27 Chwefror 2023

 

Saba Amir, IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae Dermanyssus gallinae yn fygythiad difrifol i ieir dodwy ac i gynhyrchiant wyau mewn sawl rhan o’r byd
  • Mae ymwrthedd i widdonladdwyr a newidiadau mewn deddfwriaethau plaladdwyr wedi ei gwneud yn anodd rheoli D. gallinae
  • Mae Dull Rheoli Plâu Integredig yn cynnig dull cynaliadwy o reoli ac delio â D.gallinae sy’n dda i adar, pobl a’r amgylchedd.

 

Cyflwyniad

Mae gwiddon coch dofednod, Dermanyssus gallinae, yn un o'r prif fygythiadau i ieir dodwy mewn sawl rhan o’r byd. Maent yn achosi problemau iechyd a lles difrifol a cholledion economaidd aruthrol. Amcangyfrifir, yn Ewrop yn unig, fod colledion oherwydd gwiddon coch dofednod yn werth €130 miliwn. Mae’n bosibl bod plâu gwiddon coch dofednod i’w cael mewn rhwng 60% a 85% o’r cyfleusterau wyau masnachol yn y Deyrnas Unedig. Cawsant eu beio fel fector trosglwyddo ar gyfer llawer o bathogenau rhwng ieir, fel Borrelia anserine (cyfrwng achosol boreliosis), a firws brech dofednod a rhai pathogenau milheintiol fel Salmonela. Ni fu erioed yn hawdd rheoli gwiddon coch dofednod ond wrth i’r diwydiant dofednod droi cefn ar systemau cewyll confensiynol, mae gwiddon coch dofednod yn debygol o gael ei weld yn fwy helaeth a bod yn anos ei reoli. Yn draddodiadol defnyddiwyd gwiddonladdwyr synthetig i’w trin ond mae ffordd benodol y gwiddon o fyw, gan guddio mewn craciau ac agennau yn ei gwneud yn anodd cyrraedd atynt. Felly, dim ond poblogaeth fechan o’r gwiddon sy’n dod i gysylltiad â chwistrellau gwiddonladdwyr. At hynny, mae ymwrthedd i widdonladdwyr yn cynyddu ac adroddwyd am driniaethau’n methu ym mhob cwr o’r byd. Yn Ewrop mae llawer o widdonladdwyr wedi colli eu trwydded defnyddio oherwydd rheoliadau defnyddwyr a diogelwch. Un dull gweithredu addawol yw’r System Rheoli Plâu Integredig a ddatblygwyd gan y Prosiect Rheoli Gwiddon a ariennir gan Raglen Gogledd-orllewin Ewrop Interreg (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop). Mae’r erthygl dechnegol hon yn ymdrin yn fyr â bioleg y pryfed ynghyd â’r pryderon ynglŷn ag iechyd a lles ieir, gan ganolbwyntio ar reoli gwiddon coch dofednod drwy ddefnyddio’r system Rheoli Plâu Integredig.

 

Bioleg D.gallinae

Ectoparasit sugno gwaed bychan yw’r D.gallinae, mae’n byw oddi ar gorff yr anifail lletyol gan guddio mewn craciau ac agennau gerllaw man gorffwys yr iâr. Mae’n tua 1.5mm o hyd ac yn amrywio o liw llwyd i frown/coch yn ddibynnol ar y statws bwyta. Mae’n treulio llawer o’i gylch bywyd oddi ar gorff yr anifail lletyol ac yn mynd at yr anifail i fwyta yn bennaf rhwng machlud haul a’r wawr. Ei oriau mwyaf actif yw 5 i 11 awr ar ôl iddi dywyllu. Yn ystod y dydd, mae’r gwiddon yn byw ynghudd ym mhob agen bosibl, er enghraifft mewn waliau neu loriau, yn nythod yr anifail lletyol, dan bresebau a chlwydi, ar sarn sych, ar feltiau cludo wyau, bocsys cardfwrdd a chewyll cludo.

Ffig 1: D.gallinae dan ficrosgop

 

Ceir 5 cyfnod yn ei gylch bywyd; wy, larfa, protonymff, deutonymff, a’r oedolyn fel y gwelir yn y ffigur.

Mae’r amodau mewn siediau dofednod gan gynnwys tymheredd rhwng 20 a 25oC a lleithder cymharol o 70%, yn ffafriol i atgynhyrchu gwiddon coch dofednod. Fe all y cylch bywyd fod cyn fyrred â 5.5 i 7 niwrnod ar 25-37oC a chyn hired â 17 diwrnod ar 20oC. Fe all gwiddon coch dofednod fod yn bresennol gydol y flwyddyn, ond mae’r dwyseddau mwyaf i’w cael yn ystod tymhorau poeth a llaith. Gan fod trosiant ieir dodwy yn fwy na blwyddyn, fe allant ddod i gysylltiad ag amodau o’r fath yn ystod unrhyw gylch cynhyrchu gan roi i widdon coch dofednod y cyfle i luosogi. Fe all gwiddon coch dofednod oroesi yn ddigon hir i heintio unrhyw haid newydd, mewn achosion eithriadol, fe allant fyw am hyd at 8 mis heb fwyd. Felly, hyd yn oed pan fo’r siediau yn wag rhwng cylchoedd cynhyrchu, ni ellir cael gwared ar y gwiddon hyn.

Ffig 2: Cylch bywyd gwiddon coch dofednod, D.gallinae

 

Patholeg adar sy’n destun parasitiaid

Ar lefel nad yw’n lladd, mae gwiddon coch dofednod yn achosi

  1. Straen aruthrol i’r ieir oherwydd diffyg cwsg a hunan-bigo
  2. Lefelau bwyta cynyddol ond bydd y phorthiant yn llai effeithlon
  3. Gostyngiad yn niferoedd yr wyau a’u hansawdd oherwydd plisgyn tenau a smotiau gwaed
  4. Dirywiad yng nghyflwr yr adar

 

 Fe all plâu difrifol arwain at effeithiau mwy difrifol fel anaemia, pigo plu yn ymosodol a chanibaliaeth ac yn olaf, farwolaeth.  

Ffig 3: Canlyniadau plâu gwiddon coch dofednod mewn ieir

 

Dull confensiynol o reoli gwiddon coch dofednod

Roedd y dull confensiynol o reoli gwiddon coch dofednod yn golygu defnyddio gwiddonladdwyr synthetig ond mae eu tueddiad i geisio lloches mewn mannau anghysbell a byw am gyfnodau hir heb bryd gwaed wedi ein hatal rhag eu rheoli. Yn y Deyrnas Unedig, mae gwiddonladdwyr seiliedig ar phoxim, abermectin a pythreroid, wedi cael eu cymeradwyo i’w defnyddio ond adroddir ac arsylwir yn eang ar ymwrthedd i’r cemegau hyn. Canfu arolwg o ffermwyr ym Mhrydain a wnaed yn 2004, fod dros 60% wedi gweld plâu a oedd ag ymwrthedd i widdonladdwyr a, gan fod y cynhyrchion weithiau’n cael eu defnyddio’n  amhriodol, mae’r broblem wedi gwaethygu ers hynny. Mae deddfwriaeth fwy caeth ynglŷn â chynhwysion actif yn golygu bod llai o gynhyrchion ar gael. Er enghraifft, nid yw’r organoffosffad poblogaidd, fenitrothion, wedi’i drwyddedu mwyach yn y Deyrnas Unedig. Ymysg y cyfyngiadau ychwanegol a geir ar ddefnyddio gwiddonladdwyr confensiynol y mae bod rhaid cadw cynhyrchion o’r gadwyn fwyd am gyfnod hwy ar ôl eu defnyddio, ac ni chaniateir trin pan fo adar yn dodwy wyau. Caiff y rheoliadau hyn eu gweithredu i leihau’r risg o weddillion cynhyrchion sydd, yn ôl yr adroddiadau, yn broblem fyd-eang. Mae symudiad oddi wrth deunyddiau synthetig yn cael ei ysgogi gan ymwybyddiaeth defnyddwyr a’r galw am nwyddau heb blaladdwyr ynddynt.

 

Strategaeth Rheoli Plâu Integredig

Mae’r Dull Rheoli Plâu Integredig, a ddatblygwyd gan y Prosiect Rheoli Plâu yn strategaeth i reoli rhywogaethau plâu, sy’n gynaliadwy ar gyfer anifeiliaid, pobl, a’r amgylchedd. Mae’n cynnwys wyth o gamau, lle mae atal y gwiddon rhag cael eu cyflwyno i siediau dofednod, a monitro’r plâu, yn gamau hanfodol er mwyn eu rheoli’n gynaliadwy. Yn bennaf, caiff strategaethau a thactegau sy’n ddiogel i’r amgylchedd ac nad ydynt yn cynnwys cemegau eu defnyddio i atal a rheoli’r rhywogaethau plâu. Ni chaiff triniaethau cemegol ond eu defnyddio yn niffyg dewis arall ar ôl i’r triniaethau heb gemegau fethu ac ar ôl cyrraedd trothwy gweithredu. Mae’r adrannau isod yn rhoi trosolwg ar bob cam o’r strategaeth rheoli plâu integredig ar gyfer rheoli gwiddon coch dofednod ar ffermydd ieir dodwy.

 

Cam 1. Atal a Ffrwyno’r Boblogaeth

Cam cyntaf un y dull rheoli plâu integredig yw atal poblogaethau newydd o widdon coch dofednod rhag dod i mewn i siediau ieir dodwy a lledaenu. Mae plâu gwiddon coch dofednod yn digwydd nid yn unig ar ffermydd ieir dodwy ond hefyd mewn heidiau ieir magu ac ar ffermydd magu, ac fe allant oroesi a lledaenu pan fo cywennod, wyau, a thail yn cael eu symud, ond fe all mesurau bioddiogelwch da eu hatal rhag lledaenu cymaint ar draws y cyfleusterau. Rhaid ystyried mesurau ataliol yn ystod y cyfnod cynhyrchu a rhwng cylchoedd dodwy, yn ogystal ag wrth adeiladu neu sefydlu cyfleusterau newydd.

 

Yn ystod y cyfnod cynhyrchu

  1. Y mesur cyntaf yw cyfyngu ar nifer yr ymwelwyr allanol a defnyddio rheoliadau bioddiogelwch caeth megis gwisgo offer gwarchodol personol a ddarperir gan y cwmni, rhwystrau hylendid a gwisgo esgidiau gwahanol mewn gwahanol siediau ar gyfer staff ac ymwelwyr.
  2. Rhaid sicrhau nad oes gwiddon ar gywennod a’u cewyll pan gânt eu cludo. Felly, mae’n hanfodol bod magwyr cywennod yn monitro plâu yn eu hadeiladau ac yn rhannu eu data monitro gyda’r cynhyrchwr wyau.
  3. Rhaid sicrhau nad oes dim gwiddon ar focsys a chynwysyddion wyau a gaiff eu cludo’n rheolaidd i mewn ac allan o’r cyfleusterau.
  4. Mae rhaglen rheoli plâu dda yn hanfodol oherwydd fe wyddys bod gwiddon coch dofednod yn lledaenu drwy fermin.
  5. Rhaid cael gwared ar adar marw cyn gynted â phosibl oherwydd bod gwiddon coch dofednod yn gallu byw arnynt. Rhaid osgoi defnyddio ystafell storio cyrff marw wrth ymyl y siediau wyau dodwy nac i fyny yn erbyn wal allanol y cyfleuster ieir dodwy, a dylai’r cyfryw gyfleusterau gael eu glanhau a’u diheintio’n aml ar ôl symud y cyrff marw oddi yno.
  6. Rhaid storio tail ar wahân i’r sied ieir dodwy oherwydd fe all fod yn ffynhonnell ail-heintio.
  7. Rhaid selio pob crac ac agen.
  8. Rhaid carthu’r tail yn rheolaidd o leiaf 6 gwaith yr wythnos. Fe allai glanhau’r beltiau tail hefyd helpu os yw’r un belt yn mynd drwy’r gwahanol siediau.

 

Rhwng cyfnodau cynhyrchu

Mae siediau gwag yn rhoi cyfle i gyrraedd llefydd na ellir eu glanhau pan fo’r ieir yn bresennol, er enghraifft:

 

  1. Cynghorir yn gryf ichi lanhau â dŵr poeth a sebon yn hytrach na sych-lanhau (mae’r tabl isod yn dangos yr holl gamau)
  2. Os yw arian a’r seilwaith yn caniatáu, dylid gwresogi’r siediau dofednod yn raddol i dros 45oC am o leiaf 2 ddiwrnod. Mae hyn yn denu gwiddon allan o’u cuddfannau.
  3. Gellir hefyd chwistrellu cemegau lladd gwiddon mewn siediau gwag.  Ond yng nghyd-destun dull rheoli plâu integredig, ni ddylid defnyddio triniaethau cemegol/synthetig fel mesurau atal; yn hytrach ni ddylid ond eu defnyddio pan nad yw triniaethau gwella ac atal heb gemegau yn ddigonol.

 

Tabl 1: Dulliau glanhau i’w defnyddio yn ystod y cyfnod gwag er mwyn rheoli plâu gwiddon coch dofednod i’r eithaf mewn sied ieir dodwy yn ôl Mul et al. 2020

 

Cam 2. System monitro gwiddon

Heb offer monitro iawn, ni fyddwch yn sylwi ar blâu nes bo casgliadau o widdon i’w gweld, neu pan welir smotiau gwaed ar yr wyau neu pan gaiff gweithwyr eu brathu. Ond erbyn hynny, mae fel arfer yn rhy hwyr i’w rheoli yn llwyddiannus. Rhai o’r offer:

 

  1. Sgôr Monitro gwiddon (MMS) – Mae hyn fel arfer yn golygu archwilio ardal o 1 m2 â’r llygaid mewn gwahanol fannau a lefelau yn y sied a rhoi sgôr o (0-4) i amcangyfrif maint y pla. Amgyffrediad gweledol yw hwn ac nid yw felly’n ddigon sensitif.

Ffig 4: Trosolwg ar gyfer dehongli'r canlyniadau monitro a’r trothwyon a ddiffinnir gan AviVet.

 

2. Trapiau Llaw – Mae nifer o wahanol drapiau llaw ar gael ar y farchnad, megis trapiau cardfwrdd rhychiog, trap dŵr, tâp gludiog, trap AviVet, trap Velcro. Cânt eu gosod mewn gwahanol leoliadau yn y sied. Caiff y gwiddon eu cyfrif a’u pwyso â llaw yn ôl y cyfarwyddiadau a ddaw gyda’r trap naill ai gan y ffermwr neu drwy eu hanfon yn ôl at y cyflenwr i gael eu hasesu mewn labordy. Mae’r rhain yn ddibynadwy ond gallant fod yn llafurddwys.

3. Trap Cyfrif Gwiddon Awtomataidd – Mae’r trap hwn yn cyfri’r gwiddon wrth iddynt fynd i mewn. Ar ôl eu cyfrif, caiff y gwiddon eu symud drwy eu sugno ag aer i mewn i hidlydd. Rhaid glanhau’r hidlydd bob wythnos rhag iddo flocio.

 

Cam 3. Penderfyniadau ynglŷn â thriniaethau ar sail monitro a throthwyon

Pan fo poblogaethau gwiddon coch dofednod yn cynyddu ac yn cyrraedd y trothwy a osodir yn y cynllun monitro, defnyddir triniaeth gemegol. Drwy ddefnyddio’r “trothwy gweithredu’ hwn, ni chaiff y driniaeth/gweithgaredd eu cyflawni’n rhy fuan nac yn ormodol, gan osgoi canlyniadau niweidiol i’r amgylchedd, costau diangen a rhag iddynt fagu ymwrthedd. Ar y llaw arall, ni chaiff y driniaeth ei chychwyn yn rhy hwyr, gan adael lle i’w rheoli’n effeithiol. Ar hyn o bryd, ni cheir trothwy rhagnodedig ar gyfer gwiddon coch dofednod ac mae’r prosiect Rheoli Gwiddon yn gweithio i bennu trothwy addas.

 

Cam 4. Dulliau Trin Heb Gemegau

Gyda dull rheoli plâu integredig, caiff gwiddonladdwyr synthetig eu hosgoi; fe all y triniaethau cemegol a restrir isod eu defnyddio fel mesur ataliol dan gam 1 neu fel mesur iachaol pan fo’r boblogaeth widdon wedi mynd dros y trothwy.

 

  1. Cynhyrchion planhigion – Mae ganddynt weithgaredd gwenwynig a gwiddonladdol ond maent hefyd yn gweithio fel cynnyrch i ymlid neu atynnu pryfed. Effeithiau gwenwynig bychan iawn, os o gwbl, a gânt ar famaliaid a’r amgylchedd ac fe allant gyrraedd cuddfannau’r gwiddon ar ffurf anwedd. Mae nifer o astudiaethau wedi dangos effeithiolrwydd cynhyrchion planhigion fel ewgenol, cyfansoddyn bioactif clofs a rhin hadau neem yn erbyn gwiddon coch dofednod, ond gall y rhain fod yn gyfansoddion byrhoedlog.  
  2. Rheolaeth fiolegol – Mae defnyddio gelynion naturiol yn erbyn plâu yn gyffredin iawn mewn garddwriaeth. Bychan iawn yw’r effaith ar yr amgylchedd a chaiff y risg o ddatblygu ymwrthedd ei lleihau drwy ddefnyddio dulliau rheoli biolegol. Mae gwiddon ysglyfaethus fel arfer yn cael eu rhyddhau fel mesur ataliol. Mae’r strategaeth ar gyfer niferoedd, amlder, a mannau rhyddhau yn dibynnu ar nifer yr ieir a threfniant y siediau.

Ffig 5: Mae ewgenol o glofs (chwith) a rhin hadau neem (dde) yn gynhyrchion planhigion addawol ar gyfer rheoli gwiddon coch dofednod

 

 

iii. Dulliau ffisegol – Gellir defnyddio llwch anadweithiol fel llwch silica synthetig neu bridd diatomaidd naturiol i drin gwiddon coch dofednod. Dim ond pridd diatomaidd naturiol a ganiateir ar ffermydd organig. Maent yn gweithio drwy sychu ysgerbwd allanol y gwiddon, gan wneud ymwrthedd yn annhebygol, ond fe all beri perygl anadlol i bobl oherwydd y gronynnau mân. Mae cynhyrchion silica hylifol hefyd ar gael, ond efallai na fyddent mor effeithiol oherwydd bod llwch a gweddillion wedi crynhoi. Fe all glanhau’r arwynebau cyn rhoi silica ei wneud yn fwy effeithiol. Mae triniaeth wres (a drafodir yng ngham 1) hefyd yn ffordd effeithiol o reoli gwiddon.

Ffig 6: Llwch anweithredol, pridd diatomaidd (chwith) a thywod silica (dde) a ddefnyddir fel cymhorthion ffisegol i reoli gwiddon coch dofednod

 

  1. Cyfuniad o’r dulliau uchod – Mae llawer o astudiaethau wedi dangos bod cyfuniad o’r dulliau uchod yn fwy effeithiol na defnyddio un ohonynt.

 

Cam 5. Defnyddio gwiddonladdwyr cemegol penodol

Mae dull rheoli plâu integredig yn caniatáu defnyddio gwiddonladdwyr cemegol ond ddim ond yn niffyg pob dim arall. Rhaid dewis gwiddonladdwyr yn ofalus a defnyddio’r dognau cywir i atal ymwrthedd a sicrhau mwy o lwyddiant. Cynhyrchion dethol yw’r dewis cyntaf er mwyn lleihau’r effaith ar rywogaethau nad ydynt yn darged, ond nid oes dim un yn gwbl ddethol ar gyfer gwiddon coch dofednod. Mae’r rheoliadau yn amrywio yn ôl gwledydd yr UE. Mae cyffur a wneir o fluralaner, a roddir drwy’r dŵr yfed, wedi dod i’r farchnad yn ddiweddar. Mae ar gael ar bresgripsiwn yn unig, mae’n lladd yn gyflym ar ôl pryd o waed, ac mae’r cyfnod cadw o’r gadwyn fwyd yn 0 ar gyfer wyau ac yn 14 diwrnod ar gyfer cig ac offal. Fe’i caniateir mewn systemau ffermio organig ond fod rhaid cadw cynhyrchion o’r gadwyn fwyd am gyfnod hwy.

 

Cam 6. Defnyddio llai o blaladdwyr

Gallwch ddefnyddio llai o blaladdwyr cemegol drwy ddefnyddio dull wedi’i dargedu megis chwistrellu ar fannau problemus neu ddefnyddio trapiau yn llawn plaladdwyr yn hytrach na chwistrellu’r sied gyfan. Drwy drin yn lleol, rydych yn defnyddio llai o blaladdwyr ac mae’r effeithiau negyddol ar elynion naturiol yn llai. Mae cynhyrchion seiliedig ar fluralaner a roddir mewn dŵr yfed yn ddull targededig arall.

 

Cam 7. Strategaethau atal ymwrthedd

Adroddwyd yn helaeth am ymwrthedd gwiddon coch dofednod i widdonladdwyr cemegol fel carbamadau, pyrethroidiau a’r organoffosffad phoxim. Mae’r tebygolrwydd bod ymwrthedd yn datblygu yn cynyddu pan gaiff cynhyrchion eu defnyddio ar y dognau anghywir, neu’n rhy aml, a chaiff hyn ei gadarnhau gan y nifer gyfyngedig o gemegau a ganiateir. I sicrhau llwyddiant dull rheoli plâu integredig i reoli gwiddon coch dofednod, dylid rhoi ystyriaeth i gamau i atal datblygiad ymwrthedd yn erbyn triniaethau naturiol yn ogystal â thriniaethau cemegol. I leihau datblygiad ymwrthedd, gellir cymryd y camau canlynol

  1. Peidio â rhoi dognau rhy fach neu beidio â defnyddio cynnyrch yn amlach na’r hyn a argymhellir.
  2. Defnyddio dulliau cyflwyno wedi’u targedu fel y trafodir yng ngham 6.
  3. Cyfuno a/neu gylchdroi cynhyrchion gyda gwahanol ddulliau gweithredu.
  4. Drwy gymryd camau rheoli ataliol yn y ffordd briodol, gellir lleihau’r angen am widdonladdwyr cemegol ac felly ddatblygiad ymwrthedd.

 

Cam 8. Gwerthuso

Mae gwerthuso yn angenrheidiol i ganfod pa mor effeithiol yw’r driniaeth ac i wneud addasiadau i’r strategaethau rheoli plâu integredig. Mae’n holl bwysig eich bod yn monitro poblogaethau’r gwiddon coch dofednod yn rheolaidd i asesu effaith triniaethau a’r strategaeth rheoli plâu integredig. Nid yw un strategaeth rheoli plâu integredig unffurf yn bosibl oherwydd newidynnau fel y tymheredd, lleithder, arferion hwsmonaeth, brid yr ieir a ffactorau economaidd. Y nod yw creu strategaethau dynamig, y mae modd eu haddasu sy’n asesu’n barhaus y dull a ddefnyddir ar fferm benodol.

Crynodeb

Y gwiddon coch dofednod yw’r ectobarasit sugno gwaed pwysicaf mewn cyfleusterau ieir dodwy. Mae’r gwiddon hyn yn peri pryderon difrifol o ran iechyd a lles, gan gael effaith niweidiol ar gynhyrchiant ieir ac arwain at golledion economaidd aruthrol. Nid yw brathiadau ar weithwyr dofednod yn anghyffredin. Mae dulliau rheoli confensiynol gan ddefnyddio gwiddonladdwyr cemegol yn arwain at ddyfodiad poblogaethau sydd ag ymwrthedd i widdonladdwyr ac mae prinder cemegau sydd wedi’u trwyddedu i’w defnyddio, oherwydd rheoliadau diogelwch, yn awgrymu bod triniaethau amgen yn ofynnol ar frys.  Mae’r Prosiect Gwiddon wedi datblygu strategaethau rheoli plâu integredig ar sail egwyddorion protocolau rheoli plâu integredig sefydledig ym maes garddwriaeth. Mae’n cyfuno wyth o gamau gwahanol, ac ymysg y camau hynny, atal y pla rhag cael ei gyflwyno i siediau dofednod a monitro yw’r rhai allweddol. At hynny, mae’n canolbwyntio ar driniaethau heb gemegau, gyda chemegau dim ond yn cael eu defnyddio yn niffyg pobeth arall. Mae bwlch mawr i’w gael yn y wybodaeth am bennu’r camau gweithredu a’r trothwy economaidd er mwyn penderfynu pa bryd y mae gofyn defnyddio gwiddonladdwyr cemegol. Mae’r diffyg brechlyn yn erbyn gwiddon coch dofednod hefyd yn llesteirio rhyw gymaint ar lwyddiant dull rheoli plâu integredig. Mae’r Prosiect Rheoli Gwiddon yn gweithio i roi sylw i’r materion hyn.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr