Llio Davies

Llanelwy, Conwy

Mae’r pêl-droedwraig talentog, Llio Davies yn ferch ifanc gyda sawl nod mewn bywyd.

Mae Llio wedi rhoi ei bryd ar broffesiwn yng nghefn gwlad ar ôl iddi orffen ei hastudiaethau, ac mae hefyd yn dyheu am gael ei busnes magu lloi ei hun.

Mae’n byw ar fferm laeth y teulu, Pentre Du Isa, ac mae hi wrth ei bodd yn ffermio, popeth o waith tractor a godro i fagu’r genhedlaeth nesaf o heffrod cyfnewid.

Mae hi hefyd yn aelod gweithgar o CFfI Llannefydd ac yn ddiweddar bu’n cystadlu gyda chôr Dyffryn Clwyd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Mae Llio yn rhagori ar y cae pêl-droed hefyd, gan gynrychioli Cymru ar lefel ysgolion Prydeinig. Mae hi’n chwarae i Dîm Merched y Rhyl ac yn 2023 cafodd ei henwi fel chwaraewr ifanc gorau'r tîm.

Wrth iddi edrych ymlaen at gymryd rhan yn Rhaglen Iau yr Academi Amaeth, mae'n gyffrous am y posibiliadau sydd ar gael.

“Mae’n mynd i fod yn gyfle anhygoel i gael profiadau newydd a chwrdd â gwahanol bobl."

“Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at fod yn llais i bobl ifanc sy'n bwriadu dilyn gyrfa mewn amaethyddiaeth.''