3 Ebrill 2023
Dr Saba Amir, IBERS, Prifysgol Aberystwyth.
- Ystyrir bod sefydlu coed mewn meysydd ieir fel rhan o system coed-ddofednod yn gwella lles dofednod, yn darparu buddion amgylcheddol ehangach ac yn cynyddu bioamrywiaeth leol.
- Oherwydd nad yw ffermwyr wedi mabwysiadu'r system hon tan yn eithaf diweddar, mae angen mwy o ymchwil i rai o'r heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu fel cynnal llystyfiant a gwndwn cynhyrchiol o dan goed.
- Mae'r amrywioldeb ym manteision economaidd a rhwystrau'r system hon i ffermwyr yn awgrymu y bydd cynnydd yn y nifer o bobl sy’n mabwysiadu system coed-ddofednod yn fwyaf tebygol o ddigwydd gyda mentrau a chymhellion penodol.
Rhagymadrodd
Mae amaeth-goedwigaeth neu integreiddio coed â chnydau neu dda byw wedi cael ei gydnabod fel strategaeth gynaliadwy i hybu cynhyrchiant y tir tra'n darparu ystod o fanteision i'r ecosystem a'r amgylchedd o'i gymharu â systemau amaethyddol a choetiroedd yn unig. Ar y llaw arall mae dwysáu da byw yn gynaliadwy sy'n awgrymu cydbwyso cynhyrchiant yr anifail â diogelu'r amgylchedd. Mae coed-ddofednod yn systemau lle mae coed yn cael eu hymgorffori ym meysydd yr ieir. Mae'r defnydd amlswyddogaethol hwn o dir o fudd i'r adar gan y dangoswyd ei fod yn lleihau straen ynghyd â’r manteision amgylcheddol cysylltiedig o goed. Oherwydd hyn mae diddordeb cynyddol mewn integreiddio coed i systemau maes.
Mae defnyddwyr heddiw yn disgwyl bod yn rhaid i gynhyrchion da byw:
- fodloni safonau uchel o ran lles anifeiliaid
- bod yn ddiogel ac yn faethlon
- parchu'r amgylchedd naturiol
Mae systemau Coed-ddofednod yn cynnig ffordd o fodloni disgwyliadau defnyddwyr i gynhyrchwyr. Yn gyfnewid am hyn, mae cynhyrchwyr yn elwa o bris premiwm posibl wyau o ffermydd sydd ag o leiaf 20% o orchudd coetir.
Buddion i Ddofednod
Lles anifeiliaid
Mae'r ceiliogod coedwig coch, hynafiaid yr iâr ddomestig yn frodorol i goedwigoedd sych De-ddwyrain Asia ac mae'n aderyn crwydrol sy’n chwilota. Mae systemau organig a systemau buarth yn ffafriol i fynegiant o ymddygiad naturiol sy'n gysylltiedig â llinach yr iâr. Yn y systemau hyn, yn ogystal â chael mynediad i sied ieir, mae gan yr adar fynediad i libart awyr agored sy'n darparu gofod mwy o faint, nifer ac amrywiaeth uwch o ysgogiadau a'r cyfle i symud rhwng lleoliadau â gwahanol swbstradau a dwyster golau. Fodd bynnag, mae astudiaethau o ffermydd maes nodweddiadol wedi dangos mai dim ond 10% o'r ieir sy'n gwneud defnydd llawn o'u maes gyda 70% yn aros o fewn 17m i'r sied ieir. Gellir priodoli hyn i ofn ysglyfaethwyr a diffyg cysgod rhag eithafion tywydd. Mae plannu coed mewn ffordd sydd wedi'i dylunio'n dda yn annog gwell defnydd o'r maes trwy ddarparu gorchudd, lloches a chysgod.
Mewn heidiau maes masnachol, mae perthynas hysbys rhwng gorchudd coed, defnydd o’r maes, a phlycio plu niweidiol, (ymddygiad sy'n cynnwys tynnu, plycio a niweidio plu adar eraill). Po uchaf yw canran yr haid sy'n defnyddio'r maes awyr agored, yr isaf yw nifer yr achosion o blycio plu niweidiol. Yn ogystal, mae defnyddio maes mwy o faint yn lleihau dwysedd yr ysgarthion, ac o ganlyniad i hynny, yn lleihau'r llwyth parasitiaid a'r risg o haint.
Ffigur: Ymdrochi mewn llwch, ymddygiad naturiol mewn adar
Atal cludwyr ffliw adar
Gall ieir sy'n crwydro y tu allan ddod i gysylltiad ag adar gwyllt a'u hysgarthion. Gall y feirws ffliw adar (AI) ledaenu i'r ieir os yw'r adar gwyllt hyn yn dioddef ganddo ef. Er y credir bod adar ysglyfaethus yn peri risg isel o drosglwyddo'r firws AI i ddofednod, mae adar dŵr mudol yn cael eu hystyried fel y cludwyr mwyaf tebygol. Fodd bynnag, nid yw'n sicr a yw'r adar hyn yn trosglwyddo'r firws yn uniongyrchol i ddofednod neu a yw gwesteiwyr canolradd, fel colomennod neu lygod mawr hefyd yn chwarae rhan. Datgelodd astudiaeth a ymchwiliodd i bresenoldeb risg AI mewn adar mewn ac o amgylch ardaloedd maes dofednod mewn perthynas â llystyfiant maes a natur agored y dirwedd amgylchynol fod mwy o adar risg uchel wedi cael eu harsylwi mewn ardaloedd maes gyda llai na 5% o orchudd coediog, o’u cymharu ag ardaloedd buarth â mwy o orchudd coediog. Ar ben hynny, mewn tirweddau agored, gwelwyd mwy o adar risg uchel yng nghyffiniau ardaloedd maes nag mewn tirweddau hanner agored. Ni chanfuwyd unrhyw berthynas rhwng adar risg isel a gorchudd coediog na natur agored y dirwedd.
Budd i'r Cynhyrchydd
Ansawdd Wyau
Ar gyfer cynhyrchwyr wyau, mae wyau eilradd a marwolaethau yn ddwy nodwedd gynhyrchu bwysig. Mae wyau eilradd yn wyau gyda phlisgyn gwan ac maent yn gost sylweddol i'r ffermwr. Yn y DU, mae wyau eilradd yn werth 30% o wyau Gradd A. Mae sawl ffactor fel oedran, maeth, straen ac iechyd yr iâr yn ogystal â thymheredd, hyd dydd a math golau yn effeithio ar ansawdd plisg. Mae marwolaethau yn amlwg yn golygu cost economaidd sylweddol i ffermwyr gan fod adar sy'n marw yn ystod dodwy eisoes wedi bwyta llawer iawn o borthiant ac adnoddau eraill ac mae llai o adar yn awgrymu y bydd llai o wyau.
Ffigur: Wyau Gradd A (chwith) yn erbyn wyau eilradd (dde)
Datgelodd dadansoddiad o ddata o 33 haid maes gyda gorchudd coed a 33 heb orchudd coed, fod llai o wyau eilradd mewn heidiau â gorchudd coed ac yn sylweddol llai o wyau eilradd ar ôl 45 wythnos y cylch cynhyrchu. Roedd marwolaethau adar hefyd yn is mewn heidiau â gorchudd coed. Gall hyn fod oherwydd y ffaith bod adar ar feysydd sydd â gorchudd coed yn profi llai o straen na'r rhai heb orchudd coed ac mae straen yn ffactor arwyddocaol sy'n dylanwadu ar ansawdd plisgyn wyau. Mae gorchudd coed hefyd yn amddiffyn rhag gwres.
Manteision i'r Amgylchedd
Yn 2016, roedd amaethyddiaeth yn cyfrif am 88% o holl allyriadau amonia'r DU, a'r cyfrannwr mwyaf oedd da byw. Cynhyrchir amonia o wrea wedi'i ysgarthu neu asid wrig. Mae tail dofednod yn cynnwys y cyfanswm N uchaf o'r holl rywogaethau da byw a gall o bosibl drosi i amonia. Mae dod i gysylltiad tymor hir â chrynodiadau uchel o amonia yn niweidiol i iechyd da byw a gweithwyr amaethyddol. Mae'n berygl anadlol a allai arwain at niwmonia a sbarduno llid y croen a'r llygad. Pan gaiff ei ryddhau i'r atmosffer mae'n hydoddi mewn dŵr glaw ac yn cael ei ddyddodi ar dir ac mewn cyrff dŵr. Gall dŵr ffo wyneb o ffermydd dofednod halogi dŵr daear ac arwain at ddyddodi amoniwm a ffosfforws mewn cyrff dŵr lle mae'n achosi ewtroffigedd. Mae'n bosibl dal allyriadau a gronynnau amonia trwy blannu lleiniau coed dan y gwynt o ffynonellau allyriadau. Gall coed amsugno amonia a helpu i sgrinio ffynonellau allyriadau a gwarchod cynefinoedd sensitif fel coetir, afonydd, gwlyptiroedd, neu ardaloedd o laswelltir sy'n llawn rhywogaethau.
Ffigur: Ewtroffigedd corff dŵr oherwydd cyfoethogi dŵr gyda N a P mewn dŵr ffo wyneb
Defnyddiwyd sawl lled llain coed - po fwyaf eang yw'r llain, y mwyaf yw'r cipiad posibl. Dangoswyd bod lleiniau coed mor gul â 10m yn lleihau amonia mewn allyriadau gyda thua 53% a llwch gyda 56%. Fodd bynnag, mae lleiniau o 15-20m yn darparu rhwystr mwy effeithiol, gyda haenau o lwyni a choed talach. Mae astudiaethau ar gyfer lleiniau ehangach yn awgrymu canran dal amonia o 67%.
Mae coed yn amddiffyn cyrff dŵr o amgylch ffermydd dofednod trwy leihau'r dŵr glaw ffo sy'n cynnwys maetholion ac organebau ysgarthol o'r ffermydd. Oherwydd bod gwreiddiau'n amsugno dŵr a maetholion, mae ymdreiddiad dŵr mewn lleiniau coed lawer gwaith yn fwy na'r tir o'u hamgylch ac felly'n cyfoethogi'r microbïomau pridd o amgylch gwreiddiau. Mae plannu coed mewn meysydd a phlannu ychwanegol mewn ardaloedd eraill ar y fferm yn ffynhonnell fwyd, rheolaeth ddŵr ac atafaelu carbon.
Gwella Bioamrywiaeth
Mewn sawl rhan o'r byd, gan gynnwys y DU, mae arferion ffermio dwys yn cael effeithiau negyddol ar fioamrywiaeth leol. Un o ganlyniadau rhyfeddol amaeth-goedwigaeth yw'r cynnydd mewn bioamrywiaeth o'i gymharu â ffermio yn unig. Mae presenoldeb llwyni a choed yn cynyddu'r gorchudd ar gyfer adar gwyllt a mamaliaid yn fawr. Mae'r ystod ehangach o blanhigion yn cynyddu nifer y pryfed mwy o faint ac mae'r pridd mwy cymhleth yn cynyddu niferoedd pryfed pridd ac infertebratau. Mae cyfres o arolygon bywyd gwyllt blynyddol a gynhaliwyd ar 9 uned wyau coetir yn Cumbria o 2016-2019 gan Coed Cadw yn datgelu bod “Coed ar feysydd ieir yn hafanau i fywyd gwyllt”. Nododd yr arolwg fod y ganwraidd goesgoch (Persicaria maculosa) a chamri (Anthemis arvensis), nodweddion cyffredin o lawer o'r ardaloedd heb eu torri ar y meysydd, yn ddeniadol i löynnod byw ac infertebratau eraill. Yn yr arolygon adar, cofnodwyd 59 rhywogaeth o adar ar y meysydd hyn, ac mae 12 ohonynt ar hyn o bryd wedi'u cynnwys yn y Rhestr Goch o Adar o Bryder Cadwraethol gan gynnwys y fronfraith, golfan y mynydd a'r llinos ac 11 arall ar y Rhestr Oren fel corhedydd y waun a choch y berllan. Cofnodwyd 14 rhywogaeth o löynnod byw, a'r mwyafrif yn rhywogaethau cyffredin, ond yr eithriadau oedd y fantell garpiog, Polygonia c-album, sydd fel arfer yn bridio ac yn gaeafgysgu mewn coetir agored ac ymylon coed a'r gwibiwr bach, Thymelicus sylvestris, y mae eu niferoedd wedi bod yn cynyddu ar ôl degawdau o ddirywiad. Cofnodwyd cant a dau o rywogaethau o wyfynod ac roedd eu niferoedd ar eu huchaf yn y meysydd sefydledig o'u cymharu â'r meysydd canolradd a newydd (oedran yr ystod). Arsylwodd yr arolygon gydberthynas rhwng oed y coed a niferoedd y gwyfynod. Cofnodwyd ystlumod ar bob un o'r 9 safle bob blwyddyn. Roedd y rhesi di-dor o goed yn fanteisiol i ystlumod gan eu bod yn denu infertebratau i’r ystlumod eu bwyta. At ei gilydd, mae'r cyfuniad o goed wedi'u plannu a llystyfiant strwythurol amrywiol ar orchudd y ddaear yn creu ardaloedd o gynefin o fath ymyl coetir yn y meysydd ieir maes ac mae o fudd i adar, ystlumod a'u hysglyfaeth.
Ffigur: Rhai rhywogaethau o bryfed, adar ac ystlumod a welwyd yn ystod yr arolygon yn Cumbria rhwng 2016-2019. O 12 o'r gloch, y gwibiwr bach, y fronfraith, yr ystlum lleiaf soprano, golfan y mynydd, gwyfyn emrallt a’r fantell garpiog
Heriau a rhwystrau i ffermwyr
Er gwaethaf manteision niferus systemau coed-ddofednod, mae rhai heriau rheoli y mae ffermwyr yn eu hwynebu wrth integreiddio coed i'r maes. Nododd gweithdy ffermwyr gyda Grŵp Datblygu Ieir Coetir Sainsbury's, a hwyluswyd gan y Ganolfan Ymchwil Organig a Choed Cadw fel rhan o’r prosiect AGFORWARD, fod methiant i gynnal gwndwn hyfyw o dan goed yn fater hollbwysig gyda systemau coed-ddofednod. Mae coed yn cystadlu â'r gwndwn am olau a dŵr gyda'r pwysau ychwanegol gan ieir yn sathru a phori agos. At hynny, mae canopïau agored oherwydd teneuo coed yn ffafrio twf chwyn annymunol yn hytrach na glaswelltau ac mae cynnal llystyfiant mewn ardaloedd agored y mae gan ieir fynediad iddynt yn ofyniad yn ôl
Ffigur: yr her o gynnal gwndwn hyfyw o dan goed
deddfwriaeth y DU/UE. Awgrymwyd y byddai cymysgedd gwndwn sy'n gallu sefydlu'n gyflym, gwrthsefyll lefelau golau isel a chystadleuaeth am ddŵr sy'n gysylltiedig â choed ac effaith ieir yn gweithio'n dda. Gwerthusodd canlyniadau treial a gynhaliwyd mewn uned ieir dodwy fasnachol yn ne Lloegr 3 chymysgedd gwndwn ac adroddwyd bod pob un o'r 3 cymysgedd gwndwn (1. cymysgedd hadau glaswelltau a chodlysiau sydd ar gael yn fasnachol, 2. cymysgedd hadau glaswelltau yn unig a 3. cymysgedd hadau glaswelltau, codlysiau a pherlysiau porthiant) wedi sefydlu'n dda o dan goed ac wedi helpu i atal chwyn annymunol. Fodd bynnag, dim ond y bloc coed, ac felly y gwndwn, wedi’u leoli 25 m i ffwrdd o’r sied ieir oedd yn gallu gwrthsefyll pwysau ieir oherwydd ymddygiad amrywiol anwastad yr ieir. Mae'n ymddangos mai eithrio ieir i ddechrau er mwyn cynorthwyo sefydlu ac yna optimeiddio pwysau ieir sy’n hollbwysig i gynnal gwndwn. Gall hyn fod yn addas ar gyfer systemau cynhyrchu organig lle mae gofyniad i orffwys y tir am 9 mis rhwng poblogaethau ieir gan ganiatáu ar gyfer sefydlu gwndwn.
Oherwydd eu cymhlethdod, rhaid cynllunio a rheoli'r holl systemau amaeth-goedwigaeth yn gywir er mwyn sicrhau'r buddion mwyaf posibl. Er enghraifft, rhaid i goed fod wedi’u lleoli’n lletach na'r gofod creu coetir safonol o 2 x 2 m2 er mwyn caniatáu digon o olau haul i'r tyfiant ar y llawr. Mae anfanteision eraill megis costau llafur cynyddol, cymhlethdod y gwaith a gwariant rheoli, yn cael eu hystyried fel rhwystrau gan ffermwyr i'r cynllun cynhyrchu hwn.
Crynodeb
Heb os, mae nifer o fanteision o blannu coed ar feysydd ieir fel rhan o system coed-ddofednod gan gynnwys gwell lles ieir, rheoli clefydau, arallgyfeirio ffynonellau porthiant, amsugno llygryddion o weithgareddau ffermio gan goed a mwy o fioamrywiaeth. Fodd bynnag, un broblem gyda'r systemau hyn yw'r anhawster i gynnal llystyfiant ar y llawr sy'n ofynnol ar gyfer cynhyrchion organig a chynnyrch maes yn unol â rheoliadau'r UE/DU. Yn ogystal, mae yna faterion rheoli ac economaidd-gymdeithasol, sef y rhwystrau mwyaf ar lefel ffermwr. Oherwydd yr amrywioldeb ym manteision economaidd a heriau'r system hon i ffermwyr, mae'n debygol o gael ei fabwysiadu'n ehangach gyda mentrau a chymhellion wedi'u targedu ar gyfer y math hwn o system.
Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk