1 Hydref 2018

 

 

owain gwion

Mae Gwion Jones yn 22 oed, mae'n uchelgeisiol ac yn weithgar a gwireddwyd ei freuddwyd oes o reoli ei fferm ei hun yr hydref hwn, pan gafodd denantiaeth fferm ddefaid 200 erw yn agos at fferm bîff a defaid organig ei deulu ger Machynlleth. 

Mae Gwion yn dal i fyw gartref, lle mae’n gweithio ochr yn ochr â’i dad a’i frawd hŷn i reoli diadell o tua 1,600 o ddefaid croes Cymreig a Cheviot, buches o 60 o fuchod sugno Duon Cymreig gyda heffrod ifanc a hefyd mae ganddo swydd ran amser mewn fferm gyfagos.

Gyda lefel A mewn Mathemateg a diploma mewn astudiaethau busnes o Goleg Meirion Dwyfor, mae Gwion wastad wedi bod yn fodlon helpu gyda gwaith papur y fferm ond gwyddai y byddai’n wynebu heriau newydd wrth redeg ei fusnes ei hun.

Cysylltodd Gwion â’r swyddog datblygu lleol Cyswllt Ffermio, Owain Pugh. Cafodd ei annog i wneud cynllun datblygu personol ar-lein a thrwy’r cynllun roedd Gwion yn gallu gweld beth oedd ei sgiliau presennol a’r meysydd gwybodaeth yr oedd angen iddo eu datblygu i’w helpu i ddelio â’r heriau o redeg ei fusnes ei hun.

“Ar ôl coleg, cymerais flwyddyn allan i benderfynu beth oeddwn eisiau ei wneud mewn gwirionedd,” meddai Gwion. Daeth o hyd i ddigon o gyfleoedd gwaith ac yn fuan deallodd beth oedd apêl cyflog rheolaidd.

Sylweddolodd mai ei nod yn y pen draw oedd rhedeg ei fusnes ei hun, felly penderfynodd ganolbwyntio ar gael mwy o brofiad ymarferol ar y fferm, er ei fod wedi cael cynnig lle mewn prifysgol.

“Roedd y Cynllun Datblygu Personol yn gymorth mawr a sylweddolais os oeddwn am redeg fy musnes newydd yn effeithlon heb dreulio oriau’n gwneud tasgau fel llenwi ffurflenni TAW a chyfrifon elw a cholled, fod angen i mi ddatblygu fy sgiliau busnes.”

Bellach mae Gwion yn rhedeg ei ddiadell ei hun o 400 o ddefaid croes Cymreig a Cheviot ond ochr yn ochr â’r gwaith bob dydd yma, mae eisoes yn defnyddio’r sgiliau busnes a ddysgodd mewn cyfres o gyrsiau undydd wedi’u noddi gyda ‘Simply The Best’, un o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy Cyswllt Ffermio. 

“Mae’r hyfforddiant wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd yr wyf yn rheoli’r busnes ac mae pob un o’r pedwar cwrs a ddilynais eisoes wedi arbed llawer o amser i mi gan fod gen i wybodaeth bellach am bynciau y byddwn wedi treulio oriau arnynt pe na bawn wedi cael yr hyfforddiant.”

“Dysgodd un o’r cyrsiau hyfforddi sut i ddeall a defnyddio fy nghyfrifon yn effeithiol. Mae hyn wedi golygu fy mod yn gwybod pa feysydd mae angen i mi wneud arbedion ynddynt a chynyddu lefelau elw, a allai fod yn allweddol i gynaliadwyedd y busnes yn y dyfodol ar ôl Brexit.”

Mae Gwion hefyd wedi cwblhau cyrsiau mewn cynllunio a datblygu busnes ac mae’r rhain wedi ei helpu i osod targedau y gellir eu cyflawni; cofnodion ariannol ac arwain a rheoli.

Dywed fod y rhain yn sgiliau gwerthfawr y bydd eu hangen arno yn y blynyddoedd nesaf gan mai ei nod tymor hir yw cynyddu faint o erwau y mae'n eu rhentu a niferoedd stoc, gan obeithio yn y pen draw y bydd hyn yn arwain at gontractio peth o’r gwaith allan.

“Rwy’n gallu darparu gwell data i fy nghyfrifydd a fy rheolwr banc felly mae hynny’n arbed amser.

“Rwyf hefyd yn deall pwysigrwydd meincnodi a bellach rwy’n cymharu mewnbwn ac allbwn yn fy musnes gyda’r ffermydd sy’n perfformio orau yn ôl data Arolwg Busnes Fferm a gyhoeddir gan Brifysgol Aberystwyth.”

Dywed Gwion fod gallu cwblhau bob cwrs hyfforddi mewn un diwrnod wedi bod yn hollbwysig iddo.

“Ni fuaswn wedi gallu cyfiawnhau treulio cyfnodau hirach i ffwrdd o’r busnes, felly roedd y cyrsiau undydd byr yma’n ddelfrydol i mi. 

“Yn aml roeddem yn gweithio mewn parau mewn ffordd oedd yn addas i bob dysgwr, gyda digonedd o ymarferion ymarferol a thaflenni – rwy’n dal i gyfeirio atynt – er mwyn i bawb feistroli’r hanfodion ac roeddem i gyd ar yr un lefel ar ddiwedd y cwrs.”

Nid yw Gwion yn gorffwys ar ei rwyfau, yn wir mae'n bwriadu cychwyn ei fuches o wartheg ei hun cyn hir. Mae eisoes wedi gwneud cais am gyllid ar gyfer cwrs marchnata ac mae'n bwriadu gwneud rhai o fodiwlau e-ddysgu rhyngweithiol sydd wedi’u hariannu’n llawn gan raglen Cyswllt Ffermio.

Bydd y rhain yn golygu y gall astudio ystod eang o sgiliau busnes ac ymarferol gartref ac yn ei bwysau ei hun.  

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am hyfforddiant Cyswllt Ffermio, gyda chymhorthdal o hyd at 80% ar gyfer ffermwyr a choedwigwyr cymwys, mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer sgiliau yn agored ddydd Llun 1 Hydref ac mae'n cau ddydd Gwener 26 Hydref 2018.

Cyn y gallwch gyflwyno ffurflen gais ar-lein rhaid i chi gofrestru gyda Cyswllt Ffermio, darparu cyfeiriad e-bost unigryw a chofrestru gyda gwefan BOSS Busnes Cymru lle gallwch gyrchu eich cynllun datblygu personol ar-lein, cyrsiau e-ddysgu, ffurflen gais am gyllid a gweld cofnod o’ch gweithgaredd datblygu proffesiynol parhaus.

Mae rhestr o holl gyrsiau hyfforddi achrededig Cyswllt Ffermio, ynghyd â rhestr o ddarparwyr hyfforddi cymeradwy a chanllawiau ar gwblhau cynllun datblygu personol  ar gael yma.  

I gael mwy o wybodaeth neu ganllawiau ar hyfforddiant, gwasanaethau a digwyddiadau Cyswllt Ffermio y gallai eich busnes elwa arnynt, cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol. Mae’r manylion ar gael yma ar wefan Cyswllt Ffermio. 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter
Ffermwr yn cael y gorau o’i gnydau gyda chymorth cwrs agronomeg wedi’i gefnogi gan Cyswllt Ffermio
29 Awst 2024 Gall poblogaethau chwyn, plâu a chlefydau effeithio