Yn dilyn hydref anarferol o fwyn, cafodd tyfiant glaswellt ei recordio i fod dros ddwywaith y cyfartaledd tymhorol ar gyfer Hydref a Tachwedd ym 2015. Er fod porfeydd yr hydref yn dueddol o fod yn isel o ran cynnwys sych, roedd yn galluogi mamogiaid i gynnal eu cyflwr gan arwain at ganrannau sganio uchel i nifer o ffermwyr wrth nesáu at dymor ŵyna 2016. 

Y prif nod i ffermwyr nawr yw troi canlyniadau sganio epilgar yn dymor ŵyna cynhyrchiol a phroffidiol.  

Mae cyfraddau pesgi ŵyn yn amrywio’n sylweddol o 75% i 90% yn niadelloedd y DU. Mae hynny'n cynrychioli colled ariannol sylweddol i fusnes fferm a'r diwydiant. Yn ystod y tymor diwethaf, recordiodd grwpiau Adnabod eich Diadell + Cyswllt Ffermio werthiant ŵyn yn amrywio o 77% i 93% o'u cymharu â chanlyniadau sganio. Dylai ffermwyr anelu at werthu 90% o nifer yr ŵyn a sganiwyd i sicrhau’r enillion gorau.

Sut alla i leihau colledion ŵyn?

Er ei bod yn anochel y bydd amodau tywydd eithafol yn cynyddu colledion ŵyn , mae'r rhan fwyaf o farwolaethau ŵyn yn gysylltiedig â diffyg maeth ac afiechyd. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod mamogiaid sydd mewn cyflwr gwael adeg ŵyna; yn cael ŵyn llai o faint, yn dangos llai o ddiddordeb yn eu hŵyn, diffyg colostrwm, yn cael mwy o broblemau afiechyd a mwy o faich o ran llyngyr.

Targedu iechyd a chyflwr y famog

Dylai mamogiaid gyrraedd sgôr cyflwr darged o 2.5 i 3 adeg ŵyna (2 i 2.5 ar gyfer diadelloedd mynydd). Mae maeth digonol ar gyfer y famog yn ystod chwech i wyth wythnos olaf beichiogrwydd, pan fo 75% o dyfiant y ffoetws yn digwydd, yn hanfodol ar gyfer pwysau geni addas ar gyfer yr ŵyn. Mae hefyd angen lefelau egni a phrotein digonol ar y mamogiaid o fewn eu dogn, yn enwedig protein, er mwyn sicrhau colostrwm o ansawdd uchel a thyfiant digonol ar gyfer yr oen.

Mae hefyd yn bwysig i nodi mai dim ond rhwng 2-2.5% o bwysau eu corff all mamogiaid fwyta o ran cynnwys sych; ar ben hynny, mae'r ffigwr hwn yn lleihau hyd at 10% yn ystod pythefnos olaf beichiogrwydd gan fod y groth yn lleihau lle'r rwmen.  Mae porthiant o ansawdd uchel felly’n hanfodol, a bydd cwblhau dadansoddiad porthiant yn sicrhau bod y dogn yn ymateb i anghenion y famog. Mae hefyd yn bwysig ystyried proffidioldeb porthiant, lefelau uchel o wastraff o amgylch cafnau bwydo ynghyd ag arwyddion o dyllu i ganol y byrnau sy’n dangos diffyg blas.

Bydd gwahanu mamogiaid i wahanol grwpiau wrth sganio yn seiliedig ar nifer yr ŵyn yn y groth, a chyflwr corff yn sicrhau bod mamogiaid yn cael eu bwydo yn ôl eu hanghenion, ac yn osgoi gor-fwydo gwastraffus o famogiaid sy’n cario oen sengl neu'r rhai sy'n ŵyna'n hwyrach.  Bydd hyn hefyd yn lleihau’r perygl o glwy’r eira (toxaemia beichiogrwydd), lle bo mamogiaid yn dioddef diffyg egni o fewn y diet. Fodd bynnag, mae’n bosib y byddwn yn gweld mwy o achosion o glwy'r eira eleni gan fod mwy o famogiaid yn cario ŵyn lluosog ac mae glawiad uchel diweddar wedi effeithio ar ansawdd porfeydd.

Mae diffyg maeth yn un o nifer o ffactorau sy’n achosi cyflwr gwael mewn mamogiaid. Mae llyngyr yr iau wedi bod yn broblem fawr i nifer o ddiadelloedd ac yn dal i fod wrth i dymhorau ddod yn wlypach. Mae erthyliadau heintus hefyd yn fygythiad i ddiadelloedd ac maent yn fwy cyffredin wedi 100 diwrnod o feichiogrwydd.

Sicrhau tymor ŵyna llwyddiannus

Mae hylendid yn hanfodol er mwyn osgoi afiechydon heintus rhag lledaenu drwy'r ddiadell, a hynny o'r ŵyna ei hun hyd at ofal wedi hynny. Mae clwy’r cymalau, clwy’r bogail a cheg ddyfrllyd yn heintiau mewn ŵyn sy’n gysylltiedig â diffyg hylendid, yn ogystal â mastitis a heintiau metritis mewn mamogiaid. Mae golchi a diheintio offer a chyfleusterau ŵyna ar ôl eu defnyddio yn hanfodol ynghyd â sicrhau bod y deunydd oddi tanynt yn lan ac yn sych.

O fewn 15 munud cyntaf bywyd oen, dylai’r bogail fod wedi'i drochi'n llawn mewn ïodin milfeddygol cryf a'i ail-wneud ymhen dwy i bedair awr yn ddiweddarach. Mae hefyd angen i ŵyn lyncu digon o golostrwm, 200ml/kg yn ystod y 24 cyntaf a dylid llyncu 50ml/kg o fewn y ddwy awr gyntaf. Mae coluddyn bach yr oen yn gallu amsugno gwrthgyrff o’r colostrwm o fewn y chwe awr gyntaf sy’n rhoi digon o imiwnedd i'r oen ar gyfer chwe wythnos.

Gall ŵyn golli gwres eu corff yn sydyn os na fyddant yn derbyn cyflenwad digonol o golostrwm, gan arwain at hypothermia. Dylid sychu ŵyn sy’n dioddef o hypothermia ysgafn (tymheredd corff rhwng 37.5 - 39°C) a bwydo 120-240ml o golostrwm trwy biben ystumog bob dwy i bedair awr nes iddynt wella.  Dylid sychu ŵyn sy’n dioddef o hypothermia difrifol (tymheredd corf dan 37°C), a’u cynhesu hyd at 37.5°C ac yna bwydo colostrwm iddynt, os ydynt yn llai na phum awr oed. Os yw’r oen fwy na phum awr oed ac yn gallu dal ei ben, dylid bwydo colostrwm i’r oen trwy biben ystumog a’i gynhesu. Dim ond os yw'r oen dros bum awr oed ac yn methu â dal ei ben y dylid chwistrellu glwcos, ac yna'i gynhesu hyd at 37.5°C a bwydo colostrwm trwy biben ystumog.

Cofnodwch eich colledion

Gall cofnodi eich colledion ŵyn fod yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig wrth gynllunio ymlaen llaw ar gyfer tymhorau ŵyna yn y dyfodol. Gall nodi pryd mae marwolaethau’r ŵyn yn digwydd (h.y. cyn ŵyna, wrth ŵyna neu wedi wyna), dyddiad geni, nifer yr ŵyn yn y groth ac achosion marwolaeth (os gwyddoch) eich galluogi i nodi lle gellir gwneud gwelliannau.  Mae’n bosib y byddai trafod y data hwn gyda’ch milfeddyg yn eich galluogi i nodi unrhyw broblemau cudd a datblygu cynllun rheoli cost effeithiol.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr