Mae cadw moch yn ffordd wych o helpu rheolaeth tir mewn modd naturiol a chynaliadwy, fel rhan o raglen ehangach neu glirio ardal fechan sydd wedi’i orchuddio gyda chwyn ac isdyfiant.

Fel hollysydd, mae gan foch allu arbennig i dwrio. Mae eu gallu naturiol i drin y pridd yn eu galluogi i glirio tir yn sydyn, yn ogystal â darparu gwrtaith naturiol ar ffurf tail, gan adael y tir yn barod i’w ail-hadu.Gall moch glirio mwyafrif helaeth y llystyfiant ar y tir gan gynnwys rhedyn, marchwellt a mieri. Maent yn lleihai’r angen i reoli chwyn a chreu gwely hadau ar gyfer adfywio naturiol.

Mae effeithiau erydiad pridd a photsio ar y tir yn ystyriaethau allweddol wrth defnyddio moch. Gall safleoedd agored neu ar lethr serth neu safleoedd â thir trwm (e.e. clai) neu lefelau uchel o law waethygu problemau erydiad pridd. Gall priddoedd calchog a thywodlyd mewn mannau agored hefyd ddioddef wrth i wreiddiau dail gael eu clirio’n sydyn gan adael y priddoedd uchaf yn agored i erydiad. Mae rheolaeth yn hanfodol i gadw o fewn ffiniau rheolau trawsgydymffurfiaeth o dan y Cynllun Taliadau Sylfaenol.

Yn ddelfrydol, dylid cadw’r gyfradd stocio yn isel a dylid gorffwyso padogau’n rheolaidd. Mae’r gyfradd stocio yn ddibynnol ar nodweddion y tir, ond fe argymhellir mai hyd at 28 tyfwr neu ddwy hwch fagu a’u moch bach ddylid eu cadw ar bob hectar.

Meddai Christine Coe, Cadeirydd Pwyllgor Porc Pedigri, Sefydliad Moch Prydeinig “Cyn belled â bod ganddynt ddigon o borthiant, dŵr glân a chysgod digonol, mae moch yn cynnig dull cynaliadwy o helpu i reoli hyd yn oed y tir mwyaf garw”.

Yn ogystal â’r agweddau hollbwysig ynglŷn â lle i gadw eich moch ar gyfer y pwrpas bwriadol, mae cynllun i ddiogelu eu iechyd a’u lles yr un mor bwysig.

Mae’n rhaid paratoi a chynnal ymdrochfeydd o fis Mai ymlaen. Ni ddylai moch or-boethi yn yr haf, gan y gall hyd yn oed dymheredd arferol Cymru yn yr haf gael effaith difrifol ar iechyd a ffrwythlondeb yn y tymor hir. Dylai cysgod ar ffurf twlc gael eu lleoli gydag agoriad yn wynebu’r prifwynt yn yr haf a’u troi 180 gradd ar gyfer y gaeaf.

Mae ffiniau yn anghenrheidiol ar gyfer diogelwch y stoc yn ogystal â bioddiogelwch. Mae man llwytho a dadlwytho pwrpasol yn ddefnyddiol, a dylid gweithredu mesurau caeth ar gyfer cyfyngu mynediad. Sicrhewch bod gan y moch fynediad llawn i ddŵr yfed yn ystod misoedd yr haf a’r gaeaf.

Meddai Bob Stevenson MRCVS, milfeddyg ac aelod o Gyngor Cenedlaethol Iechyd a Lles Moch “Wedi i chi ddod o hyd i foch o genfaint iach o’r brîd a’r math sydd fwyaf addas i chi, mae angen rhoi rhai mesurau iechyd mwy cadarnhaol ar waith”.

Argymhellir y dylid paratoi cynllun iechyd gyda chyngor milfeddygol. Dyma rai materion iechyd y dylid eu dilyn.   

MAGU (Hesbinychod/Hychod a Baeddod)TYFU (Moch wedi’u diddyfnu hyd at eu pesgi)
Dilynwch raglen frechu ErysipelasBydd rheoli llyngyr Ascarid yn helpu i osgoi arafu yn y gyfradd twf a chondemnio’r afu
Rheolwch lyngyr sy’n effeithio ar iechyd yr hwch a’r dorllwyth (yn y porthiant neu drwy frechiad)Ystyriwch frechiadau eraill yn ôl yr angen yn unol ag argymhellion eich milfeddyg
Rheoli ectoparasitiaid (clafr a llau)Gellir profi moch wedi’u pesgi am Trichinella yn y lladd-dy


Mwy o fanylion ar sut i mae adnabod ac atal afiechydon ar ein daflen wybodaeth Atal Afiechydon mewn Moch

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr