Dyma gyflwyniad gan Cyswllt Ffermio a James Owen, Llywodraeth Cymru o’r ymgynghoriad Papur Gwyn Amaeth Cymru.

Mae’r Papur Gwyn Amaethyddiaeth yng Nghymru yn disgrifio’r cynlluniau ar gyfer y newid mwyaf mewn polisi amaeth a fu efallai ers degawdau. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig dod â’r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) a chynlluniau amaeth amgylcheddol eraill yr UE i ben a sefydlu cynllun cymorth uniongyrchol sengl yn eu lle. Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gwobrwyo ffermwyr am gynhyrchu canlyniadau amgylcheddol fel priddoedd wedi eu gwella, aer glân, dŵr glân, cynyddu bioamrywiaeth a gweithredu i arafu cynhesu byd-eang. Bydd hefyd yn darparu cyngor a chefnogaeth i ffermwyr a busnesau fferm.

Mae’r Papur Gwyn hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer diwygio rheoliadau amaethyddol yng Nghymru. I symleiddio’ r drefn reoleiddio, cynigir dod a’r clytwaith o reoliadau amaethyddol presennol ynghyd i greu set o Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i ffermwyr ddeall y gofynion cyfreithiol y mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â nhw. Cynigir y dylai pob ffermwr yng Nghymru gadw at y Safonau Gofynnol Cenedlaethol hyn.

Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eich ffordd o ffermio ac mae’n bwysig ein bod yn clywed eich barn ar y cynigion.

Sesiwn Holi ac Ateb


Related Newyddion a Digwyddiadau

GWEMINAR: Adolygiad Prosiect Porfa Cymru 2022
Prosiect Porfa Cymru - Adolygiad o'r Tymor Pori 2022 {"preview
GWEMINAR am wybodaeth grantiau: Cynllun Troi’n Organig - 12/07/2022
Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru Mae’r Cynllun Troi’n
GWEMINAR am wybodaeth grantiau: Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau a Buddsoddi mewn Rheoli Maetholion - 05/07/2022
Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru Mae Grantiau Bach –