30 Medi 2020

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Cig moch yw un o brif ffynonellau cig y byd ers dros 40 blynedd
  • Nod technolegau manwl gywir yw gwella effeithlonrwydd, cynhyrchedd a lles anifeiliaid yn y sector moch ac mae’r rhan fwyaf o’r technolegau hyn yn cael eu defnyddio mewn systemau cynhyrchu graddfa fawr
  • Mae’n ymddangos bod y sector moch ar flaen y gad o ran ei ddefnydd o dechnolegau manwl gywir i dargedu’r elfen bioddiogelwch sydd mor bwysig ag erioed

 

Cefndir

Yn ôl ffigyrau’r FAO (Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig) cig moch yw’r cig mwyaf poblogaidd ers diwedd yr 1970au, a dim ond yn ddiweddar iawn (2016 ymlaen) y mae cig dofednod wedi bod ar y blaen iddo. O’i gymharu â thwf cyflym y sector dofednod, mae’r diwydiant cynhyrchu moch wedi dal ei dir ac wedi cyflenwi rhwng 35 a 40% o’r farchnad cynhyrchu cig fyd-eang yn ystod y cyfnod hwn. Gan fod disgwyl i boblogaeth y byd dyfu erbyn 2050 i lefel a fyddai’n golygu bod angen rhwng 50 a 60% yn ychwanegol o fwyd, mae’n amlwg y bydd y diwydiant moch yn chwarae rhan bwysig wrth gyflenwi’r allbwn hwn. Mae sector cig moch y Deyrnas Unedig  wedi gweld lefelau defnydd eithaf sefydlog ynghyd â chynnydd bychan mewn ffermio hunangynhaliol yn ystod y 4 - 5 mlynedd diwethaf, gan awgrymu naill ai bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n ffermio moch neu bod ffermydd wedi dod yn fwy effeithlon. Gyda phryder cynyddol am gynaliadwyedd ar draws pob sector ffermio, mae sicrhau cynnydd cyson yn y lefelau cynhyrchu yn hanfodol a bydd dulliau mwy effeithlon yn allweddol yn y mater hwn. Mae’n rhaid i gynhyrchwyr geisio cynhyrchu mwy gan gydbwyso’r angen i gynnal neu leihau’r tir amaethyddol a ddefnyddir (oherwydd gallai’r tir sy’n cael ei ryddhau gael ei ddefnyddio i gynhyrchu rhagor o fwyd neu fel rhan o strategaethau i liniaru allyriadau nwyon tŷ gwydr) a chynnal safonau lles uwch i nifer cynyddol o anifeiliaid. Mae cynnal y safonau lles anifeiliaid uwch hyn yn fater pwysig mewn amgylchoedd sy’n dod yn fwy dwys oherwydd y cynnydd yng nghymhareb yr anifeiliaid i’r gweithwyr stoc a nodir bod hyn yn broblem yn Ewrop lle mae nifer y gweithwyr sydd ar gael  yn gyfyngedig ac yn ddrud (€ 25 yr awr), gan arwain at bwysau i wella perfformiad llafur a dulliau awtomatig. Mae technolegau manwl gywir da byw yn ei gwneud yn bosibl i fonitro’n gyson niferoedd mawr o anifeiliaid heb lafur (ar lefel unigol mewn llawer o achosion) yn ogystal â dulliau prosesu amser real sy’n cael eu gyrru gan ddata i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol a rhybuddion i ffermydd, gan wella arferion rheoli. Er bod y diwydiant moch wedi bod yn sefydlog yn y tymor hir ac wedi gweld cynnydd cyson, roedd disgwyl i ffigyrau ostwng ar ddiwedd 2019 oherwydd Clwy Affricanaidd y moch  yn China (sy’n cynhyrchu tua 45% o’r holl gig moch yn fyd-eang) a gwledydd eraill yn nwyrain Asia. Mae strategaethau i reoli clefydon a gwella iechyd moch yn gyffredinol yn faes arall lle gallai technolegau manwl gywir chwarae rhan bwysig yn y sector hwn. Nod yr erthygl hon yw cynnig trosolwg ar feysydd lle mae’r dechnoleg yn cael ei datblygu neu mae eisoes ar gael yn fasnachol yn y sector cig moch a nodi’r buddion mae’n ceisio eu cynnig.

 

Datblygiadau ym maes technoleg fanwl gywir

Adnabod anifeiliaid

Un o’r ffactorau allweddol wrth reoli nifer cynyddol o anifeiliaid a chynnal y capasiti i fonitro unigolion mewn grŵp yw’r gallu i adnabod anifeiliaid penodol yn gywir. Mae hyn yn bwysig gan fod angen i ddata penodol gael eu cysylltu ag anifeiliaid unigol er mwyn rheoli’r anifail hwnnw yn y dull gorau posibl, boed y data hwnnw yn ymwneud â phwysau, cymeriant porthiant, cyfradd twf neu statws iechyd. Mae technolegau adnabod amleddau radio (radio frequency identification: RFID) yn dod yn fwyfwy cyffredin ar draws y sector amaeth ac maent fel arfer yn cael eu gosod mewn tagiau clustiau anifeiliaid. Mae gwahanol fathau o RFID wedi cael eu treialu mewn moch, o systemau amledd isel i systemau uchel iawn. Mae’n rhaid i systemau amledd isel gael eu gosod yn agos at y darllenwyr ond maent wedi cael eu defnyddio’n helaeth mewn systemau cloriannau pwyso awtomatig a systemau porthi. Mae systemau amledd uchel iawn hefyd wedi cael eu hasesu yn arbrofol i geisio olrhain llawer o foch ar yr un pryd, ond mae’r dechnoleg gyfredol yn sensitif iawn i ymyriant gan feinweoedd clustiau moch. Prif anfanteision dulliau adnabod amleddau radio yw’r posibilrwydd y byddant yn dod yn rhydd o’r anifail a’r ffaith eu bod yn adnabod anifeiliaid unigol, ond gellid datrys y materion hyn drwy ddefnyddio dulliau adnabod sy’n defnyddio delweddau.

 

Dadansoddi delweddau

Mae technegau delweddu i adnabod ac olrhain yn gwbl anfewnwthiol ac nid oes angen unrhyw gyswllt gydag anifeiliaid, gan olygu eu bod yn rhydd i ymddwyn yn fwy naturiol (gan leihau llawer o risgiau bioddiogelwch ar yr un pryd). Mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud i adnabod moch unigol gan ddefnyddio systemau camerâu traddodiadol a chamerâu 3D. Oherwydd pwysau yn y diwydiant i gynhyrchu cynhyrchion unffurf gall fod yn anodd defnyddio dulliau dadansoddi delweddau i wahaniaethu rhwng moch, neu hyd yn oed rhwng pen a chynffon yr anifail. Oherwydd hyn, mae llawer o’r systemau hyn yn dal i ddibynnu ar osod elfennau wedi’u hargraffu, eu chwistrellu neu eu tagio ar gefn y moch y gall cyfrifiadur eu hadnabod yn haws. Yn ddiweddar, mae gwaith ymchwil wedi symud ymlaen i asesu gwahaniaethau cynnil yn wynebau moch fel dull adnabod, gan osod camerâu ar yr un uchder â’r moch ger offer yfed neu borthi. Mae nodweddion fel crychau uwchben y trwyn, marciau ar y pen ac o amgylch y llygaid yn dangos y gwahaniaethau gorau rhwng anifeiliaid ac maent wedi profi i fod yn ddulliau adnabod mor gywir â 96.7% mewn rhai astudiaethau. Awgrymwyd y gallai’r dechnoleg hon hefyd gael ei defnyddio yn y dyfodol i ganfod achosion o syndromau cwymp y groth mewn hychod (gan fod yr allwthiadau yn weledol) sydd wedi’u nodi fel problem gynyddol yn y diwydiant gan arwain at ragor o achosion o ewthanasia.

Yn ogystal ag adnabod anifeiliaid, mae dulliau dadansoddi delweddau hefyd wedi cael eu defnyddio i asesu gwahanol fathau o ymddygiad, gan gynnwys; dadansoddi ymsymudiad (sy’n gwella lles ac sy’n cael ei ddefnyddio i ganfod oestrws, amser dod â moch bach a nodweddion afiechydon clefydon fel heintiau Clwy Affricanaidd y moch), canfod achosion o gnoi cynffonnau (gwella lles), dadansoddi ymddygiad yn gysylltiedig â beichiogrwydd (gwella iechyd), canfod cyfradd resbiradaeth (fel arwydd o straen gwres), canfod achosion niweidiol o fynd ar gefn moch (gwella iechyd, yn enwedig mewn moch gwyryw iach) ac ymateb i amodau amgylcheddol (optimeiddio’r amgylchedd ar gyfer twf a lles). Gall monitro ymddygiadau roi mwy o reolaeth i ffermwyr dros eu hanifeiliaid heb fawr ddim llafur ychwanegol. Mae llawer o’r systemau mwy cymhleth hyn wedi bod yn weddol araf i gael eu cyflwyno i’r farchnad fasnachol  ac mae’n bosibl bod hyn oherwydd diffyg cydweithio rhwng ymchwilwyr. Mae’n ymddangos bod llawer o’r systemau yn cael eu cynhyrchu drwy ddechrau o’r dechrau, yn hytrach na defnyddio agweddau ar waith ymchwil sydd eisoes wedi cael eu datblygu a’u mireinio.

Yn y pen draw, cig carcasau moch yw prif allbwn y sector ac felly gall mesur hyn yn gywir fod yn bwysig yn y cyfnod cyn-lladd i gael adborth a allai gael ei ddefnyddio i wella ansawdd, ac yn y cyfnod ar ôl lladd fel offeryn adolygol. Gall delweddu cyseiniant magnetig (MRI) fod yn offeryn pwerus i asesu nodweddion cig moch mewn moch magu gan helpu rhaglenni bridio dewisol. Mae tomograffeg gyfrifiadurol (CT) yn offeryn arall sy’n gallu edrych ar y cynnwys cig braster isel a ffactorau ansawdd carcasau eraill mewn moch byw wrth reoli a bridio dewisol er mwyn gwella enillion cynhyrchu. Awgrymwyd y gellid cynnwys dadansoddiad uwchsain mewn unedau/siediau moch fel rhan o system dadansoddi twf wedi’i hawtomeiddio. Wrth adael ardaloedd porthi, gallai moch gerdded drwy system uwchsain a fyddai’n gallu asesu ansawdd y carcas drwy fesur trwch braster y cefn. Dangoswyd y gallai systemau o’r fath helpu i wella cymeriant porthiant i sicrhau cyfansoddiad bwyd ac ansawdd gorau posibl y carcas yn y cyfnod lladd.   

 

Mae defnyddio dulliau o bell, anfewnthiol, i bwyso llawer o anifeiliaid ar unwaith yn barhaus yn ffordd bosibl arall o ddefnyddio systemau masnachol (fel eYeScan ac eYeGrow gan Fancom) sy’n defnyddio camerâu 2D a 3D i olrhain y cynnydd cyfartalog ym mhwysau lloc o foch pesgi. Mae systemau eraill yn ystyried defnyddio camerâu 3D i awtomeiddio mesuriadau a fyddai wedi gofyn am lawer o lafur yn y gorffennol (fel mesur o amgylch y galon). Trwy gyflwyno gwell dulliau wedi’u hawtomeiddio o fonitro pwysau anifeiliaid, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos,  mae’n bosibl targedu addasiadau i borthiant neu baramedrau amgylcheddol er mwyn sicrhau’r enillion cynhyrchu gorau posibl.

 

Cymeriant dŵr

Mae darparu cyflenwad dŵr yn allweddol i les anifeiliaid a thwf ac iechyd parhaus pob math o dda byw. Mae mesuryddion dŵr ‘clyfar’ integredig yn fath o dechnoleg fanwl gywir sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin mewn systemau magu dan do, fel rhai moch a dofednod. Gall mesuryddion ddarparu gwybodaeth am y defnydd o ddŵr ar draws siediau cyfan, adrannau penodol neu lociau unigol er mwyn helpu i reoli lefelau hydradiad moch. Gall lefelau cymeriant moch unigol  gael eu canfod drwy osod dyfeisiau adnabod amledd radio mewn niplau yfed i sylwi ar newidiadau mewn proffiliau yfed arferol a allai fod yn gysylltiedig â chlefydau, straen neu unrhyw bryderon iechyd a lles eraill.

 

Porthi a chymeriant porthiant

Mae dulliau porthi manwl gywir yn defnyddio technolegau i sicrhau bod y symiau cywir o borthiant gyda’r lefelau a gwerthoedd maeth addas, yn cael eu cyflenwi’n fuan i grwpiau neu anifeiliaid unigol, gan arwain at well effeithlonrwydd, cynaliadwyedd, iechyd, lles a lefelau cynhyrchu optimaidd. Mae’n weddol gyffredin i unedau cynhyrchu moch mawr gael porthwyr awtomatig sy’n cynnwys darllenwyr tagiau RFID ac sy’n defnyddio gwybodaeth arall (fel proffiliau twf) ar y moch unigol i roi dogn borthiant benodol. Yn hollbwysig, dangoswyd bod ymddygiad porthi yn ffordd dda o adnabod pa hychod beichiog sy’n fwyaf tebygol o golli eu hepil drwy sylwi eu bod yn treulio llai o amser nag arfer wrth y porthwyr. At hyn, mae cymeriant porthiant hychod sy’n llaetha yn cael effaith enfawr ar oestrws llwyddiannus parhaus a phwysau a pherfformiad torllwythau ar ôl eu geni, a gellir monitro hyn yn gywir gyda systemau porthi awtomatig. Trwy gynnwys cloriannau pwyso awtomatig ger y porthwyr hyn, gall ffermwyr optimeiddio moch i’w tyfu-pesgi drwy gymarebau dadansoddi newydd ychwanegol sy’n cymharu’r cynnwys asid amino uniongyrchol i’w roi i bob mochyn er mwyn cynyddu dyddodiad protein a chynnydd dyddiol.       

   

 

Oestrws a ffrwythlondeb

Gall canfod oestrws ac ofwliad gael effaith fawr ar lwyddiant ymhadiad, gan gynyddu gwerthoedd cynhyrchu a lleihau costau sy’n gysylltiedig â llafur a sberm pan fydd sawl ymhadiad yn cael ei wneud. Yn gyffredinol, 24 awr cyn ofwlaid yw’r amser gorau i ymhadu moch, fodd bynnag, er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyfle hwn bydd moch yn cael eu ymhadu sawl gwaith bob 24 awr o amgylch cyfnodau ofwliad yn seiliedig ar archwiliadau gweledol. Er bod systemau awtomatig blaenorol fel Dategate wedi lleihau’r galw am lafur ac wedi gwneud ymhadu yn fwy llwyddiannus, gellid gwella hyn ymhellach drwy gynnwys technologau penodol i ganfod oestrws. Mae technegau masnachol i ganfod oestrws, fel PigWatch yn seiliedig ar newidiadau ymddygiad y sylwir arnynt drwy ddefnyddio synwyryddion symudiad ar anifeiliaid unigol neu gamerâu i sylwi ar newidiadau yn ymddygiad llawer o foch ar yr un pryd. Mae dulliau mwy arbrofol hefyd yn cynnwys newidiadau mewn tymheredd sy’n gysylltiedig â dechrau oestrws y gellir eu canfod drwy ddefnyddio dyfeisiau yn y llawes goch a thermograffeg isgoch.

 

Systemau amgylcheddol

Gan fod cynhyrchu moch ar raddfa fawr yn digwydd o dan do, mae agweddau amgylcheddol gan gynnwys tymheredd, goleuadau, nwyon, lleithder ac awyru yn llawer haws eu rheoli’n gywir. Gall amodau amgylcheddol anghywir gyfyngu ar effeithlonrwydd cynhyrchu, perfformiad a lles, yn ogystal ag arwain at gynnydd mewn achosion o glefydau, marwoldeb a straen gwres. Mae llawer o systemau masnachol ar gael i fonitro’r amgylchedd cyfan, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu cynnig gan Fancom sy’n ei gwneud yn bosibl i gywiro amodau yn awtomatig gan wella amodau mewnol yn gyson. Mae systemau o’r fath yn gysylltiedig â rheolyddion gwresogi ac awyru ac maent yn gallu cynnal amodau sefydlog ond gellid eu cyfuno hefyd â chanlyniadau ymchwil er mwyn helpu i ragweld yn well unrhyw achosion o glefydau yn y dyfodol (a rhybuddio amdanynt). Mae achosion o glefydau wedi cael eu cysylltu â newidiadau yn nhymheredd yr uned neu newidiadau o ran lleithder a CO2,yn debyg i’r hyn sy’n destun ymchwil prosiect CIEL ym Mhrifysgol Newcastle.

 

Bioddiogelwch

Mewn dogfen ddiweddar gan Cyswllt Ffermio, nodwyd bod diogelwch yn ystyriaeth allweddol yn y diwydiant cynhyrchu moch ac mae ei bwysigrwydd yn amlwg wrth ystyried yr achosion o ffliw moch yn 2009 ac achosion diweddar o Glwy Affricanaidd y moch. Mae’n ymddangos mai’r sector moch yw’r sector da byw cyntaf sy’n ystyried y defnydd penodol o dechnolegau manwl gywir i adnabod a rheoli meysydd risg bioddiogelwch yn eu systemau. Mae technolegau masnachol (er enghraifft, PigCHAMP - Biorisk®) yn ceisio olrhain symudiadau gweithwyr ar draws gwahanol ardaloedd y fferm drwy system gyfathrebu sy’n defnyddio derbynyddion mewn parthau dynodedig o ddiddordeb (e.e. mynedfeydd ysguboriau ac ystafelloedd offer) sy’n codi signalau o’r trosglwyddyddion Bluetooth mae’r staff yn eu gwisgo. Os bydd haint yn lledaenu mae’r system hon yn golygu bod modd newid cynlluniau olrhain a rheoli yn fanwl gywir i atal rhagor o heintiau neu gall y staff dan sylw gael eu hyfforddi i leihau’r perygl y bydd achosion o’r haint yn y dyfodol. Gwelodd treialon ar gyfer rheoli syndrom atgenhedlu ac anadlu pathogenig moch (PRRS) fod symudiadau anniogel unigolion rhwng ardaloedd wedi’u heintio wedi lleihau hyd at 27% ac roedd yr achosion o PRRS mewn unedau porchella yn dangos gostyngiadau o 50% ar ôl gweithredu’r systemau hyn. Mae ymarferoldeb a chanlyniadau’r systemau hyn yn awgrymu y gallai’r strategaeth fod yn addas iawn i sectorau da byw eraill yn y dyfodol.

Mae systemau robot i’w cael ar ffurf systemau glanhau wedi’u hawtomeiddio. Hyd yma, mae’r systemau hyn yn gwbl annibynnol ac yn dilyn trefn benodol ac nid yw’n bosibl eu haddasu ac asesu’r gwaith glanhau, ac mae hyn yn aml yn arwain at ragor o waith i weithwyr fferm os nad yw’r peiriannau wedi glanhau yn effeithiol. Gallai cynnwys dadansoddi delweddau a dysgu peiriannau mewn systemau o’r fath wella hylendid a bioddiogelwch, gan leihau gofynion llafur hefyd.

 

Lles ac iechyd

Mae gan dechnolegau fel mesuryddion cyflymiad, synwyryddion pwysau, dyfeisiau canfod tymheredd, canfod sain a chyfradd y galon y potensial i wella iechyd a lles.
Roedd y sector cynhyrchu cig moch ar flaen y gad wrth ddefnyddio synwyryddion sain i ganfod clefydau a straen, ac mae llawer o’r gwaith presennol yn y sectorau da byw eraill yn seiliedig ar systemau fel
Soundtalks a monitor ‘Pesychiad Moch’ Fancoms. Mae’r systemau yn canfod ansawdd ac amlder pesychiad moch a chiwiau sain eraill sy’n gysylltiedig â chlefydau resbiradol a nychdod yn ogystal â straen.

Mae mesuryddion cyflymiad (neu synwyryddion symudiad) wedi cael eu defnyddio’n bennaf i ganfod pryd bydd hychod ar fin dod â moch bach, yn debyg i systemau masnachol mewn rhywogaethau da byw eraill fel MooCall sy’n anfon rhybuddion pan fydd buwch ar fin bwrw llo. Gallai’r rhybuddion helpu i sicrhau bod hychod yn treulio’r amser lleiaf posibl yn y gawell geni a gallai hyn wella lles hychod, gyda’r awgrym y gall systemau rybuddio ffermwyr 2 - 3 awr cyn y geni.

Gall synwyryddion pwysau, yn debyg i’r rhai a ddefnyddir gyda gwartheg, mewn platiau dan draed sylwi ar newidiadau yn ngherddediad moch a chanfod achosion o gloffni yn gynt.

Mae technolegau iechyd a ffitrwydd pobl sy’n cael eu defnyddio i fonitro cyfradd y galon wedi cael eu hasesu’n ddiweddar i weld pa mor ymarferol fyddai eu defnyddio ar foch. Mae straen yn effeithio ar gyfradd y galon ac felly, gallai monitro byw helpu cynhyrchwyr i roi newidiadau rheoli ar waith i leihau cyfraddau straen. Mae profion cychwynnol yn awgrymu bod technoleg o’r fath yn gywir iawn, ond mae problemau o ran eu defnyddio ar anifeiliaid a’u gwneud yn ddigon cryf i wrthsefyll difrod corfforol ac atal achosion lle byddent yn dod yn rhydd ar ddamwain.

 

Mae’n ymddangos mai’r synwyryddion iechyd a lles mwyaf datblygedig yw’r rhai sy’n dadansoddi tymheredd. Mae tymheredd yn hanfodol i asesu iechyd anifeiliaid  ac mae unrhyw amrywiadau yn cael eu cysylltu â straen, clefydon/heintiau, salwch a newidiadau mewn oestrws hychod. Mae canfod tymheredd craidd y corff yn gywir yn gofyn am lawer o lafur i osod probiau mesur tymheredd yn rectwm pob anifail, ac felly aseswyd sawl math o dechnoleg er mwyn canfod dull awtomatig o wneud hyn, a hynny mewn ffordd llai mewnwthiol. Yr eithriad i ddulliau llai mewnwthiol yw profion systemau mewnblannu capsiwl tymheredd, ac er bod y rhain yn dangos dadansoddiadau tymheredd cywir o’u cymharu â chanlyniadau probiau yn y rectwm, mae’r angen am roi anaesthetig i anifeiliaid a chynnal llawdriniaeth i’w mewnblannu yn golygu nad ydynt yn ddewis hyfyw ar gyfer defnydd diwydiannol. Mae systemau masnachol i logio tymheredd a lleithder hefyd wedi cael eu profi ar glustiau moch, fel logwyr iButton . Er nad yw’r rhain yn cael eu hystyried yn gywir (gan fod yn rhaid i ddata gael eu casglu yn ôl-weithredol) maent wedi helpu i brofi’r cysyniad bod monitro yn helpu i ddewis bridiau oherwydd gwelwyd bod newidiadau tymheredd yn gysylltiedig ag effeithlonrwydd porthi mewn moch pesgi. Mae’r rhan fwyaf o ddatblygiadau ym maes synwyryddion tymheredd yn cynnwys offer thermograffeg isgoch gan fod y rhain yn gwbl anfewnwthiol ac os byddant yn cael eu defnyddio hyd eithaf eu gallu maent yn gallu monitro amodau tymheredd llawer o anifeiliaid ar yr un pryd. Yr ardaloedd arwyneb gorau i’w hasesu ar gyfer mesur tymereddau’r corff gan ddefnyddio’r offer hyn yw o amgylch y llygaid a’r clustiau, ac mae gwaith blaenorol gyda moch bach wedi dangos y gallant chwarae rôl i asesu eu bywiogrwydd a’u cymeriant colostrwm cychwynnol. Mae systemau eraill wedi cael eu defnyddio i fonitro iechyd moch bach yn gyffredinol,  canfod straen oerfel, canfod syched, monitro tymheredd yn ymwneud â  newidiadau amgylcheddol a monitro ymddygiad ymosodol.      

 

Mae sectorau cig eraill yn awgrymu y gallai biosynwyryddion chwarae rhan bwysicach yn y dyfodol i wella dulliau o ganfod clefydon a monitro iechyd a lles. Mae arolgyon diweddar o aelodau allweddol o’r sector moch yn yr Iseldiroedd yn awgrymu bod potensial penodol i wella dulliau o fesur hormonau yn gywir mewn amser real, gan olygu bod modd olrhain oestrws hyd yn oed yn fwy manwl a bod dulliau biometrig o adnabod moch unigol yn ystyriaeth allweddol i’r dyfodol.

 

Crynodeb

Mae cyfoeth o dechnolegau ar gael, neu yn cael eu datblygu, a all helpu i wella lles, iechyd a chynhyrchedd y sector moch. Mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n fwyfwy cyffredin, yn enwedig mewn systemau cynhyrchu graddfa fawr oherwydd y buddion maent yn eu cynnig i anifeiliaid, ynghyd â’r ffaith bod awtomatiaeth yn golygu bod angen llai o lafur. Fel yn achos y rhan fwyaf o sectorau sy’n ystyried technolegau manwl gywir, mae rhai problemau yn bodoli ynghylch hygyrchedd a’r gallu i ddefnyddio’r data a gesglir, ac mae problemau ynghylch integreiddio systemau a data o ddarparwyr gwahanol a diffyg rhyddid yng ngallu’r feddalwedd i gynhyrchu adroddiadau newydd, gan olygu bod cynhyrchwyr yn cael eu gorfodi i danysgrifio i brynu meddalwedd newydd yn ddiangen. Un mater pwysig y dylid ei nodi yw’r ffaith ei bod yn ymddangos mai’r sector moch yw’r maes cyntaf i ddefnyddio technolegau manwl gywir yn fasnachol i wella bioddiogelwch ar ffermydd. Gallai datblygu systemau o’r fath mewn sectorau eraill fod yn llwybr allweddol i wella maes sy’n cael ei ystyried yn gyson fel un diffygiol yn rheolaeth amaethyddol.   

 

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Working Towards a More Sustainable Future: Breeding Sheep for Resistance and Resilience to Gastrointestinal Nematodes
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth Rhagfyr 2023 Gall
Cyfleoedd ar gyfer y dyfodol ym maes geneteg defaid yng Nghymru: Bridio ar gyfer gwlân o ansawdd uwch
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth