5 Chwefror 2020

 

“Mae treulio amser yn ymweld â busnesau gwledig mewn gwahanol ranbarthau yn ffordd werthfawr i weld arfer gorau ar waith, darganfod ffyrdd newydd o weithio a rhoi hwb o’r newydd i’ch busnes eich hun,” meddai Gwenan Davies un o ffermwyr ifanc CFfI Mydroilyn, a ymunodd â saith aelod arall o’r clwb Hydref diwethaf i fynd ar daith astudio Cyswllt Ffermio am dri diwrnod i’r Alban. Y pwnc dan sylw oedd arallgyfeirio.   

Gydag amserlen lawn i gasglu gwybodaeth, bu’r grŵp yn ymweld â nifer fawr o fentrau gwledig oedd wedi arallgyfeirio yn cynnwys cynllun twristiaeth a chanolfan farchogaeth; busnes cigydd a fferm gwartheg a defaid oedd wedi arallgyfeirio i redeg busnes cludiant llwyddiannus. Arhosodd yr aelodau gyda theuluoedd o’r Alban oedd yn gysylltiedig â’u CFfI eu hunain. Ar ddiwedd eu hymweliad, roedd yn glir fod pob un o ffermwyr Ceredigion wedi’u hysbrydoli, dysgwyd nifer o wersi a thrafodwyd a lleisiwyd barn yn agored.  

Mae Marged Jones sy’n aelod o CFfI Mydroilyn ac mae ei theulu’n rhedeg fferm laeth a pharc carafanau ger Cei Newydd. Dywedodd Marged fod yr ymweliad wedi rhoi’r hyder i’r grŵp feddwl yn fwy cadarnhaol am eu syniadau a chredu bod unrhyw beth yn bosibl os ydych yn gwneud eich ymchwil ac yn dechrau ar raddfa y gallwch ymdopi â hi. Dydi nifer o fentrau newydd ddim bob amser mor gostus i’w sefydlu, ac nid oes cymaint o risg yn perthyn iddyn nhw ag y mae rhywun yn ei feddwl ar y dechrau.  

“Buom yn ymweld ag Ingliston Country Club, sydd mewn llai na 12 mlynedd, trwy gynllun datblygu graddol, wedi mynd o fod yn fferm fach gydag ychydig o stablau dan ofal aelodau’r teulu’n unig, i fusnes gyda 200 o stablau sy’n cyflogi dros 160 o staff,” meddai Marged. 

Dywedodd Gwenan fod pawb yn unfrydol bod y daith astudio wedi bod yn gyfle buddiol iawn.

“Erbyn ein bod yn teithio’n ôl i Gymru, roedd ymdeimlad bod pawb wedi cael profiad a gwybodaeth werthfawr iawn, ac rwy’n credu bod pob un ohonom yn benderfynol o weithredu rhywfaint o’r hyn a welwyd ac a ddysgwyd yn ôl gartref.”  

Mae tri deg pedwar o ffermwyr a choedwigwyr o Gymru, gyda meysydd diddordeb tra gwahanol, wedi gallu gweld drostyn nhw eu hunain yr hyn sydd wedi gwneud ystod eang o fusnesau gwledig drwy’r DU yn llwyddiannus, diolch i raglen teithiau astudio bresennol Cyswllt Ffermio. Maent yn cynnwys nifer o grwpiau CFfI, cymdeithasau gwartheg a thir glas, aelodau grŵp trafod Cyswllt Ffermio, mentrau cydweithredol llaeth ac eidion a nifer o rai eraill, pob un ohonynt yn benderfynol o ddysgu popeth posibl am y pynciau a ddewiswyd yn seiliedig ar brofiadau mentrau tebyg.

Mae’r cyfnod ymgeisio nesaf ar gyfer teithiau astudio yn dechrau ddydd Sadwrn, 1 Chwefror ac mae’n dod i ben ddydd Gwener, 28 Chwefror. Bydd angen i bob grŵp gyflwyno ffurflen gais, yn cynnwys enw(au) neu fath(au) o fentrau y maent yn dymuno ymweld â nhw cyn y gellir neilltuo arian. Mae disgwyl i bob grŵp gadw cofnod o’i ganfyddiadau i rannu gydag eraill ar ôl dychwelyd.

Pwysleisiodd Sioned Llywelyn, rheolwr datblygu a mentora gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar y cyd â Lantra Cymru r ran Llywodraeth Cymru, fanteision dysgu fel grŵp, gydag aelodau’n gallu trafod eu syniadau ar gyfer tyfu busnesau’n rhydd gyda’r rhai y maent yn ymweld â nhw yn ogystal â gyda’i gilydd. 

“Ar yr amod eich bod wedi cofrestru fel unigolyn gyda Cyswllt Ffermio a’ch bod yn gallu creu grŵp sy’n cynnwys o leiaf tri unigolyn o’r un meddylfryd i wneud cais grŵp, buaswn yn eich annog i ddechrau ymchwilio i’r math o fusnes yr hoffech ymweld ag ef a chyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

“Mae hwn yn gyfle gwych i’r rhai sy’n gweithio yn ein diwydiant i weld sut mae arloesedd, technolegau newydd a pharodrwydd i arallgyfeirio’n trawsnewid effeithlonrwydd a phroffidioldeb nifer o fusnesau llwyddiannus drwy’r DU.”

Mae hyd at £3,000 fesul grŵp ar gael i ariannu 50% o gost pob taith astudio. Gallwn ariannu hyd at bedwar diwrnod yn ymweld â mentrau penodol yn unrhyw le yn y DU.  

I weld adroddiadau llawn am holl deithiau astudio blaenorol Cyswllt Ffermio ac i lawrlwytho telerau, amodau a ffurflen gais 2020 cliciwch yma.

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch am deithiau astudio Cyswllt Ffermio, cysylltwch â sioned.llywelyn@menterabusnes.co.uk neu ffoniwch 01970 631421. 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu