23 Ionawr 2018

 

Cafodd rhaglen datblygu personol clodfawr Cyswllt Ffermio, sef Academi Amaeth 2018, ei lansio’n swyddogol heddiw (dydd Mawrth 23 Ionawr) gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ym mrecwast blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd. 

Mae’r Academi Amaeth bellach yn agosáu at ei chweched flwyddyn, gyda 165 o gyn-aelodau, ac mae’n dod â rhai o’r bobl fwyaf addawol sy’n creu llwybr yn y diwydiant amaeth ynghyd.     

Mae’r rhaglen unigryw hon, sy’n cael ei disgrifio’n aml gan gyn-aelodau fel rhaglen sy'n 'trawsnewid bywydau', yn cymryd lle dros dri chyfnod astudio dwys ac ymweliadau tramor, ac yn rhoi’r ysbrydoliaeth, yr hyder, y sgiliau a’r rhwydweithiau angenrheidiol i ddatblygu i fod yn arweinwyr gwledig, pobl fusnes proffesiynol ac entrepreneuriaid yn y dyfodol. Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer rhaglen eleni ar agor rhwng dydd Mawrth 23 Ionawr a dydd Gwener 30 Mawrth 2018.

Mae rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth, sy’n gydweithrediad gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, yn cynnwys tair elfen ac yn anelu at ddatblygu a meithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr ac unigolion sy’n awyddus i ddylanwadu ar yr agenda gwledig ar lefel leol, rhanbarthol ac Ewropeaidd.  Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i gyfarfod ac i lobïo ffigyrau blaenllaw Llywodraeth Cymru a’r UE yng Nghymru a Brwsel ac i ddysgu’r grefft o siarad cyhoeddus a chynnal cyfweliadau effeithiol yn y cyfryngau.

Mae’r rhaglen Busnes ac Arloesedd yn cynnig datblygiad personol a busnes sy’n gallu cynorthwyo ymgeiswyr i ymdrin â heriau ffermio yn y dyfodol, wrth iddynt rwydweithio a dysgu gan arbenigwyr blaenllaw ac arweinwyr busnes yma ac yn ystod taith astudio tramor.

Mae Rhaglen yr Ifanc, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â CFfI Cymru, wedi’i dargedu at bobl 16-19 mlwydd oed sy’n ystyried gyrfa yn y diwydiannau bwyd a ffermio. I nifer, mae’n cynnig ffocws ac arweiniad mewn cyfnod pan fo nifer yn ansicr o’u llwybr gyrfa at y dyfodol, ynghyd ag ychwanegiad perthnasol a chlodfawr i’ch CV. 

Yn ystod ei hanerchiad yn y lansiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet.

“Mae fformat yr Academi Amaeth o dri chyfnod astudio byr, dwys, eisoes wedi profi ei werth o ran paratoi’r ffordd ar gyfer llwyddo mewn busnes i gymaint o’i gyn-aelodau.

“Mae rhaglen datblygiad personol unigryw Cyswllt Ffermio o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth ac arweiniad yn rhoi cyfle i newydd ddyfodiaid uchelgeisiol, yn ogystal ag unigolion mwy profiadol, rannu syniadau a dysgu oddi wrth ei gilydd mewn amgylchedd llwyddiannus a chefnogol.

“Nid oes unrhyw rwystrau i unigolion cymwys sy’n dymuno ymgeisio ar gyfer yr Academi Amaeth ac nid oes diwedd i’r hyn y gallwch ei gyflawni wrth roi eich meddwl ar waith.   

“Mae’r Academi Amaeth wedi bod yn brofiad gwerthfawr, sydd wedi ysbrydoli cymaint o unigolion, gan roi’r hyder a’r rhwydweithiau iddynt allu cynllunio ar gyfer eu dyfodol fel arweinwyr gwledig, pobl fusnes proffesiynol a ffermwyr arloesol.” 

Dywed Einir Davies, rheolwr datblygu a mentora gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, bod rhaglen 2018 yn cynnig cyfleoedd cyffrous iawn. 

“Bydd yr ymgeiswyr a ddewisir ar gyfer y Rhaglen Busnes ac Arloesedd yn ymweld â Gwlad yr Iâ, sy’n adnabyddus am ei agwedd arloesol tuag at reolaeth amgylcheddol, ynni adnewyddadwy a dulliau ffermio cynaliadwy.   

“Mae topograffeg Gwlad yr Iâ yn debyg i Gymru gyda’r cyfuniad o dir ar lawr gwlad, ucheldir a ffermydd arfordirol, ac mae’n hunangynhaliol o ran cig, wyau a llaeth,” meddai Ms Davies.

Bydd ymgeiswyr y Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yn cwrdd ag arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru ac yn ymweld â’r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel. 

Am wybodaeth bellach, meini prawf cymhwysedd ac i lawr lwytho ffurflenni cais, cliciwch yma.

 

Jim Ellis, Rhaglen Busnes ac Arloesedd

Mae Jim Ellis (23) yn helpu ei dad i redeg y fferm wartheg a defaid ym Mhen Llŷn. Dywed fod sicrhau lle ar y Rhaglen Busnes ac Arloesedd wedi bod yn brofiad sydd wedi’i ysbrydoli.

“Mae’r rhwydweithiau a’r ffrindiau newydd yr wyf wedi’u gwneud, ynghyd â’r mentora a’r cyfarwyddyd gan arbenigwyr, wedi bod yn wych. Rwyf wedi cyfarfod cymaint o bobl fusnes sydd wedi fy ysbrydoli ac wedi rhoi ymdeimlad newydd o ffocws i mi yr wyf yn bwriadu ei roi ar waith ar y fferm ac yn rhai o fy mentrau busnes eraill.”

Ar ôl mynychu Coleg Menai, enillodd Jim le yn yr Academi Entrepreneuriaeth nodedig yn Abertawe, yn ogystal â derbyn nawdd tuag at sefydlu busnes ffotograffiaeth newydd. Ar ôl datblygu’r busnes ymhellach, ynghyd â phartner busnes, mae bellach yn rhedeg cwmni llwyddiannus sy’n arbenigo mewn ffotograffiaeth drôn a fideos ar gyfer busnesau yng Ngogledd Cymru, ochr yn ochr â’i ddyletswyddau ar y fferm. Ac mae menter busnes newydd arall ar y gweill gan Jim, gan ei fod wedi ymuno ag ymgeisydd ifanc arall ar gyfer y Rhaglen Busnes ac Arloesedd, Gareth Thomas, sy’n ffermio ger Bae Cemaes.

“Mae’r ddau ohonom yn ifanc, yn uchelgeisiol ac yn awyddus i wneud ein harian mewn marchnadoedd newydd, felly rydym wedi sefydlu menter busnes newydd ar y cyd ac yn gobeithio lansio diod egni iach newydd.” 

Dywed Jim ei fod wedi gorfod cael ei berswadio i wneud cais am raglen Academi Amaeth gan ei swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

“Roeddwn yn cymryd y byddai pawb wedi bod i goleg amaethyddol ac mai ffocws technegol fyddai i’r rhaglen yn bennaf, felly nid oeddwn yn meddwl ei bod yn addas i mi! Mewn gwirionedd, fel y mae’r enw’n ei awgrymu, roedd y ffocws ar fusnes ac arloesedd – dau faes sydd o ddiddordeb gwirioneddol i mi fel ffermwr ac entrepreneur!

“Er fy mod bellach wedi dychwelyd adref, rwyf bellach yn treulio cryn amser yn ffermio ar lawr gwlad, ac rwy’n awyddus i ddefnyddio fy sgiliau entrepreneuraidd gyda phopeth yr wyf yn ei wneud, felly mae clywed sut yr oedd busnesau ffermio eraill yn sicrhau gwell effeithlonrwydd ac elw trwy feincnodi a chadw costau i lawr wedi fy ysbrydoli i wneud pethau’n wahanol.

“Roedd y daith astudio i’r Swistir yn anhygoel, ac roedd cyfle i ddysgu o’r newydd bob munud o bob dydd. Roedd mor berthnasol siarad efo ffermwyr sy’n gweithredu y tu allan i’r UE, ac sy’n sylweddoli, er bod y wlad yn meddu ar ymreolaeth, eu bod yn dal i gael eu cyfyngu gan reolau Ewrop, oherwydd y byddai o anfantais iddynt beidio.

“Mae’n destun pryder meddwl bod y Swistir wedi dewis perthynas lle maen nhw wedi dyweddïo ond heb briodi â’r UE, tra ein bod ni yn y Deyrnas Unedig yn anelu at gael ysgariad!”

 

Teleri Fielden - Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig

Cafodd Teleri Fielden (27 oed), ysgolhaig diweddaraf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol / CFfI yn Llyndy Isaf, ei dewis ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig 2017.  Dywedodd Teleri fod ffermio wedi neidio cenhedlaeth yn ei theulu. Mae ei thad-cu, sy’n ffermio ym Meifod, yn dweud ei bod wedi gwneud ei bwriad o fod yn ‘ffarmwraig’ yn glir i’r teulu pan oedd hi’n bedair oed. Ers hynny, mae hi wedi treulio pob gwyliau yn helpu ar fferm ei thad-cu.

Cafodd Teleri ei magu yn Wrecsam, cyn mynd i astudio daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth gan ychwanegu modiwlau ar amaethyddiaeth, yr amgylchedd, cynaliadwyedd a gwleidyddiaeth, sydd wedi cynnal ei diddordeb yn yr ystod o agweddau amaethyddol. Ar ôl graddio, aeth i California am bedwar mis i wirfoddoli gyda chyngor polisïau bwyd. Yna, dychwelodd i Gymru, ac er iddi deimlo ar goll i raddau ymysg y llu o raddedigion a ffrindiau a oedd yn chwilio am waith, llwyddodd i gael swydd datblygu bwyd gyda Menter a Busnes. Roedd hi wedi bod yn meithrin ei sgiliau marchnata ac yn mwynhau ei rôl yn hybu cynnyrch Cymreig am dair blynedd. Serch hynny, roedd Teleri yn awyddus i weld mwy o’r byd, felly, symudodd i Chamonix i weithio mewn cyrchfan sgïo ac i ddysgu’r iaith.  

“Wnes i fwynhau dysgu Ffrangeg a’r ffordd gyfandirol o fyw ond roeddwn i’n gweld eisiau’r gwaith ymarferol ar y fferm, felly, pan ddaeth y tymor sgïo i ben, ymunais â fferm ymchwil a gwneud cais am gwrs diploma mewn amaethyddiaeth,” dywedodd Teleri, sydd hefyd wedi helpu hyfforddi a rasio ceffylau rasio’r fferm.

Pan oedd yn Ffrainc, cafodd Teleri gynnig i rannu fferm, ond erbyn hynny, roedd hi’n barod i ddychwelyd i’w gwreiddiau yng Nghymru. Cafodd ei phenodi i swydd marchnata a swyddog aelodaeth gydag UAC yn Aberystwyth, gan helpu ar ffermydd cyfagos yn ei hamser hamdden, er mwyn dysgu mwy o sgiliau ymarferol. Llynedd, cafodd Teleri ei darbwyllo gan ei chydweithwyr yn UAC i geisio ychwanegu hyd yn oed yn fwy at ei CV trawiadol trwy ymgeisio i’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig. 

“Ar ôl cael swydd nôl yng Nghymru, roeddwn i’n teimlo mai dyna’r amser i wella a chyfarfod â phobl o’r un meddylfryd a phobl gyda’r un nod a’r un uchelgeisiau, a dyna pam wnes i hefyd gais am ysgoloriaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol / CFfI.”

Roedd y daith i Frwsel gyda’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig wedi ysbrydoli Teleri.

“Roedd e’n rhoi hyder i mi wrth sylweddoli bod y materion rydym ni’n eu trafod adref yn yr undebau ffermwyr a’r clybiau ffermwyr ifanc yn medru effeithio ar y polisïau fydd yn cael eu penderfynu yn y dyfodol.  

“Mae ffermwyr yr UE yn gweithio mewn hinsawdd wleidyddol ansicr, felly mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud gymaint ag y gallwn ni i baratoi ar gyfer y dyfodol trwy gynnal busnesau modern a chynaliadwy sy’n gwneud elw.

“Mae alumni yr Academi Amaeth, bellach wedi cael yr hyfforddiant a’r gefnogaeth sydd eu hangen er mwyn sicrhau ein bod ni’n lleisio barn am y pethau rydyn ni’n credu ynddyn nhw.  Rwy’n gwybod y byddwn ni’n cyfrannu i sgyrsiau galluog a chytbwys gyda’n gilydd, gyda’n cymunedau gwledig a’r arweinwyr polisi sy’n gwneud penderfyniadau fydd yn effeithio ar ein dyfodol.”

Yn Eryri mae rhwydweithiau diweddaraf Teleri oherwydd ei rôl yn Llyndy Isaf ac mae’n benderfynol o gymryd rhan cymaint â phosib nes i’r ysgoloriaeth ddod i ben yn hwyrach eleni.   

“Rwy’n siŵr y bydd dosbarth 2017 yn cadw mewn cysylltiad ac yn cadw ffocws - gallwn ni gyflawni llawer wrth gefnogi’n gilydd a defnyddio ein rhwydweithiau a’n sgiliau newydd. Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau fod pobl yn clywed beth sydd gennym ni i’w ddweud ym mha bynnag ffordd sydd ei angen, gan gynnwys dadleuon ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn helpu sicrhau ffyniant ein diwydiant.”

 

Morley Jones – Rhaglen yr Ifanc

Mae’r deuddeg mis diwethaf wedi bod yn brysur iawn i Morley Jones (17) sy’n byw gartref ar fferm bîff a defaid y teulu ym Mhontsenni, ond nid yw’n argoeli bod pethau’n arafu’n fuan! Nid yn unig dewiswyd Morley i ymuno â Rhaglen yr Ifanc yr Academi Amaeth, hefyd enillodd un o’r lleoliadau gwerthfawr yn yr ysgol haf yng Ngholeg Brenhinol y Milfeddygon. Dywed fod y ddau brofiad yma wedi gwella hyd a lled ei wybodaeth yn ogystal â sicrhau rhwydweithiau newydd gwerthfawr.

Mae Morley, sydd â’i fryd ar fod yn filfeddyg yng nghefn gwlad Cymru, ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer ei lefel A a’r Fagloriaeth Gymreig yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, ond mae hefyd yn gobeithio y gall gyfuno ei yrfa fel milfeddyg yn y dyfodol a’i ddiddordeb mewn iechyd gwartheg bîff â’i hoffter o wleidyddiaeth a siarad cyhoeddus. Ynghyd â’i ymrwymiadau academaidd a helpu gartref, mae Morley yn aelod brwd o CFfI Pontsenni.

“Mae ffermwyr yn wynebu dyfodol ansicr wrth i ni anelu tuag at adael yr UE, ond nawr yw’r amser i bobl ifanc ganolbwyntio eu hymdrech a’u huchelgais er lles y diwydiant, a cheisio canfod ffyrdd i gyfrannu’n effeithiol at yr economi gwledig.”

Yn ogystal â chael ei ysbrydoli gan y mentoriaid a’r ffermwyr niferus a gyfarfu trwy’r rhaglen, dywed Morley ei fod yn arbennig o ddiolchgar o gael cynnig profiad gwaith yn swyddfa’r prif filfeddyg yn Llywodraeth Cymru'r gwanwyn hwn.

“Mae profiad gwaith yn un o’r elfennau mwyaf gwerthfawr ar unrhyw CV, felly rwy’n ddiolchgar iawn ac yn edrych ymlaen ato. Mae bod yn rhan o Academi yr Ifanc wedi fy helpu i werthfawrogi mor bwysig yw ehangu eich rhwydwaith, gwrando ar syniadau newydd a chael llwyfan i leisio eich barn eich hun, yn arbennig ar yr adeg bwysig honno pan ydych yn dechrau gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

“Roedd ein hymweliad astudiaeth i Iwerddon yn wych. Roedd yn agoriad llygaid gweld maint un o orsafoedd ymchwil amaethyddol mwyaf Iwerddon. Mae’n bosibl cyflawni cymaint os yw’r Llywodraeth a’r diwydiant yn gweithio gyda’i gilydd mewn harmoni.”

“Rwy’n gwerthfawrogi bod yn rhaid i ffermwyr drwy’r DU gystadlu am gymorth ac adnoddau gan y llywodraeth yn erbyn nifer o ddiwydiannau eraill, ond yn Iwerddon, amaethyddiaeth sy’n cael y flaenoriaeth.  

“Roedd y ffermwyr a’r cyflenwyr Gwyddelig y gwnaethom eu cyfarfod yn dystiolaeth, fod gweithio’n agos gyda’r llywodraeth, yn sicrhau bod y manwerthwyr eisiau gwerthu cynnyrch o safon o Iwerddon a bod eu cwsmeriaid eisiau ei brynu. 

Gyda’r agwedd honno, a thrwy addysgu pawb yn y gadwyn gyflenwi yn ogystal â’r cyhoedd, gall pob un ohonom ddatblygu ein busnesau a rhoi’r flaenoriaeth ar fod y cynhyrchwyr bwyd o ansawdd mwyaf modern, mwyaf proffidiol yn y byd gorllewinol.”

Cliciwch yma i weld rhagor o'n astudiaethau achos!


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites