Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, lansio’r Academi Amaeth, rhaglen datblygu personol clodfawr Cyswllt Ffermio, yn ystod brecwast tŷ fferm Undeb Amaethwyr Cymru yn Adeilad Pierhead, Bae Caerdydd ar 24 Ionawr 2017.

Mae’r Academi Amaeth, sydd bellach yn ei phumed flwyddyn, gyda 120 o gyn-aelodau gan gynnwys ymgeiswyr 2016, pan dderbyniwyd y nifer uchaf y ceisiadau ar gyfer y rhaglen ers ei lansio'r rhaglen yn 2012.

Nod yr Academi Amaeth yw canfod yr unigolion mwyaf addawol ac uchelgeisiol yn y diwydiant amaeth yng Nghymru heddiw, gan roi’r ysbrydoliaeth, yr hyder, y sgiliau a'r cysylltiadau sydd arnynt eu hangen i fod yn arweinwyr gwledig y dyfodol, yn bobl fusnes proffesiynol ac yn entrepreneuriaid.

Mae’r rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, ar y cyd gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, yn anelu at ddatblygu a meithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr, ac mae'r rhaglen Busnes ac Arloesedd yn cynnig datblygiad busnes a phersonol i gynorthwyo i ymateb i'r her o ffermio yn y dyfodol. Croesewir pobl ifanc rhwng 16-19 mlwydd oed sy’n ystyried gyrfa yn y diwydiannau bwyd a ffermio hefyd i ymgeisio ar gyfer Academi’r Ifanc, a gynhelir mewn cydweithrediad â CFFI Cymru.

Mae’r Academi Amaeth yn arwain y ffordd tuag at lwyddiant ym myd busnes i’w gyn-aelodau, ac mae nifer ohonynt yn rhoi clod i’r rhaglen lawn o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth ac arweiniad ar draws ystod eang o feysydd am eu llwyddiant presenol a’u cynlluniau at y dyfodol.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus eleni’n cael eu dethol gan banel o arbenigwyr amaethyddol annibynnol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Wynne Jones, OBE FRAgS. Unwaith y byddant wedi cael eu dethol, byddant yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai a seminarau heriol yn ystod tri chyfnod astudiaeth preswyl, gan gynnwys ymweliad tramor ar gyfer y ddwy raglen hŷn. Bydd pob un o aelodau’r Academi eleni’n cael gwahoddiad i seremoni a digwyddiad rhwydweithio yn Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.  

Yn ystod 2017, bydd Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig, hefyd yn darparu cyfle rhwydweithio eang sy’n dod ag ymgeiswyr pob blwyddyn flaenorol yr Academi Amaeth ynghyd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 31ain o Fawrth 2017. Am fwy o fanylion, meini prawf ac i lawr lwytho ffurflenni cais, ewch i dudalen yr Academi Amaeth.

Mae cyn-aelodau’r llynedd yn llysgenhadon gwych ar gyfer yr Academi Amaeth

Carwyn Rees (26), syrfëwr siartredig, a mab i ffermwr o Lanymddyfri, sy’n gweithio i gwmni o syrfëwyr

carwyn new
siartredig yn Sir Benfro, oedd yn fuddugol yn her Rhaglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth y llynedd.  Mae Carwyn yn rhoi clod i arweiniad mentoriaid yr Academi ac anogaeth cyd-fyfyrwyr am y ffaith ei fod bellach yn datblygu ei fenter nesaf ar y fferm, sef unedau gwersylla o safon uchel ar y maes carafanau teuluol.

“Mae fy mhrofiad gyda'r Academi Amaeth wedi gwneud i mi sylweddoli y dylwn ymgymryd â heriau newydd nawr yn hytrach na'u gohirio.  O’r diwedd, rwyf wedi rhoi fy syniadau ar waith ac wedi prynu pedair uned gwersylla newydd er mwyn ehangu ar y parc carfannau presennol.   Mae gen i gynllun busnes a fydd yn fy nghadw ar y trywydd iawn gyda thargedau ariannol ac rwyf eisoes wedi symud ymlaen gyda chynlluniau i farchnata'r busnes yn barod ar gyfer ymwelwyr yr haf."

 

geraint 2
Mae Geraint Davies (37) yn gyfrifol am reoli gweithgareddau  ar ddau ddaliad o ddydd i ddydd gyda chyfanswm o 1,200 erw ger Y Bala.Dywedodd ei fod yn gyndyn yn wreiddiol i gymryd amser i ffwrdd o’i amserlen brysur yn gofalu am 1,000 o famogiaid bridio a 200 o anifeiliaid cyfnewid yn ogystal â 30 o wartheg sugno.

Ond dywed Geraint fod ei brofiad fel myfyriwr ar y Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, a oedd yn cynnwys cwrdd ag arweinwyr polisi amaethyddol yn y Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel, wedi cynnig cyfle sydd wedi newid ei fyd, ac wedi ei gyflwyno i unigolion eithriadol.

“Rhoddodd yr Academi gyfle i mi gwrdd â chymaint o’r rhai sy’n gwneud gwahaniaeth i’r diwydiant amaeth yng Nghymru heddiw.   Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â'r Ysgrifennydd Cabinet, Lesley Griffiths ynghyd â nifer o arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru yn ystod cyfarfod breifat yn dilyn brecwast UAC. 

Mae’r Academi wedi bod yn brofiad ysbrydoledig i mi.  Mae gen i grŵp newydd o ffrindiau uchelgeisiol sy'n rhannu’r un meddylfryd â mi, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gynnal y rhwydwaith unigryw hwn o gefnogaeth a fydd, rwy'n sicr, yn fanteisiol i ni i gyd, a hefyd yn dda i'r diwydiant mewn cyfnod sydd heb yn un heriol."

 

Mae’r amgylcheddwr siartredig a’r entrepreneur cymdeithasol, Helen Howells, sy'n ffermio gyda'i theulu

helen 0
yn Llanwenog, Ceredigion yn dweud bod ei phrofiad gyda Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth wedi cyrraedd ar yr adeg iawn yn ei bywyd.

“Fel unigolyn proffesiynol, uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar dasgau penodol, mae wedi bod o fudd mawr i mi gymryd amser i ystyried fy nodau hirdymor ar gyfer fy ngyrfa. I mi, bod yn gyfarwyddwr ar fy nghwmni fy hun a chreu rhywbeth sy'n rhannu fy ngweledigaeth a'm gwerthoedd yw hynny. Mae fy nghwmni, Hwylus Cyf., yn gweithio gyda’r cyhoedd, a sefydliadau preifat a gwirfoddol, i ddarparu cyngor ar lefel strategol yn ymwneud ag ystod o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.”

“Mae'r Academi Amaeth wedi fy nghyflwyno i rwydwaith o unigolion uchelgeisiol a deinamig, a phob un yn teimlo'n angerddol dros weithio yng Nghymru wledig.  Bu hefyd yn ddefnyddiol i deithio gyda’n gilydd i gael safbwynt yr UE ar Brexit gan y bobl sydd angen ei weithredu, a gallu ystyried yr effaith ar yr ystod o systemau ffermio gwahanol yr ydym oll yn eu rheoli. Yr elfen fwyaf gwerthfawr i mi oedd gallu cerdded ochr yn ochr â rhai o ddoniau disgleiriaf y diwydiant. Rwy’n credu’n gryf yng Nghymru wledig.” 

 

cain 2
Cafodd Cain Owen (18) sy’n byw ar y fferm bîff a defaid teuluol yn Llanerchymeydd ar Ynys Môn ei dewis i sylwebu yn y prif gylch fel rhan o arlwy S4C o’r Ffair Aeaf eleni, ac mae’n dweud mai'r hyfforddiant cyfryngau a dderbyniodd fel aelod o Raglen yr Ifanc yr Academi Amaeth sy'n gyfrifol am hynny. 

“Roedd yr hyfforddiant yn gyflwyniad gwych i fyd gohebu ac roedd hi’n fraint i gael fy ngwahodd i roi fy sgiliau newydd ar waith yn y Ffair Aeaf. Rhoddodd gyfle gwych i mi ychwanegu at fy CV ac felly gobeithiaf y bydd yn arwain at gyfleoedd newydd ar gyfer profiad gwaith yn y cyfryngau amaethyddol yng Nghymru.

“Ar hyn o bryd, rwy’n astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Glynllifon yn ogystal â chynnig help llaw ar y fferm yn ystod pob munud sbâr. Diolch i’r Academi Amaeth, rwy’n bendant yn fwy meddwl agored ynglŷn â’m gyrfa ar gyfer y dyfodol.

“Mae’r Academi wedi fy nghyflwyno i rwydwaith newydd o bobl a phob un ohonynt yn uchelgeisiol ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru. Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd arbennig, ac rwy’n hyderus y byddwn yn cadw cysylltiad i barhau i gynnig cefnogaeth i’n gilydd.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites