Geminar addysgiadol am y gwaith sydd yn cael ei wneud yn Fedw Arian Uchaf er mwyn asesu gwrychoedd a’r cynllunio sydd wedi ei wneud er mwyn eu datblygu nhw fel adnodd aml swyddogaethol. Mae Geraint Jones, Swyddog Technegol Coedwigaeth Cyswllt Ffermio yn cyflwyno ar y pynciau canlynnol:
- A yw’r gwrychoedd yn addas at y diben?
- Cynllunio ar gyfer gwelliant a darpariaeth o gysgod.
- Arfer gorau o reoli - pryd i brysgoedio a phryd i’w gosod yn y ddaear?
- Beth yw’r stori gyda Charbon?
- Rheolau a’r cyllid sydd ar gael ar gyfer rheolaeth.
Mae Geraint Davies, Fedw Arian Uchaf yn cyflwyno trosolwg o’r cynllun adnodd dŵr ar gyfer y fferm.