddai.

Un o brif ddiddordebau Lea yw canu, ac mae ganddi lais sydd wedi ei gweld yn ennill gwobrau mewn cystadlaethau gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol ers yn ifanc iawn.

Mae hi hefyd yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llansannan ac yn drysorydd y clwb, gan gymryd rhan mewn eisteddfodau, dyddiau maes a’r rali.

Wrth iddi edrych ymlaen at ei gyrfa yn y dyfodol, a allai gynnwys rhedeg ei busnes ei hun, mae Lea yn edrych ymlaen at adeiladu ar ei gwybodaeth yn ystod Rhaglen Iau yr Academi Amaeth i’w helpu ar y llwybr hwnnw.

“Bydd hefyd yn dda cwrdd â phobl ifanc eraill sydd â diddordebau tebyg i mi, i rannu syniadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd.''