7 Chwefror 2023
Saba Amir, IBERS, Prifysgol Aberystwyth.
- Ers i ddeunyddiau hybu twf gwrthfiotig mewn porthiant gael eu gwahardd, bu’r sector maeth anifeiliaid yn canolbwyntio ar iechyd y perfedd er mwyn gwella perfformiad a lleihau baich clefydau enterig
- Gwelwyd bod nifer o wahanol ychwanegion bwyd, rhagfiotigau, profiotigau a synfiotigau, ensymau, asidau organig a ffytofiotigau yn gwella paramedrau iechyd y perfedd ac maent ar gael yn fasnachol ond ni ellir ystyried bod yr un ohonynt yn “ateb perffaith” i ymdrin ag iechyd y perfedd
- Mae gofyn cael dull cyfannol o ymdrin ag iechyd y perfedd gan gynnwys bioddiogelwch, lles anifeiliaid a bwyd a dŵr o ansawdd da
- Mae’n bosibl nad yw gwelliant ym mharamedrau iechyd y perfedd drwy ychwanegion bwyd bob amser yn trosi yn welliant mewn perfformiad ond profwyd eu bod yn gwella effeithiau pathogenau neu straen amgylcheddol os daw’r anifail i gysylltiad â hynny
Cyflwyniad
Cyn 2006 câi gwrthfiotigau eu defnyddio fel deunyddiau hybu twf mewn bwyd fel rhan o ddietau moch a dofednod i gynnal iechyd ac effeithlonrwydd. Fodd bynnag, oherwydd y bygythiad cynyddol o facteria a fydd yn gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau, daeth gwaharddiad ar draws yr Undeb Ewropeaidd ar ddefnyddio deunyddiau hybu twf gwrthfiotig (AGP) i rym ym mis Ionawr 2006. Er hynny, mae llawer iawn o ymchwil wedi canolbwyntio ar ddatblygu dewisiadau eraill yn lle gwrthfiotigau mewn bwyd. Roedd y dystiolaeth, a oedd yn awgrymu bod effaith hybu twf gwrthfiotigau yn digwydd drwy gyfrwng microbiom y perfedd, i’w chael mewn llenyddiaeth wyddonol er y 1960au, pan ddangosodd grŵp o ymchwilwyr nad oedd y gwrthfiotigau yn cael dim effeithiau hybu twf mewn cywion ieir iach (cywion ieir a oedd â pherfedd di-haint). Felly, fe wnaeth yr ymchwil am ddewisiadau amgen yn lle gwrthfiotigau mewn bwyd fraenaru’r ffordd at ddatblygu gwybodaeth am bwysigrwydd iechyd y perfedd yn iechyd cyffredinol yr anifail ac effeithlonrwydd ei gynhyrchiant.
Beth yw Iechyd y Perfedd?
Er bod y term ‘iechyd y perfedd’ yn cael ei ddefnyddio droeon mewn cyhoeddiadau am iechyd a maeth anifeiliaid er y 1990au, nid oes diffiniad penodol i’w gael o’r derminoleg hon. Mewn iechyd pobl, mae iechyd y perfedd yn aml yn mynd law yn llaw ag absenoldeb clefydau clinigol, ond ni ellir priodoli hyn i anifeiliaid fferm oherwydd fe all perfformiad anifeiliaid gael ei niweidio heb ddim arwyddion clinigol o glefyd. Un consensws cyffredinol ymysg gwyddonwyr anifeiliaid yw bod iechyd y perfedd yn cynnwys y diet, mwcosa’r perfedd a’r micro-fflora cydfodol. Mae’r mwcosa yn ei dro yn cynnwys yr epitheliwm treulio, y mwcws sy’n gorchuddio’r epitheliwm a’r Meinwe Lymffaidd sy’n Gysylltiedig â’r Perfedd (GALT). Ceir cydbwysedd cymhleth a dynamig rhwng y GALT, y microbiota, y bilen ludiog a’r epitheliwm lletyol sy’n sicrhau bod y system draul yn gweithio’n effeithiol. Mae’r traws siarad rhwng yr holl gydrannau cysylltiedig hyn yn chwarae rhan holl bwysig yn ffisioleg y llwybr gastroberfeddol, yn iechyd, lles a pherfformiad anifeiliaid.
Cynigiwyd nifer o strategaethau maeth fel ffordd o reoli iechyd y perfedd. Mae defnyddio ychwanegion bwyd yn effeithiol i reoli iechyd y perfedd yn ddibynnol ar ryw lefel o ddealltwriaeth o’u peirianwaith gweithredu. Mae gwrthfiotigau sy’n hybu twf yn gweithio’n rhannol drwy leihau’r llwyth microbaidd yn y perfedd sy’n golygu bod angen llai o egni a maethynnau i gynnal a maethu meinweoedd y perfedd. Mae hyn yn golygu bod mwy o faethynnau’n mynd ar gyfer tyfu a chynhyrchu. Ar y llaw arall, nid yw’r rhan fwyaf o’r ychwanegion bwyd naturiol yn lleihau llwythi microbaidd. Yn hytrach, maent yn newid proffil microfflora’r perfedd drwy gyfyngu ar faint o facteria anffafriol sy’n cytrefu a hybu gweithgaredd a thwf rhywogaethau mwy ffafriol. Defnyddiant hefyd nifer o beirianweithiau eraill i gael effaith, megis addasu pH y perfedd, cynnal yr haen ludiog amddiffynnol sy’n leinio epitheliwm y perfedd, helpu i eplesu ffibr, gwella amsugniad maeth a gwella ymateb y system imiwnedd i bathogenau.
Ensymau sy’n Diraddio Ffibr
Mae dogn bwyd anifeiliaid fferm unstumogaidd yn cynnwys hyd at 60% o rawnfwydydd sy’n gyfoethog mewn polysacaridau cymhleth neu bolysacaridau nad ydynt yn starts (NSP), sef heterosylanau a β-glucans. Mae moch a dofednod yn cynhyrchu’r ensymau sydd eu hangen i dreulio’r molecylau hyn. Mae polysacaridau nad ydynt yn starts yn cael effeithiau gwrth-faethol yn y perfedd drwy gynyddu gludedd bwyd a dreulir a’i gwneud yn anos i dreulio’r maeth. Gwelwyd bod defnyddio ensymau NSP yn enwedig mewn dietau sy’n cynnwys haidd, rhyg a gwenith yn lleihau’r gludedd ac yn ei gwneud yn haws i’r maeth gael ei dreulio gan wella perfformiad. Yn ail, mae ensymau NSP yn rhyddhau’r starts a’r protein yng ngronynnau’r grawn i’w dreulio gan ensymau treulio lletyol drwy dorri wal y gell sy’n amgáu amdanynt. Mae ensymau NSP yn dadelfennu polysacaridau cymhleth mawr yn folecylau llai a ddefnyddir gan y microbiota coluddol i gynhyrchu asidau brasterog cadwyn fer (SCFA). Caiff Asidau Brasterog Cadwyn Fer eu hamsugno gan yr epitheliwm ac yn eu tro, cânt nifer o effeithiau llesol ar y lletywr megis ffynhonnell egni ar gyfer celloedd epithelaidd perfeddol, atal pathogenau, dylanwadu ar atgynhyrchiant leinin y perfedd a datblygiad y system imiwnedd. Oherwydd yr effaith hon, maent yn gallu addasu microbiota coluddol ac ysgogi twf ffibr sy’n dirywio bacteria gan wella gwerth maethol y bwyd. Gwelwyd eu bod hefyd yn gallu lleihau'r bacteria pathogenig a rhai bacteria cydfodol anffafriol yn aruthrol a chynyddu nifer y bacteria asid lactig llesol. Ymysg effeithiau llesol ychwanegol ensymau NSP yr adroddwyd amdanynt mewn ieir bwyta yw cynnydd yn yr hormon treulio a gaiff ei secretu ac mae’n gwella’n sylweddol berfformiad adar sy'n cael eu herio â haint cocsidiosis.
Caiff ensymau NSP eu defnyddio yn niet moch a dofednod bron ym mhob rhan o Ewrop yn awr ac yn y mwyafrif helaeth o’r dietau hyn sydd ar gael yn fasnachol, caiff yr ensymau hyn eu hychwanegu pan gaiff y bwyd ei gynhyrchu. Mae coctel o gynhyrchion ensymau hefyd ar gael yn y farchnad sy’n honni gwella perfformiad ymhellach. Gellir gwneud y penderfyniad ar ddefnyddio cynhyrchion o’r fath ar ôl gwneud dadansoddiad cost yn erbyn budd gyda’r maethegwyr neu ddarparwr y bwyd.
Ffig 1. Eplesiad ffibr a’i brif lwybrau defnydd (Jha et al., 2019). Caiff ffibr ei ddadelfennu i gynhyrchu asidau brasterog cadwyn fer a ddefnyddir gan y cyhyrau neu gelloedd epithelaidd y perfedd fel ffynhonnell egni neu gan yr iau i gynhyrchu glycogen.
Profiotigau
Mae Profiotigau, y cyfeirir atynt hefyd fel microbiaid a fwydir yn uniongyrchol (DFMs), yn cael eu cydnabod fwyfwy fel dewisiadau posibl yn lle gwrthfiotigau i wella effeithlonrwydd cynhyrchu. Cânt eu diffinio yma fel ychwanegion bwyd microbaidd byw sy’n cael effaith lesol ar yr anifail lletyol drwy wella cydbwysedd microbaidd y perfedd. Mae diffiniad arall a dderbynnir gan FAO/WHO (2001) yn datgan bod Profiotigau yn feithriniad cymysg o organebau byw sydd, o roi digon ohonynt, yn rhoi mantais iechyd i’r lletywr. Caiff Profiotigau, sy’n cynnwys straeniau sengl neu amryfal o ficro-organebau, ar eu pen eu hunain neu gydag ychwanegion eraill, fel arfer eu rhoi mewn bwyd neu ddŵr ond yn ddiweddar mae technegau newydd fel eu chwistrellu ar gywion neu ar wyau sydd ag embryo yn datblygu ynddynt neu eu chwistrellu i mewn i wyau sydd ag embryo yn datblygu ynddynt (gweinyddu yn yr wy) yn cael eu harchwilio.
Mae’r adroddiadau cyntaf am ddefnyddio profiotigau yn dyddio’n ôl mor bell ag 1973 pan wnaeth grŵp o wyddonwyr frechu cywion 1 diwrnod oed â microbiota ysgarthol o iâr llawn dwf er mwyn rheoli halogiad Salmonella. Ers hynny, gwnaed nifer o astudiaethau ac mae profiotigau yn dal i gael eu datblygu. Mae sawl math o brofiotigau ar gael ar y farchnad, gydag amrywiol facteria, gan gynnwys rhywogaethau Bacilws, Bifidobacteriwm, Enterococws, Lactobasilws, Lactococws, Streptococws, Pediococws a rhywogaethau’r burum bara Sacaromysis. Fe allai profiotigau gynnwys micro-organebau sy’n trigo’n arferol yn y llwybr gastroberfeddol neu a geir o ffynonellau naturiol.
Mae gan brofiotigau rai anfanteision o’u cymharu â chyfryngau eraill a ddefnyddir i addasu microbiota’r perfedd. Fe allai rhai micro-organebau profiotig gael eu lleihau neu’u dileu gan y lefelau pH isel yn y lasog neu’r stumog, ac felly ychydig o effaith a gânt yn llwybr isaf y perfedd lle mae pathogenau’n achosi problemau. Os ychwanegir profiotig i’r dŵr yfed, fe allai’r glanweithydd clorin gael effaith niweidiol ar ei allu i oroesi. Byddai asideiddio yn ffordd well o ddiheintio na defnyddio clorin wrth roi profiotig yn y dŵr yfed. Mae cynnyrch profiotig ar ffurf amgaeedig neu ffurfiau amddiffynedig eraill, yn well er mwyn cyflwyno’r organeb brofiotig i’r perfedd isaf.
Adroddodd rhai am fanteision defnyddio profiotigau mewn moch gan gynnwys gwelliant yn ansawdd y colostrwm, yn swmp a sylwedd y llaeth, torllwythi mwy a mwy bywiog, perchyll mwy o faint, llai o risg o sgwrio, y bwyd yn fwy effeithlon, yn treulio’n haws, cig o well ansawdd a lleddfu difrifoldeb sgwrio mewn perchyll ar ôl eu diddyfnu. Gydag ieir bwyta, gwelwyd bod profiotigau yn gwella’r Gymhareb Trosi Bwyd (FCR) dan straen gwres neu her pathogenau a llai o farwolaethau, ond mewn ieir dodwy, fe wnaeth profiotigau wella iechyd ysgerbydol, gwella trwch y plisgyn a lleihau nifer yr wyau nad oes modd eu gwerthu (nifer yr wyau sydd wedi cracio a’r wyau sydd heb blisgyn).
Rhagfiotigau
Er mwyn cael ei gyfrif fel cyfansoddyn rhagfiotig, rhaid i gynhwysyn dietegol:
- beidio â bod yn dreuliadwy nac yn amsugnadwy drwy’r llwybr gastroberfeddol
- cael ei fetaboleiddio gan un neu nifer gyfyngedig o facteria cydfodol
- bod yn gallu esgor ar fanteision iechyd i’r lletywr
Mae rhagfiotigau yn eu hanfod yn gwasanaethu fel bwyd ar gyfer y bacteria da yn y perfedd gan achosi iddynt gynyddu mewn nifer. Mantais fwyaf rhagfiotigau yw y gellir eu gwneud o wastraff amaethyddol sy’n anfwytadwy i bobl fel, coed caled, cobynnau corn, plisg haidd, grawn wedi’u disbyddu gan fragdai, plisg reis, plisg cnau coco a siwrwd siwgr cans siwgr drwy driniaethau gwres, cemegol neu ensymatig rhad. Maent yn fwy sefydlog yn wyneb gwres a phwysedd wrth brosesu bwyd ac yn wyneb yr asidedd a geir yn y lasog neu’r stumog. Carbohydradau ac oligosacaridau gyda ffurfiant molecylaidd gwahanol yw’r rhan fwyaf o’r rhagfiotigau a adnabyddir. Mae ffibrau dietegol yn rhagfiotigau posibl, ond yn fwyaf addawol y mae oligosacaridau annhreuliadwy (NDOs) megis ffrwcto-oligosacarid (FOS), galacto-oligosacarid (GOS), mano-oligosacarid (MOS) a sylo-oligosacarid (XOS). Caiff manan oligosacaridau (MOS) eu cyfrif fel rhagfiotigau ond nid ydynt yn dethol-gyfoethogi er mwyn poblogaethau bacterol llesol, ac nid ydynt yn deillio o blanhigion ychwaith fel rhagfiotigau eraill. O wal cell y burum bara Sacaromyses cerevisiae y dônt ac maent yn gallu rhwymo a dileu’n ffisegol bathogenau fel Salmonella ac E.coli o’r perfedd. Caiff rhagfiotigau eu heplesu’n uniongyrchol yn SCFAs gan facteria cydfodol neu maent yn ysgogi’r bacteria hyn i gynhyrchu mwy o’r ensymau sy’n diraddio ffibrau gan helpu i dreulio ffracsiwn ffibr bwyd yn SCFAs (disgrifiwyd effeithiau llesol SCFA yn yr adrannau uchod).
Caiff rhagfiotigau eu hychwanegu i ddietau moch ar amrediad o 5 – 40 g/kg tra bo’r ddogn yn nietau dofednod yn amrywio o 1 – 20 g/kg o fwyd. Mae’r canlyniadau o dreialon ymchwil gan ddefnyddio rhagfiotigau mewn moch a dofednod braidd yn anghyson, lle bo rhai astudiaethau heb weld dim gwelliannau sylweddol mewn cyfraddau pesgi nac yn effeithlonrwydd bwyd yr anifeiliaid y bwydwyd rhagfiotigau iddynt o’u cymharu â’r grŵp rheoli. Ond efallai mai’r hyn oedd i gyfrif am y gwahaniaethau hyn yn y canlyniadau oedd y gwahaniaethau yng nghyfansoddiad y diet sylfaenol, y ddogn, y cyfnod bwydo ac yn anad dim y ffaith y gallai’r anifeiliaid eisoes fod yn tyfu i’w potensial cynhyrchu gorau dan amodau ymchwilio rheoledig. Fodd bynnag cytuna'r mwyafrif helaeth o'r astudiaethau fod rhagfiotigau yn lleddfu effeithiau straen amgylcheddol megis gwres neu ddwysedd stocio uchel neu straen oherwydd pathogenau mewn moch a dofednod fel ei gilydd. Mae ymchwil hefyd wedi dangos bod cynnwys rhagfiotigau mewn dietau ar ôl geni neu ar ôl diddyfnu yn werthfawr iawn i’r anifeiliaid gan ei fod yn helpu bacteria llesol i gytrefu yn gynnar yn y perfedd ac mae hyn yn ei dro yn lleihau marwolaethau ac yn helpu â datblygiad y system imiwnedd. Yn olaf, gellir ystyried rhagfiotigau fel yswiriant rhad yn erbyn dysbacteriosis (anghydbwysedd ym microbiota’r perfedd) yn enwedig ar ffermydd isel eu heffeithlonrwydd lle mae gofyn gwneud buddsoddiadau ariannol mawr mewn seilwaith er mwyn iddynt weithredu ar eu gorau.
Ffig: Bacteria cydfodol wedi cytrefu mewn epitheliwm perfeddol
Synbiotigau
Gellir diffinio synbiotigau fel cymysgedd o ragfiotigau a phrofiotigau ar ffurf amgaeedig sy’n cael effaith lesol ar y lletywr drwy wella cyfraddau goroesi a mewnblannu’r profiotig yn y llwybr gastroberfeddol. Yn y bôn, maent yn ysgogi’r un effeithiau â rhagfiotigau a phrofiotigau. Dengys y canlyniadau o dreialon ar anifeiliaid effaith synergeddol cyplysu rhagfiotigau a phrofiotau, er enghraifft, gwell cyfraddau pesgi ac effeithlonrwydd bwyd a chlirio pathogenau’n well o’i gymharu â defnyddio rhagfiotigau a phrofiotigau ar eu pen eu hunain.
Asidau Organig
Cafodd asidau organig dietegol eu hystyried fel dewisiadau amgen posibl i AGPs, oherwydd eu natur gwrth-facterol. Ymysg yr esiamplau o’r rhai a ddefnyddir mewn bwyd anifeiliaid y mae asidau fformig, asetig, propionig, biwtyrig, lactig, malig, tartarig, a sitrig. Gellir eu rhoi mewn bwyd neu mewn dŵr yfed. Yn fasnachol maent ar gael fel asidau sengl neu eu halwynau (halwynau sodiwm, potasiwm, neu galsiwm) neu fel cyfuniad o asidau amryfal neu eu halwynau. Mae’r asidau hyn naill ai’n lladd neu’n atal twf bacteria pathogenig ond nid yw’n effeithio ar y bacteria asid lactig llesol nac ar Bifidobacteriwm gan eu bod yn gallu gwrthsefyll asid.
Un asid organig sy’n haeddu sylw arbennig yw asid biwtyrig. Fel crybwyllir uchod, mae’n un o’r asidau a gynhyrchir o ganlyniad i eplesu ffibr neu NDOs yn y caeca ond fe’i defnyddir hefyd fel ychwanegyn bwyd ar ffurf ei halwyn Na (Na-biwtyrad). Mewn nifer fawr o astudiaethau mae biwtyrad wedi dangos effeithiau cadarnhaol ar ddatblygiad y perfedd, uniondeb y perfedd a datblygiad imiwnedd, gwell cyfraddau pesgi ac ansawdd y carcas. Mewn astudiaethau eraill, mae wedi lleihau baich Salmonela a Chlostridiwm perffingenau (cyfrwng achosol enteritis necrotig). Argymhellir defnyddio ffurfiau amgaeedig, amddiffynedig o fiwtyrad yn hytrach na’r ffurf heb amddiffyniad, gan fod y ffurf sydd heb amddiffyniad yn cael ei amsugno yn rhannau agosaf y perfedd ac felly ni chaiff ddim effaith ar bathogenau yn cytrefu yn yr ilewm na’r caeca. Fe all y ffurf amddiffynedig frwydro yn erbyn y gostyngiad posibl mewn crynoadau a rheoli ei ryddhad diweddarach wrth iddo basio drwy’r llwybr gastroberfeddol. Mae perchyll wedi’u diddyfnu yn mynd drwy gyfnod o ddiffyg twf os cânt eu diddyfnu’n fuan. Ar hyn o bryd nid yw eu llwybr gastroberfeddol wedi datblygu’n ddigonol ac felly ni allant dreulio bwyd solid yn iawn. Gwelwyd bod biwtyrad, oherwydd ei effaith gadarnhaol ar ddatblygiad y perfedd a lluosogi celloedd, yn ei gwneud yn haws i faethynnau gael eu treulio mewn perchyll gan arwain at well perfformiad tyfu. Gwelwyd hefyd fod cynnwys biwtyrad mewn dietau yn gwella ansawdd synhwyraidd cig moch drwy leihau ei arlliw baedd.
Mae’r thema o biwtyrad fel dewis arall yn lle gwrthfiotigau yn amlwg yn gryf iawn. Mae hyn yn amlwg iawn yn yr astudiaethau a ddefnyddiai ddeilliad biwtyrad i ddisodli gwrthfiotigau yn uniongyrchol, ond fe’i gwelir hefyd mewn astudiaethau lle mae anifeiliaid sy’n cael eu porthi â biwtyrad yn cael eu herio â phathogen.
Ffytofiotigau
Cyfansoddion bioactif naturiol a geir o blanhigion y gwyddys eu bod o les i berfformiad twf yw ffytofiotigau neu ychwanegion bwyd ffytogenig (PFAs). Yn ddibynnol ar o ble mae’r cynhwysion actif yn tarddu, fe ellir hefyd ddisgrifio PFA fel olewau naws (EOs; sylweddau lipoffilig ehedol a geir drwy ddulliau echdynnu oer neu drwy ddistyllu alcohol neu stêm) ac fel oleoresinau (rhin a geir drwy doddyddion annyfrllyd). Mae ffurfiau solid, sych a mâl ar berlysiau a sbeisys hefyd yn ffytofiotigau. Yn y rhan fwyaf o PFAs, y cyfansoddion actif allweddol yw polyffenolau (sy’n gyfansoddion a geir yn naturiol mewn ffrwythau, llysiau, perlysiau a sbeisys). Rhoddwyd cynnig ar amrywiaeth eang o berlysiau a sbeisys gan gynnwys: teim, oregano, rosmari, mintys y creigiau, garlleg, sinsir, te gwyrdd, cwmin du, coriander a sinamon, ar ffurf powdrau neu olewau naws, i’w defnyddio o bosibl yn lle gwrthfiotigau ym mwyd moch a dofednod. Yn wahanol i ragfiotigau a phrofiotigau sy’n cael effaith drwy SCFAs, gellir amsugno polyffenolau (cyfansoddyn actif ffytofiotigau) yn y gwaed a chânt effaith uniongyrchol ar iechyd y perfedd.
Mae ffytofiotigau yn cael effeithiau cadarnhaol ar wella perfformiad dofednod a moch ac mae hynny’n debygol oherwydd bod y bwyd yn haws ei fwyta sy’n golygu eu bod yn bwyta mwy ac yn magu pwysau’n well. Maent yn gwella hydreuledd maethynnau drwy gynyddu cynhyrchiant a gweithgaredd yr ensymau pancreatig a chynyddu secretiad beil. Mae ffytofiotigau yn wrthocsidyddion cryf. Oherwydd eu nodweddion gwrthocsidyddion, gwelwyd eu bod yn gwella ansawdd porc, cyw iâr a chig hwyaden. Fel SCFA mae ganddynt hefyd nodweddion gwrthfacterol. Gwelwyd hefyd eu bod yn gallu lleihau cyfrif pathogenau, E.coli a Chlostridiwm perffringenau (cyfrwng achosol enteritis necrotig) a lleihau’r briwiau a achosir gan Eimeria (cyfrwng achosol cocsidiosis) mewn astudiaethau ymchwil o ieir bwyta.
Ffig 2: Sut mae ffytofiotigau yn gwella ansawdd cig (wedi’i addasu â newidiadau o Estevez and Petracci, 2019)
Crynodeb
Ac ystyried y gwaharddiad ar wrthfiotigau mewn bwyd a’r cynnydd yn y galw am gynhyrchion da byw o systemau cynhyrchu nad ydynt yn defnyddio gwrthfiotigau, ceir angen am ddewisiadau yn lle gwrthfiotigau sy’n gallu gwella perfformiad a chynnal iechyd gorau anifeiliaid cynhyrchu bwyd. Cafodd nifer o gynhyrchion eu gwerthuso mewn moch a dofednod dros y degawd diwethaf am eu potensial i ddisodli gwrthfiotigau. Er bod digon o dystiolaeth o effeithiau llesol y dewisiadau amgen hyn, fe all y canlyniadau amrywio o fferm i fferm. Fe allai cyfuniadau o gynhyrchion fod yn fwy llesol na’u defnyddio ar eu pen eu hunain i gael effaith debyg i effaith gwrthfiotigau. Y peth pwysicaf yw bod angen dull cyfannol o reoli iechyd y perfedd a gwella perfformiad ac mae hynny’n cynnwys arferion lles anifeiliaid da a mesurau bioddiogelwch caeth ar y fferm.
Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk