5 Awst 2020

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae systemau godro robotig yn dod yn fwyfwy cyffredin yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang
  • Er bod enillion mewn cynhyrchiant ac enillion economaidd yn rheswm allweddol dros ddefnyddio system odro robotig, dylai ffermwyr roi ystyriaeth gynyddol hefyd i’r canlyniadau lles
  • Gall penderfyniadau ar amryw o agweddau’r systemau hyn, yn enwedig strategaethau ar gyfer cynllun yr ysgubor, greu effeithiau enfawr ar les y gwartheg a dylai’r rhain gael eu hystyried yn ofalus

 

Rhagymadrodd

Mae systemau godro robotig (RMS), y bydd pobl yn cyfeirio atyn nhw weithiau fel systemau godro awtomatig (AMSs) yn fath o dechnoleg da byw fanwl gywir sydd wedi’i gynllunio’n bennaf i roi sylw i broblemau diffyg llafur ar ffermydd Ewrop. Daeth y systemau cyntaf i fod ar ddechrau'r 90au yn Ewrop. Ers hynny mae'r niferoedd wedi parhau i godi a’r amcangyfrif presennol yw eu bod i’w cael ar ryw 1,000 o ffermydd yn y Deyrnas Unedig (tua 10% o'r holl ffermydd llaeth). Mae’r cyfraddau mabwysiadu hyn yn cyd-fynd yn dda â Chanada (lle na fu’n gyffredin mabwysiadu systemau o’r fath tan ddechrau'r 2000au) ond yn hanner y mwyafrif o wledydd eraill Ewrop (Tabl 1). Prif fanteision RMS yw'r cynnydd a geir mewn cynhyrchiant a phroffidioldeb drwy wella effeithlonrwydd llafur a gwella cynhyrchiant llaeth ac awgrymiadau ar gyfer gwelliannau yn lles yr anifeiliaid a’u triniaeth foesegol. O ran cynhyrchiant llaeth, mae astudiaethau wedi nodi rhwng 2 a 12% o gynnydd yn y cynnyrch llaeth gydag RMS, yn bennaf am fod modd godro’n amlach o'i gymharu â systemau confensiynol dwywaith y dydd (mae hyn yn cyd-fynd yn arbennig o dda â buchod sy'n cynhyrchu mwy). Yn fyr, mae RMS yn cynnwys uned sydd wedi’i seilio ar siambr/bocs ac offer canfod amledd radio (RFID) (i adnabod buchod unigol a phenderfynu a oes angen eu godro ar sail amser eu hymweliad blaenorol a gwybodaeth arall am eu statws) a system braich robotig sy'n defnyddio synwyryddion i ganfod tethi unigol y pwrs a gosod cwpanau godro'n awtomatig ar y tethi. Mae’r godro yn digwydd fesul chwarter ac ar ôl sesiwn odro lwyddiannus bydd gatiau’r RMS yn agor i adael i’r fuwch ymadael, ac mae'r system yn ei glanhau ei hun cyn i’r fuwch nesaf gyrraedd.

 

Mae'r cymhlethdodau mewn RMS yn ymwneud â chymhelliant y gwartheg i gael eu godro, gan fod astudiaethau’n dangos bod cymhelliant cynhenid y fuwch i gael ei godro yn isel a bod cymhelliant i fwydo yn gwneud hyn yn llawer cryfach. Gan hynny, mae angen i RMS gael amgylchedd ysgubor sydd wedi'i ddylunio neu wedi’i ôl-ffitio i gyfeirio’r buchod yn benodol tuag at giwbiglau RMS. Y ddwy brif system ar gyfer hyn yw symud dirwystr i’r gwartheg, lle gall y gwartheg symud yn rhwydd rhwng mannau bwydo, gorffwyso, yfed a godro fel y mynnan nhw, neu symud dan arweiniad neu dan orfod (mae rhai strategaethau canolradd yn defnyddio elfennau o bob un). Gall system symud dan arweiniad fod yn system bwydo yn gyntaf neu’n system godro yn gyntaf, gan ei gwneud yn ofynnol i’r buchod fynd drwy'r robot godro cyn cyrraedd mannau bwydo neu fannau eraill. Mae'r systemau hyn yn aml yn cael eu hwyluso â gatiau unffordd neu weithiau gatiau RFID ymatebol sy'n sicrhau bod y buchod yn teithio drwy’r mannau a ddymunir yn unig. Mae ffermwyr sy'n ystyried mabwysiadu'r dechnoleg hon yn gorfod ystyried nid yn unig costau’r cyfarpar o ryw £120,000 ar gyfer uned RMS (sy'n gallu godro rhwng 50 ac 80 o fuchod gan ddibynnu ar y brid a gwneuthuriad y system. Gan mai’r nifer uchaf a awgrymir ar gyfer 2-3 o unedau yw buchesi o hyd at ryw 200 o fuchod, mae'n rhaid hefyd iddyn nhw ystyried costau ôl-ffitio ac addasu siediau neu hyd yn oed costau siediau newydd a all fod yn sylweddol. Gall fod yn anodd i fuches fawr weld manteision RMS, ond gall technolegau mwy diweddar ar ffurf systemau rotari awtomatig sy'n gallu perfformio hyd at 1,600 o sesiynau godro (digon ar gyfer tri ymweliad gan 500+ o fuchod y dydd) hwyluso buches o faint ehangach ond nid yw’r rhain yn cael eu trafod fel rhan o'r erthygl hon.

Ni fydd yr erthygl hon yn canolbwyntio ar agweddau cynhyrchu’r dechnoleg hon na’r agweddau elw: mae’r rhain wedi'u hastudio'n barod ac maen nhw’n gallu bod yn anodd i'w hasesu yn y tymor hir gan fod angen eu diweddaru'n rheolaidd wrth i systemau wella a newid. Yn hytrach, bydd yr erthygl yn canolbwyntio ar yr effeithiau ar les anifeiliaid sy'n digwydd gydag RMS gan fod mwyfwy o ddiddordeb gan ddefnyddwyr bod eu bwyd yn cael ei gynhyrchu mewn ffyrdd moesegol sy’n dda o ran lles. Un o ffermydd arddangos Cyswllt Ffermio yw Graig Olway ac mae’n defnyddio RMS, ac yn edrych yn arbennig ar iechyd a lles eu buchod yn y system hon. Maen nhw’n gobeithio gwella cloffni gan y gall hyn gael effaith fwy byth ar senarios RMS o'i gymharu â dulliau godro traddodiadol.

Tabl 1. Cyfraddau mabwysiadu RMS (% o gyfanswm ffermydd llaeth y wlad, wedi’i thalgrynnu i’r 0.5% agosaf) o bapur Eastwood a Renwick 2020.

 

 

Ymateb straen

Mae straen mawr yn andwyol i statws iechyd anifeiliaid mewn amryw o ffyrdd ac mae’n groes i’r pum rhyddid mewn lles anifeiliaid (lle nodir rhyddid rhag ofn a gofid). Ceir hefyd effeithiau yn sgil straen sy'n arwain at lai o effeithlonrwydd o ran y cynhyrchu. Mae cymariaethau o lefelau straen buchod mewn parlyrau traddodiadol ac mewn RMSs wedi’u gwneud gan ddefnyddio ymatebion straen fel curiad y galon, uchafswm yr adrenalin yn y plasma, noradrenalin, y cortisol sy’n bresennol yn y llaeth a mwy o symud o gwmpas (camu a chicio). Hyd yn hyn, ychydig yn unig o dystiolaeth sydd wedi’i weld o gynnydd mewn lefelau straen, ond mae yna dystiolaeth o lefelau straen uwch mewn buchod yn y broses o addasu i RMSs, sydd wedyn yn gostwng yn gyflym ar ôl sesiwn hyfforddi gychwynnol gyda'r system. Ar ben hynny, lle gall ffermwyr roi’r buchod mewn ysgubor gydag uned RMS ymlaen llaw i gynefino â hi, yn enwedig y rhai sydd â lloi, yna mae'n ymddangos bod y cyfnodau hyfforddi a’r straen yn lleihau. Ceir rhywfaint o dystiolaeth hefyd sy'n awgrymu bod mwy o straen yn digwydd pan ddefnyddir RMS sy’n symud y buchod drwy orfod/dan gyfarwyddyd, o’u cymharu â systemau parlwr, sef cynnydd nad yw’n amlwg wrth ddefnyddio RMS  lle mae’r buchod yn symud yn rhwydd. 

 

Hierarchaeth gymdeithasol

Mae RMS yn drwm o dan ddylanwad yr awydd i gysylltu'r broses odro ag awydd i fwydo, gyda llawer o systemau’n gofyn i’r fuwch symud drwy giwbigl RMS i gyrraedd mannau bwydo neu i gael atchwanegiadau penodol. Mae hyn yn creu amgylchedd lle bydd y buchod uchaf eu safle cymdeithasol yn ymuno â'r system yn gyntaf i gael porthiant, tra bydd gwartheg sydd â safle is yn aros yn hirach mewn man aros cyn dod i’r RMS a chael bwyd. Mae ymchwil wedi awgrymu bod mannau aros mawr yn union cyn yr RMS yn allweddol o ran lleihau cystadleuaeth gymdeithasol a bod systemau symud dan orfod yn creu effaith negyddol ar fuchod isel eu safle o'u cymharu â systemau symud dirwystr (gweler Tabl 2). Mae astudiaethau eraill wedi nodi gostyngiad yn amserau aros buchod sy’n isel eu safle drwy gynnwys mwy nag un ciwbigl ym mhob lloc sy'n cynnig cyfleoedd i fuchod mewn safleoedd is osgoi cystadlu'n uniongyrchol â buchod sy’n uwch eu safle. Ymhellach, mae hyn yn lleihau problemau gydag atal yr RMS yn ystod y gwaith cynnal dyddiol neu arferol. Mae cynllun yr RMS yn bwysig i leddfu anawsterau safle cymdeithasol a gall cynllun anghywir niweidio lles, gyda sgil-effeithiau ar effeithlonrwydd yr RMS yn ei chyfanrwydd wrth i’r cyfnodau rhwng sesiynau godro gynyddu, sy’n arwain at gynhyrchu llai o laeth.

 

Tabl 2. Crynodeb o’r gwahaniaethau rhwng symud yn rhydd a symud dan gyfarwyddyd mewn buchesi RMS

 

 

Addasu ymddygiad naturiol

Gall newidiadau mewn ymddygiad mewn RMS fod yn gadarnhaol neu'n negyddol. Gan hynny, dylai rhai gael eu hybu ac mae eraill yn golygu bod angen strategaethau sy'n anelu at leihau eu heffeithiau. Mae newidiadau ymddygiad sy'n ymwneud â'r broses odro yn amrywio ac yn cynnwys newid sawl tro y caiff y fuwch ei godro a'r amser a dreulir yn cael ei godro. Un ffactor sy'n gyson yn gyffredinol ym mhob RMS yw bod cwpanau tethi’n cael eu gosod a’u tynnu fesul chwarter, a gellir barnu bod hyn yn brofiad godro llawer mwy naturiol i’r gwartheg gan ei fod yn debycach i sugno naturiol y lloi ac yn lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â gor-odro (gweler iechyd a lles). Mae systemau symud rhwydd a systemau symud dan gyfarwyddyd yn arwain at niferoedd uwch o sesiynau godro dyddiol o’u cymharu â dulliau traddodiadol, gyda llawer o systemau'n dangos cyfartaleddau rhwng 2.5 a 2.8 o ymweliadau y dydd fesul buwch o’i gymharu â dwywaith y dydd yn draddodiadol. Yn y bôn, mae RMS yn rhoi mwy o ryddid a dewis i’r gwartheg ac fe ddangoswyd, i raddau helaeth, fod hyn yn cynnal eu hymddygiad dyddiol naturiol gyda'r rhan fwyaf o’r gwaith godro’n cael ei wneud rhwng 7am a 10pm. Er hynny, mae addasiadau ymddygiad yn dal yn dod o dan ddylanwad camau rheoli dynol megis cyflenwi bwyd neu ei wthio i fyny, yn enwedig mewn systemau symud dan gyfarwyddyd lle mae'n rhaid i’r gwartheg gael eu godro cyn mynd at y porthiant. At hynny, o ran ymddygiad dyddiol, mae pryderon lles wedi’u nodi o ran lefelau’r golau mewn sefyllfaoedd dan do, gyda lefelau rhy uchel yn lleihau'r ymddygiad gorffwyso a lefelau rhy isel yn lleihau'r cynnyrch llaeth a gyflawnir gydag RMS. Yn bwysig ddigon, mae symud yn rhwydd yn rhoi gwell lles a mwy o ryddid i ddewis i anifeiliaid na symud dan gyfarwyddyd ac mae’n ymddangos hefyd fod hyn yn lleihau effeithiau negyddol yr hierarchaeth gymdeithasol gan arwain at gynhyrchu mwy o laeth yn gyffredinol fesul buwch. Dangoswyd bod rheiliau cyfochrog wedi'u gosod ar fynedfa ciwbiglau RMS er mwyn gwahanu’r buchod yn lleihau ymddygiad negyddol (bwlïo) ac yn cynyddu cynhyrchiant llaeth hefyd.  Yn gyffredinol, yn addasiad mawr mewn ymddygiad/lles sy'n digwydd gydag RMS yw'r duedd i gadw buchod dan do yn hytrach na rheolaeth fwy naturiol ar borfa. Mae systemau pori yn bresennol ac yn gallu bod yn llwyddiannus, ond mae'r rhain yn aml yn arwain at heriau cynyddol gan gynnwys tagfeydd traffig wrth nôl y buchod i’w godro, anawsterau wrth nôl y buchod yn effeithiol a mwy o ofynion llafur a all gyfyngu ar fanteision y system yn gyffredinol. Mae nôl yr anifeiliaid i’w godro yn aml yn cael ei wneud drwy gynnig cymhellion ar ffurf bwyd neu, mewn rhai achosion, eu hyfforddi i ymateb i symbyliadau clywedol. Mae'r ddwy strategaeth yn newid ymddygiad naturiol yn y bôn ac yn gallu cynyddu straen a’r cyfle am ymddygiad hierarchaidd negyddol os bydd cynllun yr RMS yn arwain at amserau aros hir cyn godro.

 

Bridio Detholus

Mae RMSs wedi arwain defnyddwyr tuag at fridio gwartheg yn ddetholus ar gyfer nodweddion sy’n fuddiol iawn yn y systemau hyn. Er nad yw hyn yn dechnegol yn ymwneud yn uniongyrchol â lles, mae yna faterion moesegol posibl yn ymwneud â'r arfer hwn, er bod bridio gwartheg i fodloni gofynion dynol yn arfer sydd wedi hen ennill ei blwyf. Mae bridio ar gyfer gwell effeithlonrwydd yn yr RMS yn cynnwys: bridio gwartheg sydd â'r pwrs cywir i’w gwneud yn hawdd i’r robot ei adnabod a lleihau nifer y methiannau i osod y cwpanau godro (a all ddigwydd mewn hyd at 15% o’r fuches), bridio buchod sy'n gallu symud i RMSs yn haws a bridio buchod sydd â chyflymder godro uwch. Mae cynyddu cyflymder godro yn hwyluso'r broses o odro mwy o fuchod ym mhob lloc ac felly yn caniatáu stocio llociau â niferoedd uwch er mwyn cyflawni gwerthoedd cynhyrchu uwch. Yn ddiddorol ddigon, er gwaethaf lefel arwyddocâd isel, a gwrth-ddweud rhwng treialon amrywiol, mae yna rywfaint o dystiolaeth bod gan fuchod sy’n godro’n gyflymach lefelau is o gelloedd somatig yn eu llaeth, sy'n awgrymu bod hyn yn rhoi rhywfaint o amddiffyniad buddiol posibl yn erbyn problemau ag iechyd y pwrs. Mae'n bwysig nodi nid yn unig y bydd y robot yn methu gosod y cwpanau ar dethi detholiad o unrhyw fuches, wrth drosglwyddo i RMSs, ond y bydd detholiad hefyd yn methu â chael eu hyfforddi i addasu i'r system yn gyffredinol (sy'n golygu bod rhaid mynd i’w nôl o hyd ), ac mae hyn yn arwain mewn llawer o achosion at werthoedd cwlio uwch ymysg gwartheg sy'n berffaith iach fel arall.

 

Rheoli iechyd a chlefydau

Mewn astudiaeth yn ddiweddar ar 200+ o gynhyrchwyr yn defnyddio RMSs, dangoswyd bod 66% wedi mynd ati i newid eu cynlluniau rheoli iechyd ar sail y cynnydd yn y data a ddarperir gan RMS o'i gymharu â’r systemau traddodiadol blaenorol. At hynny, nododd 80% o'r cynhyrchwyr hyn hefyd ei bod yn haws canfod salwch yn benodol drwy ddefnyddio RMSs (drwy'r feddalwedd monitro iechyd integredig) nag mewn godro traddodiadol, a gwelwyd llai o achosion o fastitis clinigol. Er bod meddalwedd ac awtomeiddio gyda RMS yn cynnig y potensial i ddod o hyd i salwch heb fawr ddim llafur, mae'n bwysig nodi bod gwaith arsylwi ac arbenigedd y ffermwyr yn dal yn hanfodol.

Mae RMS yn fflysio cwpanau tethi rhwng ymweliadau’r buchod i leihau lledaeniad bacteria a mastitis. Er hynny, mae synwyryddion y system yn ei chael hi'n anodd glanhau tethi'n effeithiol neu adnabod tethi budr a allai amharu ar atal mastitis. Er bod technolegau yn datblygu i fynd i'r afael â'r mater hwn, mae astudiaethau eraill wedi nodi bod y risg hon yn llawer uwch mewn systemau dan do o’u cyferbynnu â systemau pori. Gan hynny, awgrymir y dylai ffermwyr roi mwy o flaenoriaeth i hylendid yr amgylcheddau dan do er mwyn lleihau'r risg o heintio tethi mewn RMS. Yn ychwanegol, mae tynnu’r cwpanau tethi fesul chwarter mewn RMS ar ôl i’r system weld gostyngiad yn llif y llaeth yn atal gor-odro. Mae hyn, ynghyd â'r gallu i ganfod dargludedd llaeth, lliw a chyfrifiad y celloedd somatig fesul teth i gyd yn helpu i leihau mastitis a heintiau yn y tethi yn well na godro traddodiadol sy'n edrych ar y pwrs cyfan.

 

Mae data o RMS wedi’i gysylltu hefyd â'r gallu i ganfod cloffni mewn gwartheg, gyda meddalwedd yr RMS yn rhybuddio’r ffermwyr am fuchod sydd wedi methu cyrraedd y ciwbigl RMS o fewn cyfnod penodol. Gall hyn fod yn sbardun ar unwaith i asesu gwartheg unigol ar gyfer symptomau cynnar clefydau neu gloffni gan fod cloffni wedi cael ei weld dro ar ôl tro yn lleihau ymweliadau buchod i gael eu godro mewn unedau RMS. At hynny, mae RMSs yn cynnwys platiau pwysedd yn eu gwaelod er mwyn hwyluso'r broses o osod cwpanau ar y tethi ac mewn nifer o astudiaethau fe welwyd bod hyn yn gallu cael ei addasu er mwyn canfod y pwysedd gwahanol sy'n cael ei osod ar bob coes er mwyn helpu i ganfod cloffni a’i drin. Mae natur cynllun yr ysgubor ar gyfer gwaith yr RMS hefyd yn integreiddio'n dda â llawer o systemau monitro da byw manwl gywir am fod gan y buchod fannau gwirio penodol i symud drwyddyn nhw’n gyson. Gall y rhain weithredu fel mannau i osod dyfeisiau casglu data i uwchlwytho data ar agweddau fel oestrws/ffrwythlondeb, amlder symud a llawer o rai eraill. Yn ogystal â hyn, mae'n debygol y gallai technolegau penodol fel delweddau 3D gwartheg ar gyfer monitro iechyd, asesu ansawdd carcasau, asesu cymeriant bwyd a chanfod cloffni gael eu hymgorffori fel rhan o'r amgylchedd sefydlog y tu mewn i giwbigl RMS. Gallai'r data o ddyfeisiau da byw manwl gywir fynd tuag at wella cynlluniau rheoli iechyd a gwella iechyd cyffredinol ac ansawdd bywyd y buchod dan sylw. Yn olaf, mae'r gallu i ddadansoddi newidiadau yn y data wrth odro buchod unigol dros amser yn golygu bod modd defnyddio strategaethau rheoli manwl gywir i gyd-fynd â chylchoedd godro’r buchod, er enghraifft, i leihau pyliau godro yn ystod cyfnodau sych er mwyn lleihau’r risg o heintiau yn y deth ymhellach ac wedyn gwella’r cynhyrchiant llaeth a sicrheir dros oes y fuwch.

 

Crynodeb

Nifer cymharol isel o RMS sydd wedi’u mabwysiadu yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig o'i chymharu ag Ewrop, ond mae tuedd gynyddol i’w gweld. Er bod agweddau buddiol RMSs yn hysbys yn gyffredinol, gan gynnwys mwy o gynhyrchiant a llai o ofynion llafur, mae'n dod yn fwyfwy pwysig yn yr hinsawdd sydd ohoni i ystyried y manteision hyn ochr yn ochr â phryderon penodol ynghylch lles anifeiliaid. Ar y cyfan, mae RMSs yn tueddu i ddangos gwell manteision ar gyfer lles anifeiliaid na'r dewisiadau eraill ar gyfer parlyrau godro, ond mae llawer o'r manteision hyn yn ymwneud â defnyddio seilwaith yr ysgubor yn gywir. At ei gilydd, pan gaiff agweddau lles anifeiliaid eu gwella mewn RMS, fe fydd yna welliant wedyn o ran cynhyrchiant, a dylai hyn fod yn gymhelliant da i'r rhai sy'n dymuno cael RMSs yn y dyfodol i sicrhau eu bod yn gwneud hynny yn y modd mwyaf moesegol a buddiol o ran lles anifeiliaid.

 

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr