9 Medi 2021
Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.
- Mae troseddau amaethyddol a gwledig yn bryder cynyddol yn y Deyrnas Unedig.
- Dangosodd dyfeisiadau cysylltiedig dethol addewid ar draws sectorau o ran eu rhan mewn diogelwch a datgelu tresmaswyr/dwyn.
- Gall synwyryddion a thechnolegau gynnig posibiliadau monitro 24/7 ac mae ganddynt y potensial i fod yn aml-swyddogaeth i wella cynhyrchiant fferm hefyd.
Troseddau mewn amaeth
Mae troseddau amaethyddol a gwledig yn bryder cynyddol yn y Deyrnas Unedig. Awgrymodd canlyniadau’r rhwydwaith troseddau cenedlaethol yn 2018 bod 69% o ffermwyr a pherchenogion busnes gwledig wedi dioddef troseddau yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae ffigyrau prsennol yr NFU yn rhoi cost troseddau gwledig ar £54.3 miliwn yn dangos cynnydd ~27% o ran effeithiau costau ers 2016. O ran rhanbarthau Canolbarth Lloegr a welodd effaith mwyaf o ran cost y troseddau, ond, o ran ei hallbwn gros amaethyddol cymharol, gwelodd Cymru gynnydd blynyddol sylweddol o 11.1% ers 2018.
Ffigyrau troseddau gwledig yr NFU 2019
Rhanbarth |
Cost yn 2019 £miliwn |
%Y newid ers 2018 |
Yr Alban |
2.3 |
44.1 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr |
8.6 |
0.4 |
Dwyrain Lloegr |
8.1 |
16.9 |
Canolbarth Lloegr |
10.6 |
7.8 |
De Ddwyrain Lloegr |
8.7 |
0.6 |
De Orllewin Lloegr |
6.6 |
14 |
Cymru |
2.6 |
11.1 |
Gogledd Orllewin Lloegr |
3.5 |
3.5 |
Gogledd Iwerddon |
3.3 |
18 |
O ran troseddau amaethyddol, dwyn peiriannau, da byw ac, yn fwy cyffredin yn ddiweddar, cychod gwenyn yw’r ffactorau mwyaf sy’n effeithio ar gynhyrchiant a sefydlogrwydd ariannol. Ond mae anafiadau i dda byw, yn arbennig trwy ymosodiadau cŵn, hefyd wedi cynyddu.
Yn draddodiadol, mae diogelwch yn faes y gwyddys ei fod yn ddiffygiol ar ffermydd, gan ei bod yn gyffredin i dai fferm a’r adeiladau fod heb eu cloi ac i’r offer a’r peiriannau gael eu gadael yn amlwg gyda’r allweddi ynddyn nhw. Efallai bod cysylltiad rhwng yr agweddau hyn â’r rheswm bod ffermydd yn darged mor ddeniadol i droseddwyr. Trafododd papurau diweddar yr angen i ffermwyr ddefnyddio’r cysyniad o fferm fel ardal y gellir ei hamddiffyn yn y cysyniad ‘Fferm sy’n Gadarnle’ a thrwy hynny mae cynlluniau pum cam yn cael eu nodi ac ar gam 4 y bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio;
- Archwilio ardal y fferm yn ffisegol
- Pennu pa ddulliau atal troseddau ffisegol y gellir eu defnyddio
- Ystyried mentrau atal troseddau yn y gymuned leol
- Ystyried gweithrediadau technolegol
- Dylunio i osgoi troseddau (yn haws ar ffermydd sydd newydd eu hadeiladu na’r rhai sydd eisoes mewn bodolaeth)
Ni ddylid anghofio dewisiadau ac ystyriaethau diogelwch syml, traddodiadol. Pan fydd yn bosibl gall cael golwg clir ar ardaloedd gwerth uchel hyd yn oed os bydd hyn yn golygu tynnu adeiladau hŷn nad ydynt yn cael eu defnyddio i lawr neu dirlunio/torri gwrychoedd mewn ffordd fydd yn sicrhau’r gwelediad gorau, fod yn allweddol. Ynghyd â gwelediad clir, gall digonedd o oleuadau ar sail symudiadau fod yn ffordd allweddol o atal yn ogystal â chloeon da yn cael eu cynnal a’u cadw yn iawn ac ardaloedd dan do ar glo i gadw peiriannau bob nos.
I waethygu’r problemau, sylwyd bod ffermwyr yn teimlo eu bod yn ‘ddinasyddion eilradd’ o ran ymgysylltu â lluoedd heddlu lleol. Oherwydd bod adnoddau’r heddlu yn llawer mwy gwasgaredig mewn ardaloedd gwledig nag mewn ardaloedd trefol, gall yr amseroedd ymateb fod yn waelach a gall hyn effeithio ar y camau gweithredu a gymerir. Yn aml nodir bod y problemau yma yn achosi i ffermwyr ymgysylltu llai ag atal troseddau a rhoi adroddiadau amdanynt. Ochr yn ochr â’r effeithiau economaidd a chymdeithasol sy’n gysylltiedig â throseddau amaethyddol, awgrymwyd hefyd y gall troseddau weithredu fel straen sylweddol ar ffermwyr mewn diwydiant lle mae llawer o ffactorau sy’n effeithio ar straen ac iechyd meddwl yn hysbys yn barod. Cynhaliwyd yr astudiaeth gyntaf oedd yn ystyried troseddau fel achos straen i ffermwyr y Deyrnas Unedig yn 2020 ac amlygodd yr effaith sylweddol ar ffermwyr o ran teimlo’n bryderus, paranoid, ynysig ac isel. Dengys hyn eto yr angen am well systemau ac ystyriaethau o ran diogelwch.
Diogelwch Rhyngrwyd o Bethau (IoT)
Un maes sy’n dangos addewid o ran diogelwch yw’r gallu i fonitro amgylcheddau 24/7 gan ddefnyddio synwyryddion sy’n gallu cyfathrebu. Y ‘Rhyngrwyd o Bethau’ (IoT) yw’r cysyniad o dechnolegau sy’n defnyddio synwyryddion i anfon a derbyn data rhwng dyfeisiadau a’r rhyngrwyd. Mae ystyried sut i weithredu IoT o ran diogelwch ac atal troseddau wedi dod yn gynyddol gyffredin dros yr 20 mlynedd diwethaf. Ar draws llawer o sectorau, gan gynnwys rhai diwydiannol, preswyl ac amaethyddol, mae strategaethau’n cael eu datblygu i integreiddio’r potensial monitro a chyfathrebu 24/7 hwn y mae dyfeisiadau IoT yn eu cynnig. Amlygir hyn trwy chwilio trwy lenyddiaeth gyhoeddedig gan ddefnyddio’r termau allweddol “theft”, “IoT”, “anti-theft” a ‘”theft prevention” a ddarganfu 239 darn o ymchwil, 86% ohonynt wedi eu cynnal yn y 5 mlynedd diwethaf.
Web of science chwiliad am bapurau ymchwil gan ddefnyddio’r termau chwilio a nodir uchod
Mae Cyswllt Ffermio ynghyd â lluoedd heddlu Cymru a ffermydd lleol yn ceisio pennu effeithiolrwydd ac ystyriaethau eraill defnyddio IoT ac adnoddau cysylltiedig eraill ar ffermydd. Mewn prosiect ar hyn o bryd gan y Bartneriaeth Arloesedd Ewropeaidd (EIP) mae’r rhwydwaith ardal eang pŵer isel (LPWAN) LoRaWAN yn cael ei threialu ar gyfer cyfathrebu rhwng dyfeisiadau ar gerbydau a giatiau mynediad mewn ymgais i fonitro ac atal troseddau ar ffermydd. Mae LPWAN yn cynnig ystod o gyfathrebu mewn kilometrau, gan ddibynnu ar dopograffeg y pyrth sydd o’i gwmpas, fel y cyfryw gall y rhain osgoi problemau posibl pellter WiFi/Bluetooth a phroblemau o ran signal gyda band eang gwledig a mynediad i’r rhwydwaith symudol. Mae cysylltedd/cyfathrebu hefyd yn bwysig wrth roi adroddiad am unrhyw droseddau neu gysylltu â gwasanaethau argyfwng yn achos damweiniau fel y trafodwyd mewn erthygl flaenorol a gall LPWAN gynnig dewisiadau gwahanol mewn ardaloedd o signal gwael neu ddim signal o gwbl.
Mae sawl system ar gyfer canfod lladrad/tresmaswyr yn cynnwys defnyddio synwyryddion laser, lle mae pelydr anweladwy yn croesi ardal, os bydd y pelydr yn cael ei dorri yna gall weithredu larwm neu rybudd. Ond, gall systemau o’r fath fod yn eithaf drud, yn anodd eu symud ar ôl eu gosod ac nid ydynt yn addas i’w gweithredu ym mhob lleoliad. Mae systemau eraill wedi edrych ar ddefnyddio gyroscopau/mesuryddion cyflymder i ganfod symudiad. Gall unrhyw newid ffisegol (agor neu dorri giât neu ddrws) gael ei ganfod a chanu larwm a rhybuddio ffermwyr trwy apiau. Gall y rhain fod yn rhatach ac yn haws eu gosod neu eu symud i leoliad newydd. Gall systemau camera cylch cyfyng neu rai eraill ar sail delweddau fod â llu o ddefnyddiau posibl o ran diogelwch ond hefyd gynorthwyo gyda diogelwch fferm a phroblemau iechyd anifeiliaid penodol fel y trafodwyd o’r blaen. Yn y pen draw gall systemau gael eu hintegreiddio lle mae synwyryddion symud (gweler y tabl isod) yn canfod symudiad i droi camera cylch cyfyng ymlaen i arbed ynni a’r gofod storio angenrheidiol.
Enghraifft o wybodaeth am synwyryddion ac ar sail delwedd o chwiliadau o wneuthurwyr wedi ei addasu o Karnik et al., (2020)
Dull canfod |
Gyroscope (synhwyrydd GY-521) |
PIR (synhwyrydd RE200B) |
Uwchsain (synhwyrydd casgen RS Pro) |
Teledu Cylch Cyfyng/Gwe-gamera cysylltiedig |
Synwyryddion pelydrau isgoch |
Pris pob uned (£) |
3.79 |
7.18 |
10.85 |
20 - 200 |
≥15 |
Pwysau |
2.1g |
5.87g |
48 - 635g |
||
Ffactor ffurf (mm) |
21.2*16.4*3.3 |
24.03*32.34*24.66 |
7.1*9.9 mm |
>na Gyro neu PIR |
|
Foltedd gweithredu |
2.375 V - 3.46 V |
3 V - 10 V |
20 V |
>na Gyro neu PIR |
|
Tymheredd |
Ydy |
Na |
Na |
Na |
Na |
Pellter |
Ar wrthrych |
hyd at 150 metr tu allan |
0.2 i 4 metr |
Gwelediad |
hyd at 200 metr |
Ardal a oruchwylir |
Ar wrthrych |
~110° llorweddol o’r man gosod |
80 ° |
≥110° o’r man gosod a gall llawer gael eu symud o bell |
Yn ddibynnol ar nifer y pelydrau ond cul |
Mewn system syml, gall camera cylch cyfyng gael ei gysylltu a byddai’r rhybuddion yn gadael i’r ffermwr wylio’r delweddau’n fyw i wneud penderfyniad am y digwyddiad. Trwy integreiddio prosesu delweddau i system gellir osgoi rhybuddion diangen a gellir penderfynu os yw’r ddelwedd yn un o anifail neu o berson. Os dynodir anifail ysglyfaethus gallai synau rhybuddio ar amleddau amrywiol gael eu chwarae i’w ddychryn gan ddiogelu da byw. Os yw’r tresmaswr yn berson, gellid defnyddio system adnabod bellach (adnabod wyneb ac ati) i bennu os yw’n rhywun ag awdurdod neu beidio ac anfon rhybuddion SMS a bydd larwm yn canu yn ôl hynny. Mae systemau integredig tebyg eisoes ar gael trwy, er enghraifft ‘Technolegau Doethach’ sy’n dweud bod eu systemau yn integreiddio synwyryddion symudiadau a phadiau pwysedd ar giatiau ac ar diroedd ffermydd ynghyd â chamera cylch cyfyng a thagiau GPS ar beiriannau gwerthfawr allweddol i roi diweddariadau diogelwch cyflym a rhybuddion.
O ran ffigyrau troseddau gwledig yr NFU yn 2019, roedd dwyn cerbydau (yn cynnwys tractorau, beiciau pedair olwyn/ATV a land rover) yn cyfri am dros chwarter y costau, gan awgrymu bod hwn yn faes allweddol o ran diogelwch. Mae’r dewisiadau technoleg diogelwch IoT eraill heblaw tagio GPS (sy’n dibynnu ar i’r lleidr beidio â gwybod i dynnu’r unedau hyn) yn cynnwys offer atal injan yn gysylltiedig ag adnabod wyneb (sydd mewn rhai enghreifftiau eithafol hefyd wedi cael eu hawgrymu i roi sioc drydan i ladron posibl). Mae’r dechnoleg yma yn parhau â’r systemau mewn ceir sy’n adnabod nifer o wynebau sy’n cael eu datblygu i adnabod gyrwyr meddw a blinedig. Cysylltwyd systemau hefyd ag olrhain GPS lle mae cerbydau sy’n symud tu allan i ardal ddaearyddol benodol yn gallu cael eu llonyddu a’u holrhain yn awtomatig. Gall y dewisiadau IoT eraill yn syml gynnwys colli cyswllt â dyfais. Os bydd system wedi ei gosod ar gerbyd sydd yn gyson yn cysylltu â ‘hyb cartref’ yna bydd symud y cerbyd allan o gyrraedd yr hyb yn torri’r cysylltiad a gallai roi rhybudd yn awtomatig. Mae awtomeiddio cartref trwy ffôn symudol eisoes yn defnyddio systemau o’r fath i droi’r goleuadau ymlaen yn eich cartref pan fydd eich ffôn yn cysylltu â WiFi’r cartref neu droi’r trydan i gyd i ffwrdd pan fyddwch yn datgysylltu o’ch WiFi gartref trwy apiau fel IFTTT.
O ran olrhain anifeiliaid sy’n cael eu dwyn, un ystyriaeth allweddol yw argaeledd dyfais sy’n rhad, aml-swyddogaeth (yn cynnig manteision eraill fel monitro iechyd anifeiliaid) ac yn gadarn. Am y rhesymau hyn efallai na fydd llawer o systemau coleri GPS neu dag clust yn ddichonol gan y gall y tramgwyddwr eu tynnu, yn syml iawn. Gallai cynnwys cylched yn y tagiau yma sy’n gallu dynodi pan fyddant yn cael eu tynnu neu fod rhywun yn amharu arnynt a chynhyrchu rhybudd helpu i roi gwybod am droseddau mor gyflym â phosibl. Mae’r dewisiadau eraill yn cynnwys dyfeisiadau mewnol fel bolysau na ellir cael gwared arnynt ac yn aml ni fyddai’n amlwg eu bod yn eu lle i’r unigolion sy’n cyflawni’r drosedd. Er nad yw’n ymddangos bod gwybodaeth am ddichonolrwydd olrhain GPS a’i gywirdeb y tu mewn i anifail, mae systemau bolysau presennol yn cyfathrebu â hyb canolog i drosglwyddo data am dymheredd a threuliad yr anifail. Fel y cyfryw, gallai strategaeth yn ymwneud â cholli cysylltiad â dyfais roi larymau yn gysylltiedig â bygythiadau posibl. Ond, hyd yn hyn, efallai na fydd llawer o folysau neu goleri/tagiau ar sail GPS yn ddichonol yn fasnachol i’w gweithredu ar draws buchesi cyfan oni bai eu bod yn fridiau gwerthfawr iawn neu ar ffermydd dwys proffidiol. Er gwaethaf hyn, mae llawer o systemau yn aml yn cael eu marchnata ar gyfer dibenion diogelwch penodol. Dewis arall yw un tebyg i SmartWater (lle’r ydych yn marcio eich eiddo personol â hylif y gellir ei olrhain) ac mae wedi cael ei farchnata gan gwmni o’r enw TecTracer. Mae eu system hwy yn golygu marcio da byw â micro ddotiau mewn cod sy’n aros ar gnu a blew ac yn gadael i’r anifeiliaid sydd wedi eu dwyn gael eu holrhain a’u dychwelyd. Er y gall hyn fod yn effeithiol os bydd anifeiliaid yn cael eu dwyn a’u cludo i fferm arall neu yn cael eu canfod yn fuan, mae llawer o’r dwyn ar anifeiliaid ar gyfer prosesu bwyd ar y farchnad ddu, ac felly unwaith y bydd y croen a’r cnu/blew wedi eu tynnu yna mae’r gallu i olrhain yn cael ei golli.
Diogelwch datblygedig
Wrth i dechnolegau ddatblygu felly hefyd y mae’r troseddau sy’n cael eu cyflawni, gyda seibrddiogelwch yn agwedd anferth i’w hystyried yn y cyfnod modern. Mae cael systemau ffermio manwl gywir a systemau diogelwch sy’n ddibynnol ar gyfathrebu data a chysylltedd yn agor risg newydd o hacio ac amharu ar systemau o’r fath. Felly dylid rhoi ystyriaeth sylweddol i agweddau fel dilysrwydd defnyddwyr sy’n cael mynediad at systemau neu ddata, cyfrinachedd y data a gesglir a phreifatrwydd a diogelwch y systemau a’r data rhag ymosodiadau allanol. Er y gall amgryptio a hidlo data fod yn ddewisiadau o ran diogelwch, pan fydd cyfathrebu diwifr dan sylw mae risg bob amser y bydd atal signal yn llwybr ymosodiad i atal neu addasu rhybuddion diogelwch. Wrth i systemau barhau i gael eu datblygu mae’n debyg y bydd brwydr barhaus rhwng y darparwyr technoleg a’r troseddwyr sydd am eu hosgoi. Yn ychwanegol, mae llawer o adroddiadau yn awgrymu bod nifer o’r agweddau technoleg fanwl gywir o amaethyddiaeth, fel systemau RTK GPS tractorau, oherwydd eu gwerth unigol uchel yn dod yn dargedau dwyn ynddynt eu hunain. Mae hyn yn dangos bod y sefyllfa yn tyfu ac esblygu o ran troseddau gwledig.
Crynodeb
Mae troseddau amaethyddol yn cynyddu yn y Deyrnas Unedig. Mae angen gwneud rhagor i gadw amgylcheddau fferm yn ddiogel a saff. Gall y dewisiadau syml ac ymarferol gynnwys cynnal cloeon a giatiau da, a chael lle dan glo i beiriannau. Ond, wrth i amaethyddiaeth symud ymlaen tuag at integreiddio technolegau’n gynyddol mae’n ymddangos bod swyddogaeth glir i’r rhain ei chwarae i hybu diogelwch. Mae synwyryddion a dyfeisiadau cysylltiedig eisoes yn cael eu defnyddio ar ffermydd i fonitro’r tywydd a’r anifeiliaid bob awr o’r dydd, felly pam na allwch chi ddefnyddio’r rhain i fonitro diogelwch trwy’r amser. Yn y dyfodol gall technolegau integredig cysylltiedig ar gyfer diogelwch helpu ffermwyr i deimlo’n ddiogel yn eu gweithle/cartref gan helpu i leihau eu premiwm yswiriant a lleihau costau troseddau.
Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk