28 Gorffennaf 2020

 

Dr Cate Williams a Dr David Cutress: IBERS, Prifsygol Aberystwyth.

 

  • Mae sgorio llenwad rwmen (RFS) yn dechneg sylfaenol, weledol o fonitro faint o fwyd sy’n cael ei fwyta a’r cydbwysedd egni mewn buchod llaeth.
  • Cysylltir sgoriau RFS isel â chydbwysedd egni negyddol mewn buchod sy’n trosglwyddo – pan fydd y fuwch yn defnyddio mwy o egni nag y gall ei gymryd i mewn.
  • Gall cydbwysedd egni negyddol arwain at afiechydon metabolig amrywiol ac mae’n achosi diffyg ffrwythlondeb, felly bydd ei ganfod yn gynnar a’i atal rhag gwaethygu yn werthfawr iawn.
  • Gall technoleg fanwl gywir ar ffurf camerâu 3D ddileu elfen oddrychol RFS a’i wneud yn offeryn mwy cywir ac effeithlon.

 

Mae sgorio llenwad rwmen yn gwneud yr hyn y mae’n ei ddweud – mae’n system sgorio weledol i asesu pa mor lawn yw’r rwmen, sy’n cael ei ddiffinio fel cyfanswm yr hylif a chynnwys sych (kg) yn y rwmen. Mae’r sgôr hon yn adlewyrchu’r cynnwys sych sy’n cael ei gymryd (DMI), cyfansoddiad y ddogn, treuliad a chyfradd y symud trwy’r system. Mae’n ddefnyddiol ar gyfer dod o hyd i broblemau o ran cymryd porthiant a all fod yn arwydd o amrywiaeth o afiechydon. Gall sgorio llenwad rwmen hefyd fod yn arwydd o awch bwyd y fuwch sy’n gostwng cyn lloea ac felly gellir ei ddefnyddio fel dangosydd bras o eni llo yn absenoldeb unrhyw afiechyd. 

 

Sut i’w wneud

Er mwyn asesu llenwad rwmen, defnyddiwch ochr chwith y fuwch tu ôl i’r asen olaf, dan gnap traws yr asgwrn cefn ac o flaen asgwrn y glun (Ffigwr 1). Efallai y gallwch deimlo ardal sydd ychydig yn fwy cadarn sy’n arwydd o fat ffibr y rwmen – uwch ben y rhan hylifol - gydag ychydig o nwy ar ei ben weithiau (sy’n cael ei ddangos trwy ran feddalach). Mae sgôr llenwad rwmen yn adlewyrchu yr hyn sydd wedi ei fwyta yn y 2–6 awr diwethaf ac mae’r targedau yn wahanol gan ddibynnu ar statws ffisiolegol y fuwch (Ffigwr 2).

Ffigwr 1: Llun o fuwch yn dangos yr ardal i’w gwerthuso wrth roi sgôr llenwad rwmen.

 

Mae’r sgorio ar raddfa o 1 i 5, gydag 1 yn dynodi nad yw’r fuwch wedi bwyta yn ddiweddar a 5 yn awgrymu bod y fuwch wedi bwyta digon yn y 2-6 awr diwethaf (Ffigwr 2). Mae RFS o 1 neu 2 yn destun pryder, yn arbennig dros gyfnod maith (2-3 diwrnod), mae’n awgrymu nad yw’r fuwch yn bwyta digon o fwyd a all fod oherwydd amrywiaeth o ffactorau y dylid ymdrin â nhw (Ffigwr 2). Mae’n bwysig nodi bod sgoriau RFS targed yn amrywio gan ddibynnu ar statws yr anifail, er enghraifft, dylai buchod sy’n llaetha anelu at 3.0 a buchod sych, 4.0 (Ffigwr 2). Mewn buchod sych, mae’r wterws beichiog yn cymryd mwy o le yn yr abdomen gan arwain at fwy o chwydd.

 

Ffigwr 2: Darlun diagramatig o sgorio llenwad rwmen, wedi ei addasu o AHDB.

 

Beth all llenwad rwmen ei ddweud wrthym?

Mae astudiaethau diweddar yn awgrymu y gellir monitro faint o fwyd sy’n cael ei fwyta gan ddefnyddio RFS sydd yn ei dro yn ddefnyddiol i ganfod afiechydon yn gynnar, yn arbennig ar gyfer problemau metabolig sy’n cael eu hachosi gan gydbwysedd egni negyddol (NEB).

Bydd cydbwysedd egni negyddol yn digwydd yn aml yn ystod y cyfnod trosglwyddo  (yr adeg ychydig cyn lloea ac ar ôl hynny) pan fydd y gofynion am egni yn fawr ond y DMI yn isel. Pan fydd NEB yn digwydd, bydd y fuwch yn defnyddio mwy o egni nag y gall ei gymryd i mewn - problem gyffredin iawn ar gyfer buchod cynhyrchiol iawn. Mae hyn, yn ei dro, yn cyfrannu at broblemau ffrwythlondeb, yn arbennig wrth i weithgaredd arferol yr ofarïau ailgychwyn, felly mae’n bwysig cadw’r cydbwysedd egni i sicrhau ffrwythlondeb ac iechyd da a chynhyrchiant ar ei orau. Y bwyd a fwyteir yw’r dull mesur delfrydol ar gyfer monitro statws egni; ond, mae hefyd yn cymryd amser ac nid yw’n ymarferol asesu pob buwch unigol bob dydd. Mae proffilio metabolig trwy sampl gwaed hefyd yn ddewis da ar gyfer monitro a gall roi llawer iawn o wybodaeth ychwanegol ond gall fod yn gostus ac mae’n cymryd amser i greu canlyniadau. Sgorio llenwad rwmen wrth fynd i mewn – mae astudiaethau yn awgrymu bod cysylltiad cryf rhwng RFS a’r porthiant syn cael ei fwyta a gall gael ei gyflwyno yn hawdd trwy wiriadau dyddiol pan fydd buchod yn dod i mewn neu yn gadael y parlwr. Rhaid i RFS gael ei fesur ar yr un amser o’r dydd i bennu gwahaniaethau mewn DMI a thrwy hynny'r cydbwysedd egni. Darganfu astudiaethau oedd yn ymchwilio i’r berthynas rhwng RFS a metabolion gwaed pwysig o ran cydbwysedd egni bod cysylltiad cryf, yn arbennig tua diwedd y cyfnod sych. Canfu gwaith pellach  bod cysylltiad rhwng RFS a statws egni ar ôl geni llo a’r cyfebu dilynol gyda’r AI cyntaf. Isaf yn y byd yw’r sgôr llenwad rwmen a/neu hiraf yn y byd y bydd yn aros yn isel, y mwyaf tebygol yw’r anifail o gael NEB ar ôl geni llo. Gall yr un peth fod yn wir am gyfebu ar yr AI cyntaf, gan nad yw’r rhai â llenwad rwmen gwael ac NEB yn ailddechrau eu cylch atgenhedlu arferol.

Roedd astudiaeth ddiweddar a ariannwyd gan Cyswllt Ffermio yn ymchwilio i’r ddolen rhwng amrywiaeth o baramedrau ag iechyd lloeau’r fuches laeth. Canfu’r astudiaeth bod tuedd i loeau mamau â sgôr llenwad rwmen o 3 neu lai 1 wythnos cyn bwrw llo ddangos cynnydd dyddiol llai ar gyfartaledd (ADG) wrth eu cymharu â’r rhai ag RFS o 5. Mae dadansoddiad o’r celloedd imiwnedd o’r gwaed a gymerwyd o’r lloeau hyn hefyd yn awgrymu y gall hyn fod wedi cael effaith negyddol ar eu system imiwnedd.

Y brif broblem gyda sgorio llenwad rwmen yw ei natur oddrychol – yn naturiol bydd amrywiadau gan ddibynnu pwy sy’n sgorio’r anifail. Mae technolegau da byw manwl gywir yn un maes datblygu all gynorthwyo wrth symud oddi wrth natur oddrychol RFS traddodiadol. Datblygwyd systemau yn barod i greu darlun 3D o wartheg wrth iddynt fynd i mewn i barlwr godro ac maent hyd yn oed wedi eu gosod y tu allan i orsafoedd systemau godro awtomataidd (AMS). Gall camerâu gymryd mesuriadau manwl gywir o fuchod unigol dros amser a chysylltu’r rhain â’u tagiau EID. Datblygwyd systemau cynnar i asesu sgoriau cyflwr corff anifeiliaid, pwysau’r corff, nodweddion carcas a ragwelir ac asesu eu safiad a’u cerddediad i ganfod cloffni. Dangoswyd bod y systemau hyn yn fwy cywir na dadansoddiad gweledol 2D gan y gallant asesu ceudod corff y fuwch a allai fod yn addas iawn i sgorio llenwad rwmen. Er nad oes tystiolaeth wyddonol uniongyrchol am ddefnyddio technoleg dadansoddi delweddau wrth sgorio llenwad rwmen, dylid nodi bod Prifysgol Gwyddorau Cymathus Prifysgol Centria yn y Ffindir trwy gyllid UE a ddarparwyd gan y prosiect AFarCloud, wedi datblygu system i sganio ac asesu llenwad rwmen. Mae’r system hon yn dadansoddi yr hyn y maent yn ei alw yn “geudod angen bwyd” (gweler ffigwr 1) gwartheg sy’n mynd i mewn i’r bloc AMS i gael eu godro/porthi. Gall y dull hwn gael gwared o’r costau llafur ac agwedd oddrychol RFS yn ogystal â chynnig catalog cywir o sgorau blaenorol i gymharu â nhw. Gallai hyn alluogi’r defnyddiwr i ddatblygu gwerthoedd unigol, cyffredinol ar gyfer pob buwch yn gyflym a rhwydd a chaniatáu newidiadau mwy cynnil.

 

Crynodeb

Mae sgorio llenwad rwmen yn offeryn sylfaenol ond defnyddiol sydd â’r potensial i roi gwybodaeth am statws ffisiolegol y fuwch, ei hawydd bwyd a chynnwys y porthiant. Gwelir sgoriau llenwad rwmen isel yn aml mewn gwartheg yn y cyfnod trosglwyddo pan fydd y DMI wedi gostwng. Cysylltir sgoriau RFS isel â chydbwysedd egni negyddol mewn buchod sy’n trosglwyddo – pan fydd y fuwch yn defnyddio mwy o egni nag y gall ei gymryd i mewn. Gall cydbwysedd egni negyddol arwain at amrywiaeth o broblemau metabolig a phroblemau ffrwythlondeb, felly bydd ei ganfod yn gynnar a’i atal rhag gwaethygu yn strategaeth werthfawr iawn. Mae awgrym hefyd y gall cysylltiad fodoli rhwng RFS a iechyd y llo, gydag astudiaeth yn canfod y gall RFS isel yn y fam arwain at ADG gwael a diffyg imiwnedd yn y llo. Mae potensial mawr ar gyfer technoleg fanwl gywir ar ffurf camerâu 3D i ddileu elfen oddrychol RFS a lleihau’r amser sydd ei angen i’w gyflawni, gan roi gwybodaeth gywir iawn. Trwy eu gosod yn y parlwr neu system odro awtomatig, gall y camerâu hefyd fonitro sgôr cyflwr corff a chloffni, gan gynnig dull holistaidd o ymdrin â iechyd gwartheg.

 

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr