16 Rhagfyr 2020

 

Dr William Stiles: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

Negeseuon pwysig:

  • Mae’r lefelau llygredd aer presennol yn beryglus iawn i iechyd.
  • Gall allyriadau amonia sy’n deillio o weithgareddau amaethyddol gyfrannu at ffurfio deunydd gronynnol (llygredd aer allweddol), a all achosi problemau iechyd difrifol.
  • Mae lleihau allyriadau amonia yn nod allweddol i’r sector cynhyrchu amaethyddol er mwyn lleihau lefelau llygredd aer a’r effaith amgylcheddol.

 

Ar hyn o bryd, llygredd aer yw’r risg unigol fwyaf yn y byd i iechyd yr amgylchedd. Gall gweithgareddau dynol gan gynnwys diwydiant, trafnidiaeth, amaethyddiaeth a gweithgareddau eraill arwain at ryddhau deunyddiau niweidiol i’r atmosffer sy’n gallu effeithio ar iechyd a lles poblogaethau dynol, bywyd gwyllt a’r amgylchedd.

Mae amaethyddiaeth yn cyfrannu at lygredd aer yn bennaf drwy allyrru amonia (NH3). Mae’r amonia yn cyfuno yn yr atmosffer â llygryddion eraill i ffurfio deunydd gronynnol mân (gweler Blwch 1), sy’n fygythiad mawr i iechyd pobl. Yng Nghymru, gellir olrhain 93% o allyriadau NH3 i ffynonellau amaethyddol. Mae lleihau faint o amonia sy’n cael ei allyrru yn sgil gweithgareddau amaethyddol yn gam angenrheidiol felly er mwyn lleihau lefelau llygredd aer yn genedlaethol. Mae amaethyddiaeth hefyd yn gyfrifol am allyrru amryw o lygryddion eraill, gan gynnwys ocsidau nitrogen (NOX) a chyfansoddion organig anweddol nad ydynt yn fethan (NMVOCs: non-methane volatile organic compounds), ond mae cyfraddau’r allyriadau hyn yn isel o’u cymharu â ffynonellau artiffisial eraill.

Ar hyn o bryd mae ansawdd aer Cymru ymhlith y gwaethaf yn y DU. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried llygredd aer yn argyfwng iechyd cyhoeddus brys, yn ail yn unig i effaith ysmygu. Mae ansawdd aer Cymru yn cael ei lywodraethu ar hyn o bryd gan wahanol ddeddfwriaeth gan gynnwys Cyfarwyddebau yr UE, Deddfau’r DU, a Deddfau Cymru. Yr Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am reoli ansawdd aer, ac maent yn cael eu goruchwylio gan Fforwm Ansawdd Aer Cymru sy’n darparu arbenigedd ac arweiniad i sicrhau bod gofynion statudol yn cael eu bodloni. Mae’r holl gyrff hyn yn gweithio gyda’i gilydd i gyflenwi’r Cynllun Aer Glân i Gymru. Nod y fenter hon yw lleihau llygredd aer o nifer o ffynonellau, gwella iechyd a lles pobl Cymru, a lleihau’r effeithiau niweidiol ar ecosystemau a’r amgylchedd.

Mae amryw o ddefnyddiau yn cyfrannu at lygredd aer a gallant ddeillio o bob math o ffynonellau naturiol ac artiffisial. Mae ffynonellau naturiol yn cynnwys llwch neu ronynnau pridd sy’n cael eu chwythu gan y gwynt, paill, halen o’r môr, a ffynonellau eraill. Mae ffynonellau artiffisial fel rheol yn golygu allyriadau sy’n deillio o weithgareddau fel llosgi tanwydd ar gyfer trafnidiaeth, diwydiant neu gynhyrchu egni. Mae crynodeb byr o lygryddion artiffisial a’u heffaith wedi’i roi yn Nhabl 1. Gall llygryddion aer gael eu ffurfio hefyd yn yr atmosffer yn dilyn adwaith cemegol rhwng llygryddion cynradd eraill, i ffurfio llygryddion eilaidd gan gynnwys gronynnau.

Tabl 1 – Prif ffynonellau llygredd aer a’u heffaith.

 

Beth yw amonia?

Moleciwl nitrogen yw amonia, ac mae’n cynnwys un atom nitrogen a thri atom hydrogen sydd wedi uno gyda’i gilydd (NH3). Mae’n nwy alcalïaidd hydawdd adweithiol iawn. Mae amonia yn cael ei ystyried yn nitrogen adweithiol gan ei fod ar gael i blanhigion ac yn barod i gael ei ddefnyddio, yn wahanol i nitrogen atmosfferig (N2), sy’n anadweithiol.

Mae nitrogen anadweithiol yn cael ei droi’n ffurfiau adweithiol yn naturiol drwy broses o’r enw sefydlogiad biolegol (h.y. pan fydd nitrogen yn sefydlogi bacteria ar blanhigion codlysol) neu gan fellt. Gall nitrogen adweithiol gael ei gynhyrchu hefyd drwy ddefnyddio proses Haber-Bosch, a gafodd ei datblygu ar ddechrau’r ugeinfed ganrif ac sy’n ei gwneud yn bosibl i sefydlogi nitrogen yn artiffisial a chynhyrchu NH3 synthetig. Roedd y datblygiad hwn yn chwyldroadol yn nhermau cynhyrchu bwyd. Amcangyfrifir bod ~40% o boblogaeth y byd  heddiw yn fyw oherwydd y broses hon.

O ganlyniad i ddulliau cynhyrchu artiffisial, sydd ymhell ar y blaen i sefydlogiad naturiol erbyn hyn, mae nitrogen adweithiol bellach yn cronni yn yr amgylchedd. Mae hyn yn effeithio ar ecosystemau daearol a dyfrol mewn llawer o ffyrdd gwahanol, ac ar iechyd pobl a lles yn fwy cyffredinol. Yn ystod y 70 mlynedd diwethaf, mae allyriadau amonia wedi mwy na dyblu yn fyd-eang. Gweithgareddau amaethyddol yw prif achos  allyriadau amonia y byd, gan gyfrif am tua 81% o’r allbwn (91% yng Nghymru).

Mae allbwn amonia yn fater sy’n destun pryder cynyddol i’r DU. Yn gyffredinol, mae allryriadau’r llygryddion aer a restrir yn Nhabl 1 wedi bod yn gostwng dros y degawdau diwethaf, oherwydd dylanwad deddfwriaeth a throsolwg. Fodd bynnag, mae lefelau NH3 wedi bod yn cynyddu’n gyson yn y DU a Chymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

 

Ffynonellau allyriadau

Mae amonia yn cael ei gynhyrchu pan fydd wrea yn cael ei dorri i lawr a’i anweddu. Mae anweddu yn digwydd pan fydd crynodiad yr NH3 ar yr arwyneb yn fwy na’r crynodiad yn yr aer o’i amgylch. Mae allyriadau NH3 yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad a’r tymor, ac ar arferion amaethyddol a ffactorau fel yr hinsawdd (mae’r gyfradd anweddu yn uwch pan fydd yn gynhesach), ond mae’r ardaloedd ‘gwaethaf’ o ran allyriadau yn gysylltiedig ag ardaloedd o weithgarwch amaethyddol dwys.

Mae’r rhan fwyaf o allyriadau NH3 y sector amaethyddol yn deillio o ddulliau rheoli da byw neu’r defnydd o wrtaith. Y brif ffynhonnell yng Nghymru yw dulliau rheoli tail gwartheg, sy’n cyfrannu at 41% o allyriadau amaethyddol. Y ffynonellau eraill yw chwalu tail ar briddoedd (26.8%), carthion anifeiliaid pori (14.5%), defnydd o wrtaith anorganig (10.2%), a dulliau eraill o reoli tail (7.4%). Ar ôl dadansoddi’r data yn ôl y math o dda byw ar draws y DU, mae gwartheg llaeth yn cyfrif am 28% o gyfanswm yr allyriadau, gwartheg cig eidion 20%, dofednod 15%, moch 7%, a defaid 4%.

Roedd gostyngiad yng nghyfradd allyriadau amonia rhwng 1990 a 2007, ac mae hyn i’w briodoli i leihad yn niferoedd anifeiliaid a llai o ddefnydd o wrtaith. Fodd bynnag, mae cynnydd mewn allyriadau o ganlyniad i ddulliau rheoli tail (yn enwedig yn y sector llaeth) ac yn sgil  cynnydd yn y defnydd o wrteithiau amoniwm-nitrad a threuliol, wedi arwain at gynnydd yng nghyfraddau allyriadau ers 2007. Mae hyn yn gosod sawl her yn nhermau amgylcheddol, oherwydd gall dyddodi nitrogen adweithiol arwain at wahanol effeithiau gan gynnwys ewtroffigedd, asidiad, tocsiddedd uniongyrchol, ac effeithiau anuniongyrchol fel gallu rhai organebau i reoli straen. Yn ogystal, gall NH3 gyfuno â deunyddiau eraill yn yr atmosffer i ddod yn ddeunydd gronynnol eilaidd (PM) (gweler Blwch 1). Mae’r deunydd gronnynol hwn yn brif lygrydd aer a gall gael effeithiau arwyddocaol ar iechyd a lles pobl.

 

 

Crynodeb

Mae allyriadau amonia o amaethyddiaeth yn ffynhonnell llygredd aer ac amgylcheddol sylweddol sy’n niweidio systemau naturiol ac iechyd a lles pobl ar yr un pryd. Yn nhermau iechyd pobl, mae NH3 ar grynodiadau isel yn gymharol ddiogel ond gall y deunydd hwn gyfuno â llygryddion aer eraill yn yr atmosffer (h.y. ocsidau nitrogen neu sylffwr deuoscid) i ddod yn ronynnau mân iawn. Yn y ffurf hon, mae’n fygythiad mawr i iechyd pobl oherwydd gall fynd i mewn i’r ysgyfaint ac achosi niwed. Gall hyn arwain at bob math o broblemau gan gynnwys afiechyd resbiradol a chardiofasgwlar a marwolaethau.

Mae amaethyddiaeth da byw yn cyfrannu llawer at lygredd amonia. Mae ffynonellau allyriadau i’w gweld ar draws holl sbectrwm gweithgareddau da byw, gan gynnwys dulliau rheoli tail ac ysgarthu uniongyrchol, a’r defnydd o’r tail hwnnw. Mae’n bosibl addasu dulliau rheoli ar y fferm i leihau allyriadau NH3, drwy addasu’r ffordd mae tail yn cael ei reoli a’i storio, ac yna ei ddefnyddio ar y tir. Trafodir dulliau o gyflawni hyn mewn erthygl dechnegol gysylltiedig: Llygredd aer: dulliau rheoli amaethyddol i leihau allyriadau amonia.

Mae lleihau allyriadau NH3 yn nod allweddol i amaethyddiaeth yn y  DU a Chymru er mwyn lleihau’r effaith ar iechyd pobl a diraddio’r amgylchedd. Mae lleihau faint o nitrogen sy’n cael ei golli drwy’r fecanwaith hon hefyd yn strategaeth bwysig i reoli busnesau fferm, gan fod y deunydd hwn yn werthfawr. Felly, mae cysylltiad uniongyrchol rhwng cadw a defnyddio’r deunydd hwn yn fwy effeithlon â rheoli busnes y fferm yn fwy effeithlon.

 

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cynllun gwrthsefyll newid hinsawdd ar gyfer Busnesau Garddwriaeth yng Nghymru
Opsiynau amgen ar gyfer deunydd gorwedd i wartheg llaeth: Tail sych wedi’i ailgylchu
Dr Natalie Meades: IBERS, Aberystwyth University. Mawrth 2024 Mae
Cyfleoedd ar gyfer sefydlu gwerth tail a slyri a’u defnydd mewn economi gylchol
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Ebrill 2024