16 Mai 2018

 

Y Dr Elizabeth Hart: Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio, IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

Y prif negeseuon:

  • Nod yr ymchwil bresennol yw lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG), ac yn enwedig methan enterig.
  • Mae methan yn cael ei gynhyrchu gan gymuned o feicrobau yn y rwmen, sef cymuned sy’n gallu cael ei newid drwy newid deiet yr anifail.
  • Mae modd lleddfu allyriadau methan drwy fridio porthiant mewn modd detholus a thrwy strategaethau i reoli porfeydd.

Mae gan anifeiliaid sy’n cnoi cil feicrobiom cymhleth, sy’n caniatáu i garbohydradau o blanhigion gael eu troi’n egni y gall yr anifail ei ddefnyddio.  Un o sgil-gynhyrchion y broses hon yw creu methan enterig, sy’n cyfrannu at gynhesu byd-eang. Mae cynhyrchu’r methan hwn yn dibynnu ar y gymuned o feicrobau yn y rwmen sy’n ei greu. Mae’r gymuned feicrobaidd hon yn gallu cael ei haddasu ochr yn ochr â’r meicrobiota eraill yn y rwmen, a hynny heb effaith andwyol ar yr anifail ac mae hyn hyd yn oed yn gallu gwella cynhyrchedd yr anifail. Dangoswyd bod cyfansoddiad y bwyd yn dylanwadu ar y lefelau methan sy’n cael eu cynhyrchu gan anifeiliaid sy’n cnoi cil, ac felly mae llawer o’r gwaith ymchwil wedi canolbwyntio ar leihau allyriadau methan drwy ddulliau bwydo a dulliau rheoli.

 

Bridio detholus ar blanhigion porthiant a rheoli porfeydd

Yn y Deyrnas Unedig, dibynnir yn helaeth ar dir glas i gynhyrchu da byw ac yn Ewrop rhygwellt yw mwy na 60% o’r hadau glaswellt amaethyddol sy’n cael ei ddefnyddio. Mae bridio planhigion mewn modd detholus yn gyfle i leihau allyriadau methan heb gyfaddawdu ar y cynhyrchedd, a hynny drwy addasu cyfansoddiad y planhigion. I sicrhau’r maethiad gorau posibl mae angen dod o hyd i amrywogaethau porthiant addas a phennu’r priodweddau ar gyfer rhaglenni bridio planhigion. Un ffordd dda i wella effeithlonrwydd porthiant o safbwynt defnydd egni, sydd yn ei dro yn lleihau lefel allyriadau methan, yw gwella ansawdd y porthiant. Gall hyn gael ei wneud drwy gynaeafu neu bori porthiant sy’n llai aeddfed a thrwy ddewis porthiant sy’n haws ei dreulio. Mae amrywogaethau glaswellt newydd ar gael i ffermwyr a all roi gwell cynhaeaf a chael eu treulio’n haws o’u cymharu â’r hen amrywogaethau. Rhygwellt yw’r glaswellt pwysicaf sy’n cael ei hau yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n cynhyrchu cynhaeaf o safon; er hynny, gall presenoldeb chwyn yn y porfeydd, megis gweunwellt unflwydd, ostwng safon y cynhaeaf. Drwy chwilio am liw coch ar waelod coesyn y glaswellt gall ffermwyr wirio faint o rygwellt sy’n bresennol yn y brofa. Mae nodweddion ansawdd ac amodau tyfu yn amrywio o’r naill fath o rygwellt i’r llall, sy’n cynnwys planhigion diploid a thetraploid sy’n amrywio o ran eu hamodau tyfu, eu gallu i gael eu treulio a’u blasusrwydd. Mae’n bwysig dewis a dethol y glaswellt mwyaf priodol i bob cae ac fe all hau â chymysgedd o amrywogaethau fod yn fuddiol o ran eu gwerth fel maeth a’u cynhyrchedd. Dangoswyd hefyd fod cynyddu nifer y codlysiau sydd ar gael yn y porfeydd arwain at leihau allyriadau methan, o’i gymharu â chael rhygwellt yn unig. Mae codlysiau fel meillion gwyn yn haws eu treulio na glaswelltau cyffredinol, ac mae hynny’n caniatáu i’r anifeiliaid fwyta mwy ohonynt gan gyfrannu at ostyngiad yn y methan a gynhyrchir. Yn ddelfrydol, mae porfa sy’n gymysgedd o 30% o feillion gwyn a 70% o laswellt yn gydbwysedd da ond mae’r canrannau hyn yn gallu amrywio’n fawr. Mae disgrifiadau cynhwysfawr o amrywogaethau o rygwellt a argymhellir a rhestr o feillion sydd wedi’u dewis ar gyfer nodweddion penodol, ar sail treialon torri, ar gael yng nghronfa ddata ar-lein Cymdeithas Tir Glas Prydain.

Mae ymchwil IBERS yn adlewyrchu’r angen am borthiant sy’n cynhyrchu safon dda ac am well gwerth maethol dwy gyfuno nodweddion rhygwellt Eidalaidd a hybridau i wella effeithlonrwydd y rwmen a thrwy gynnig ffyrdd i leddfu pryderon amgylcheddol megis allyriadau methan. Gall ansawdd y porthiant arwain at leihau’r methan a gynhyrchir a hynny drwy godi lefelau cymeriant y porthiant; gan hynny, mae yna gryn botensial i wella’r cynhaeaf a’r ansawdd drwy wella tir glas. Mae ymchwil wedi dangos bod cynyddu’r

porfa 1
carbohydrad sy’n toddi mewn dŵr (WSC) sydd i’w gael mewn porthiant ffres wedi arwain at y ffynhonnell egni mwyaf hwylus i anifeiliaid sy’n pori ac mae’r rhaglen fridio rhygwellt lluosflwydd (PRG) yn IBERS wedi creu mathau o rygwellt sy’n cynnwys mwy o WSC, megis AberMagic, a dangoswyd bod y rhain yn lleihau allyriadau methan yn uniongyrchol. Er enghraifft, dangoswyd bod cynydd o 33g/kg yn y WSC mewn rhygwellt lluosflwydd yn arwain at ostyngiad o 9% yn y methan a gynhyrchir mewn arbrofion yn y labordy, ac mewn treialon maes gyda PRG ac ynddo 20.5g WSC/kg DM dangoswyd bod ŵyn yn cynhyrchu 25% yn llai o fethan na’r ŵyn ar laswelltau rheoli.

Gall rheolaeth porfeydd effeithio ar y methan a gynhyrchir hefyd ac awgrymwyd y gallai dull mwy dwys o gynhyrchu da byw leihau allyriadau methan. Er enghraifft, dangoswyd mai dull pori sy’n ddwys o ran y gwaith rheoli yw’r arfer rheoli gorau sydd â’r potensial i fod yn fwy effeithlon wrth ddefnyddio cnydau porthiant, gan arwain at ostyngiad o 22% yn yr allyriadau methan o’i gymharu â systemau pori parhaus. Er hynny, i gyd-fynd â chyfradd stocio uwch rhaid cael cynnydd yn y cyflenwad bwyd ac mae yna faterion pwysig eraill i’w hystyried hefyd, fel y cydbwysedd ag effeithiau amgylcheddol eraill. Er enghraifft, wrth i systemau anifeiliaid sy’n cnoi cil fynd yn fwy dwys, mae’r effaith ar yr amgylchedd yn symud o gynhyrchu methan i gynhyrchu ocsid nitraidd (N2O) ac mae lles anifeiliaid yn dod yn bryder arall, yn enwedig felly o ran systemau dan do. O ran rheoli porfeydd, mae’r ymchwil flaenorol yn dangos bod caniatáu i’r borfa gyrraedd gwerthoedd uwch o safbwynt treulio wedi arwain mewn gwirionedd at gynnydd yn yr allyriadau methan dyddiol. Er hynny, oherwydd y cynnydd yn y porthiant sy’n cael ei fwyta mae’r enillion a geir wedyn yn y perfformiad  o ran allyriadau am bob kg yn lleihau wrth i’r anifeiliaid gyrraedd eu pwysau targed yn gynt. Mae’n bwysig ystyried perfformiad oes anifeiliaid sy’n pori wrth i gynnydd yn eu twf a’u perfformiad ganiatáu i’r da byw gael eu pesgi’n gynt ac yn fwy effeithlon, gan leihau’r ôl troed amgylcheddol.

Crynodeb

Mae’n amlwg bod sawl ffordd i leihau faint o fethan enterig sy’n cael ei gynhyrchu ac mae’r uchod yn disgrifio rhai mesurau a allai gael eu defnyddio ynglŷn ag anifeiliaid sy’n pori. Er hynny, mae agen gofal er mwyn sicrhau, pa strategaethau bynnag a ddefnyddir ar y fferm, na cheir effaith andwyol ar berfformiad a lles yr anifeiliaid ac na fydd yna newid yn yr effaith ar yr hinsawdd. Mae gan raglenni bridio porthiant sy’n gwella ansawdd y bwyd ac arferion rheoli porfeydd y potensial nid yn unig i leddfu allyriadau methan ond hefyd i wella perfformiad cyffredinol yr anifeiliaid. Drwy ddefnyddio strategaethau o’r fath, bydd y ddarpariaeth tuag at ymrwymiad y Deyrnas Unedig o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y dyfodol yn nod a all gael ei wireddu. O safbwynt economaidd, bydd canolbwyntio ar arferion rheoli’r fferm i ddechrau yn bwysig gan y bydd newidiadau sy’n cael eu gwneud yma yn creu effaith yn gynt a honno’n effaith a fydd yn parhau.

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth