Menna Protheroe

Llanwrtyd Wells, Powys

Nid oedd gan Menna Protheroe erioed unrhyw amheuaeth mai ffermio fyddai ei llwybr gyrfa yn y dyfodol.

Wrth gael ei magu ar fferm bîff a defaid y teulu, Cwmbryn, ym Meulah mae hi wedi cael ei throchi mewn amaethyddiaeth o'r diwrnod y cafodd ei geni.

Mae hi bellach yn astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Cambria Llysfasi.

Mae mudiad y Ffermwyr Ifanc wedi chwarae rhan bwysig yn ei bywyd; fel aelod o CFfI Troedrhiwdalar ers yn 10 oed, mae hi wedi cystadlu ym mhopeth o farnu stoc a choginio i ddawnsio.

Cyfranogiad ei chwaer yn rhaglen yr Academi Amaeth yn 2017 a anogodd Menna i wneud cais yn 2023, ar ôl iddi weld ei chwaer yn defnyddio’r wybodaeth a gafodd yn ystod ei haddysg.

Mae hi'n edrych ymlaen yn eiddgar at ei phrofiad ei hun.

“Rwy’n gobeithio cwrdd â phobl sydd yr un mor frwd am y diwydiant ag yr wyf i, i wneud ffrindiau â phobl o’r un anian sydd eisiau sicrhau dyfodol ein diwydiant amaethyddol."

“Gwn y bydd y rhaglen hon yn rhoi cyfoeth o gyfleoedd i mi wneud hynny.''