01 Mai 2020
Mae’r gwaith plannu tatws yn mynd rhagddo ers tro yn Sir Benfro, lle mae 32 o ffermwyr yn plannu dros 1100ha o 31 o wahanol fathau o datws ar gyfer Puffin Produce a fydd yn cyflenwi archfarchnadoedd ym mhob cwr o Gymru dros y flwyddyn nesaf. Cânt eu gwerthu fel tatws ar label yr archfarchnadoedd eu hunain a drwy’r brand enwog ‘Blas y Tir’. Yn ddiweddar maent wedi ehangu, gan sefydlu’r llinell dethol a phecynnu tatws fwyaf modern ac effeithlon yn Ewrop, sydd wedi costio miliynau. Bu’r llinell brosesu’n brysur dros ben yn ystod y mis diwethaf, gyda’r galw cynyddol oherwydd cyfyngiadau symud Covid-19, a bu iddi brosesu 20% yn rhagor o datws. Drwy fuddsoddi mewn cyfleusterau storio rheoledig o’r radd flaenaf ar safle Llwyn Helyg, mae’r cwmni wedi llwyddo i gael digonedd o gyflenwadau i fodloni’r galw hwn.
Y tatws cyntaf i gael eu codi ym Mehefin fydd Tatws Cynnar Sir Benfro a enillodd Ddynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) Ewropeaidd yn 2013. Bydd mathau gwahanol o datws yn dilyn gydol y flwyddyn o’r clasurol Maris Piper a King Edward i’r daten goch dywyll Rudolph i fathau newydd fel Belana, sy’n gwerthu fel tatws ar gyfer salad, tatws pob, tatws amryddawn a thatws bach. Maent hefyd yn tyfu llysiau tymhorol, gan gynnwys cennin, blodfresych, bresych crych a shibwns, a chyflenwir Cennin Pedr Cymreig pan maent yn eu tymor.
Gyda galw mor addawol, mae arnynt angen rhagor o dir i gynhyrchu tatws. Yn y llun, wrthi’n plannu 25ha o datws Orla ger Aberdaugleddau i’w cyflenwi i’r archfarchnadoedd yn yr hydref y mae dau dyfwr ifanc newydd, Tom Rees ac Euros Davies, sy’n gweithio â’i gilydd i rannu’r buddsoddiad sy’n ofynnol mewn peiriannau a llafur.